Terwyn Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 11: Llinell 11:
Yn Hydref 2007, fel rhan o newidiadau i ail-strwythuro gwasanaeth C2, daeth rhaglenni Steve a Terwyn i ben.
Yn Hydref 2007, fel rhan o newidiadau i ail-strwythuro gwasanaeth C2, daeth rhaglenni Steve a Terwyn i ben.


Ym mis Ebrill 2008, ymunodd Terwyn â thîm rhaglen [[Galwad Cynnar]] ar BBC Radio Cymru fel gohebydd.
Ym mis Ebrill 2008, ymunodd Terwyn â thîm rhaglen [[Galwad Cynnar]] ar BBC Radio Cymru fel gohebydd achlysurol.


== Teledu Telesgop a rhaglen Ffermio ==
== Teledu Telesgop a rhaglen Ffermio ==
Yn ei fywyd personol, mae Terwyn wedi gweithio i gwmni cynhyrchu [[Telesgôp|Telesgop]] ers 2001 lle dechreuodd ei yrfa fel ymchwilydd ar raglen [[Ffermio (rhaglen deledu)|Ffermio]]. Mae bellach yn gynhyrchydd rhyngweithiol yn gyfrifol am [[gwefan|wefan]] Ffermio a gwasanaeth botwm coch sy'n cyd-fynd â'r rhaglen.
Yn ei fywyd personol, mae Terwyn wedi gweithio i gwmni cynhyrchu [[Telesgôp|Telesgop]] ers 2001 lle dechreuodd ei yrfa fel ymchwilydd ar raglen [[Ffermio (rhaglen deledu)|Ffermio]]. Bu'n gynhyrchydd rhyngweithiol, yn gyfrifol am [[gwefan|wefan]] Ffermio a gwasanaeth botwm coch sy'n cyd-fynd â'r rhaglen rhwng 2005 a 2008.


Mae i'w glywed hefyd yn darllen y newyddion ar raglen [[Bwletin Ffermio]] bob dydd Mawrth a dydd Gwener am 12.20pm ar [[S4C Digidol]], ac mae hefyd yn cyflwyno rhaglenni radio arbennig ar gyfer gwefan Ffermio.tv.
Ym mis Awst 2008, mae'n dechrau ar rol newydd fel gohebydd a chynhyrchydd [[Bwletin Ffermio]] bob dydd Mawrth a dydd Gwener am 1.30pm ar [[S4C Digidol]], ac mae hefyd yn cyflwyno rhaglenni radio arbennig ar gyfer gwefan Ffermio.tv.


Yn ei fywyd preifat, mae Terwyn wedi dioddef o [[atal dweud]] ers yn blentyn, a gwnaeth hyn greu trafferthion iddo yn ystod ei blentyndod a'i arddegau. Oherwydd ei brofiad ar y radio ar hyd y blynyddoedd, mae bellach wedi dysgu i reoli'r atal dweud ac mae'r cyflwr bron yn diflannu'n gyfangwbl tra'i fod yn darlledu.
Yn ei fywyd preifat, mae Terwyn wedi dioddef o [[atal dweud]] ers yn blentyn, a gwnaeth hyn greu trafferthion iddo yn ystod ei blentyndod a'i arddegau. Oherwydd ei brofiad ar y radio ar hyd y blynyddoedd, mae bellach wedi dysgu i reoli'r atal dweud ac mae'r cyflwr bron yn diflannu'n gyfangwbl tra'i fod yn darlledu.
Llinell 25: Llinell 25:


[[Categori:Cyflwynwyr radio|Davies, Terwyn]]
[[Categori:Cyflwynwyr radio|Davies, Terwyn]]
[[Categori:Cyflwynwyr radio Cymreig|Davies, Terwyn]]
[[Categori:Genedigaethau 1979|Davies, Terwyn]]
[[Categori:Genedigaethau 1979|Davies, Terwyn]]
[[Categori:Pobl o Geredigion|Davies, Terwyn]]
[[Categori:Pobl o Geredigion|Davies, Terwyn]]

Fersiwn yn ôl 21:47, 29 Gorffennaf 2008

Terwyn Davies

Darlledwr yw Terwyn Davies (ganwyd 3 Ebrill 1979). Magwyd yn Nyffryn Aeron, Ceredigion, a chafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Felin Fach ac yna Ysgol Gyfun Aberaeron. Aeth yn ei flaen i Brifysgol Cymru Bangor i ddilyn cwrs gradd mewn Cyfathrebu, a chwrs ôl-radd mewn Newyddiaduraeth.

Radio Ceredigion

Ymunodd â thîm cyflwyno Radio Ceredigion yn 1995, gan gyflwyno rhaglenni amrywiol fel "Yr Awr Gyfarchion" ac "Ar Dramp", a dwy awr o gerddoriaeth gwlad wythnosol "Gore Gwlad" - oedd yn cynnwys y gorau o ganu gwlad newydd o'r UDA a chymysgedd o gerddoriaeth Cymraeg hefyd.

BBC Radio Cymru

Yn Hydref 1999 tra yn y coleg ym Mangor, ymunodd â thîm cyflwyno BBC Radio Cymru lle bu'n cyd-gyflwyno Gang Bangor gyda Dylan Wyn ac Owain Gwilym. Yn 2000, cafodd bartner darlledu newydd - Stephen Edwards a bu'r ddau'n darlledu ar y cyd ar Gang Bangor, cyn ymuno â rhaglen C2.

Bu Terwyn yn cyd-gyflwyno slot hwyr C2 bob nos Iau a nos Wener rhwng 11 ac 1 yng nghwmni Stephen Edwards a Jeni Lyn, ac C2 ar fore Sadwrn rhwng 10.30 a 12.30pm. Yn ddiweddarach, symudwyd y slot foreol i slot yn y prynhawn rhwng 12.30 a 2pm o dan yr enw Steve a Terwyn.

Yn Hydref 2007, fel rhan o newidiadau i ail-strwythuro gwasanaeth C2, daeth rhaglenni Steve a Terwyn i ben.

Ym mis Ebrill 2008, ymunodd Terwyn â thîm rhaglen Galwad Cynnar ar BBC Radio Cymru fel gohebydd achlysurol.

Teledu Telesgop a rhaglen Ffermio

Yn ei fywyd personol, mae Terwyn wedi gweithio i gwmni cynhyrchu Telesgop ers 2001 lle dechreuodd ei yrfa fel ymchwilydd ar raglen Ffermio. Bu'n gynhyrchydd rhyngweithiol, yn gyfrifol am wefan Ffermio a gwasanaeth botwm coch sy'n cyd-fynd â'r rhaglen rhwng 2005 a 2008.

Ym mis Awst 2008, mae'n dechrau ar rol newydd fel gohebydd a chynhyrchydd Bwletin Ffermio bob dydd Mawrth a dydd Gwener am 1.30pm ar S4C Digidol, ac mae hefyd yn cyflwyno rhaglenni radio arbennig ar gyfer gwefan Ffermio.tv.

Yn ei fywyd preifat, mae Terwyn wedi dioddef o atal dweud ers yn blentyn, a gwnaeth hyn greu trafferthion iddo yn ystod ei blentyndod a'i arddegau. Oherwydd ei brofiad ar y radio ar hyd y blynyddoedd, mae bellach wedi dysgu i reoli'r atal dweud ac mae'r cyflwr bron yn diflannu'n gyfangwbl tra'i fod yn darlledu.

Mae Terwyn bellach wedi ymgartefu gyda'i wraig yn ardal Tanerdy yn nhref Caerfyrddin.

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.