Sgwrs Defnyddiwr:Brenincarioci

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Croeso. Deb 18:18, 7 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]

Croeso i Wicipedia Brenincarioci (enw gwych). Ymddiheuriadau os ydy fy ngolygiadau o erthyglau Ffermio a Terwyn Davies wedi ymddangos ychydig y pedantig, ond i gadw at ardull Wicipedia, mae'n werth pwyntio allan:

  • Ym mrawddeg cyntaf pob erthygl, dylai enw'r erthygl ymddanos mewn ffont trwm (bold)
  • Dylid byth roi dolen at yr erthygl o fewn yr un erthygl (roedd sawl dolen at Ffermio o fewn yr er erthygl Ffermio)
  • Dim ond unwaith sydd angen rhoi dolen byw at erthygl arall o fewn erthygl (os ydy S4C yn cael ei grybwyll mwy nag unwaith, mond y tro cyntaf dylid roi dolen at dudalen S4C)
  • Gan bod yna erthygl ar wicipedia am y diwydiant Ffermio (sy'n cael ei gyferio at dudalen Amaeth) ac hefyd am Ffermio (rhaglen deledu), mae'n bwysig bod dolenni'n cyfeirio at yr erthygl priodol. Gellir wneud hyn drwy ddefnyddio'r fformat canlynol: [[Ffermio]] ar gyfer y diwydiant, [[Ffermio (rhaglen deledu)|Ffermio]] ar gyfer y rhaglen deledu.

Gobeithio bod hyn o help. Edrychaf ymlaen i ddarllen dy erthyglau newydd.--Ben Bore 09:05, 8 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]

Llun o Bethan Gwanas[golygu cod]

Fasech chi'n licio cysidro rhoi'r llun hwn ar Wikipedia Commons i ni gael ei ddefnyddio ar y dudalen/fersiwn Saseneg? Diolch. 86.166.65.185 15:29, 6 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]