C'mon Midffîld!: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 16: Llinell 16:
Harri = [[Rhys Richards (actor)|Rhys Richards]]

Harri = [[Rhys Richards (actor)|Rhys Richards]]

Graham = [[Mal Lloyd (actor)|Mal Lloyd]]

Graham = [[Mal Lloyd (actor)|Mal Lloyd]]

Jean Parri = [[Bethan Gwilym]]

==Rhyddhau==
==Rhyddhau==
Rhyddhawyd y gyfres mewn set o 10 DVD rhwng [[2005]] <ref name="archifsain" /> a [[2007]].
Rhyddhawyd y gyfres mewn set o 10 DVD rhwng [[2005]] <ref name="archifsain" /> a [[2007]].

Fersiwn yn ôl 12:53, 25 Hydref 2008

Cyfres deledu ddrama a chomedi hynod boblogaidd oedd C'mon Midffild!. Cynhyrchwyd gan Ffilmiau'r Nant a ddarlledwyd am y tro cyntaf ar yr 18 Tachwedd 1988 ar S4C.[1] Dangoswyd chwe chyfres dros gyfnod o chwe mlynedd cyn dod i ben yn 1994. Dechreuodd fel rhaglen ar BBC Radio Cymru, roedd tair cyfres cyn iddo symyd i'r teledu. Y cyfarwyddwr oedd Alun Ffred Jones a gyd-ysgrifennodd y gyfres ynghyd â Mei Jones. Mei Jones oedd hefyd yn actio rhan Wali Thomas.

Ddeg mlynedd wedi i'r gyfres olaf gael ei dangos yn 1994, dilynodd C'mon Midffild! duedd nifer o raglenni comedi Saesneg fel Only Fools and Horses gan ail-ymddangos am un ffilm arbennig o'r enw C'mon Midffild a Rasbrijam dros Nadolig 2004. Credai llawer mai'r bwriad oedd gwneud yn iawn am 6ed cyfres cymharol siomedig. Ond, yn anffodus, roedd yn adolygiadau yn eithaf cymysg. Nid oes bwriad ar hyn o bryd i ffilmio unrhyw gyfresi pellach ond mae'r gyfres yn cael ei ailddarlledu yn aml ar S4C.

Credai rhai iddo gael ei seilio ar Glwb Pêl-droed Pontrhydfendigaid.[2][3]

Enillodd y rhaglen wobr 'Y Ddrama Gyfres /Gyfresol Orau' BAFTA Cymru i Mei Jones ac Alun Ffred yn 1992. Enillodd Mei Jones hefyd wobr 'Yr Awdur Gorau Ar Gyfer Y Sgrin - Cymreig' BAFTA Cymru.[4]

Cymeriadau

Arthur Picton = John Pierce Jones
Tecwyn Parri = Bryn Fôn
Wali Thomas = Mei Jones
George Huws = Llion Williams
Sandra Picton/Huws = Sian Wheldon (Cyfres 1-5), Gwenno Hodgkins (Cyfres 6)
Lydia Thomas = Catrin Dafydd
Harri = Rhys Richards
Graham = Mal Lloyd
Jean Parri = Bethan Gwilym

Rhyddhau

Rhyddhawyd y gyfres mewn set o 10 DVD rhwng 2005 [1] a 2007.

Ffynonellau

1. 1.0 1.1 C'Mon Midffild? This is a friend Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru
2. 'Clwb pêl-droed yn dathlu 60' BBC 11 Mehefin 2007
3. 'Dathlu 60 mlynedd o glwb Y Bont' BBC 22 Gorffennaf 2007
4. Enillwyr gwobrau ar wefan Ffilmiau'r Nant
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.