Dai Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Monsyn (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) Ehangu ac ail-drefnu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{gweler hefyd|David Jones}} |
{{gweler hefyd|David Jones}} |
||
[[Canwr]], [[ffermwr]], a [[cyflwynydd teledu|chyflwynydd teledu]] a [[cyflwynydd radio|radio]] yw '''Dai Jones''' [[MBE]] (ganed [[1943]]), sy'n |
[[Canwr]], [[ffermwr]], a [[cyflwynydd teledu|chyflwynydd teledu]] a [[cyflwynydd radio|radio]] yw '''Dai Jones''' [[MBE]] (ganed [[18 Hydref]] [[1943]]),<ref name="llyfr1"/> sy'n byw yn [[Llanilar]] ger [[Aberystwyth]], [[Ceredigion]]. Fe'i adwaenir hefyd fel '''Dai Llanilar'''. Mae'n cadw gwartheg a defaid ar ei fferm Berthlwyd sydd erbyn yn cael ei redeg ar y cyd gyda'i wraig Olwen a'i fab John. |
||
⚫ | Cyhoeddodd ei [[hunangofiant]], ''[[Fi Dai Sy' 'Ma]]'' ym 1997 ac ail gyfrol ''[[Tra Bo Dai]]'' yn 2016.<ref name="llyfr1">{{dyf llyfr| url=http://www.gwales.com/goto/biblio/cy/9780860741428/| isbn=9780860741428| teitl=Cyfres y Cewri: 17. Fi Dai Sy' 'Ma| cyhoeddwr=Gwasg Gwynedd| awdur=Lyn Ebenezer.| blwyddyn=1997}}</ref> |
||
Mae Dai Jones yn fwyaf adnabyddus am gyflwyno rhaglen ''[[Cefn Gwlad]]'' ar [[S4C]]. Mae wedi bod yn cyflwyno'r sioe ers dros 25 mlynedd, gan greu, hyd 2008, 450 o raglenni.<ref name="S4C Press">{{dyf gwe| teitl=Cefn Gwlad yn dathlu chwarter canrif ar faes Y Sioe| cyhoeddwr=S4C Press Department| url=http://www.s4c.co.uk/sched/c_press_level2.shtml?id=115| dyddiadcyrchu=1 Rhagfyr 2008}}</ref> |
|||
==Bywyd cynnar ac addysg== |
|||
Bu Jones eisoes yn adnabyddus fel cyflwynydd y cwis ''[[Siôn a Siân]]'' pan ofynnodd y cyfarwyddwr a'r cynhyrchydd [[Geraint Rees]] iddo gyflwyno ''Cefn Gwlad''.<ref name="S4C Press"/> Mae'n darlledu rhaglen ceisiadau ar [[BBC]] [[Radio Cymru]]. |
|||
Ganwyd David John Jones yn Holloway, Llundain i deulu o ffermwyr Cymreig. Symudodd i Gymru pan yn dair oed a fe'i magwyd gan ei ewythr a'i fodryb ar ei fferm laeth yn Brynchwith, Llangwyryfon. Aeth i'r ysgol yn Llangwyryfon ac Ysgol Dinas, Aberystwyth a cychwynodd weithio ar y fferm yn 15 mlwydd oed. Dywedodd Dai ei fod wedi ffaelu ei arholiad 11-plus yn fwriadol er mwyn osgoi mynd i ysgol ramadeg am ei fod wedi clywed fod tipyn o waith cartref i'w wneud yno. |
|||
Mae hefyd yn [[tenor|denor]] medrus, gan ennill y [[Rhuban Glas]] yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1970]]. Mae wedi rhyddhau sawl record gyda'r label Gymreig, [[Cambrian]]. |
|||
Roedd yn weithgar gyda'r capel, Eisteddfod yr Urdd a'r Ffermwyr Ifanc a roddodd hyn fagwraeth iddo yn niwylliant a thraddodiadau Cymru. Fel tenor ifanc addawol, byddai'n gadael y fferm ar ôl godro a mynd i gael gwersi canu yn Aberystwyth gan yn y cyn ganwr opera Redvers Llewelyn, cyn dychwelyd i odro eto yn y prynhawn. Yn ddiweddarach daeth yn ddisgybl o Ifan Maldwyn Jones, Machynlleth a Colin Jones, Rhosllanerchrugog. |
|||
⚫ | |||
==Gyrfa== |
|||
⚫ | |||
===Canwr=== |
|||
Yn y 1960au daeth yn [[tenor|denor]] medrus ac enillodd gystadlaethau yn Eisteddfodau'r Urdd yng Nghaerfyrddin a Llanrwst. Yn 1970 enillodd wobr Canwr y Flwyddyn yn Llangollen ac y [[Rhuban Glas]] yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1970]]. Daeth i'r brig hefyd yng ngwyliau Pantyfedwen, Aberteifi, Môn a Phowys.<ref>{{dyf gwe|url=http://www.sainwales.com/cy/artists/dai-jones|teitl=Dai Jones - bywgraffiad|cyhoeddwr=Recordiau Sain|dyddiadcyrchiad=1 Medi 2017}}</ref> |
|||
Yn ystod y cyfnod yma, teithiodd y byd yn canu a rhyddhaodd chwech record LP ar label Cambrian.<ref>{{dyf newyddion|url=http://www.dailypost.co.uk/news/local-news/dai-jones-llanilars-royal-welsh-2750948|teitl=Dai Jones Llanilar's Royal Welsh honour|iaith=en|cyhoeddwr=Daily Post|dyddiad=15 Gorffennaf 2010}}</ref> |
|||
===Cyflwynydd=== |
|||
Darlledodd Dai ar [[BBC Radio Cymru|Radio Cymru]] am y tro cyntaf yn 1962 pan weithiodd ar y rhaglen ''Sêr y Siroedd''. Erbyn hyn mae'n cyflwyno ''Ar Eich Cais'' ar yr orsaf. |
|||
Yn 1971 cychwynnodd gyflwyno y cwis teledu ''[[Siôn a Siân]]'' ar [[HTV Cymru]] a parhodd nes i'r gyfres wreiddiol ddod i ben yn 1987. Yn yr 1980au cynnar gofynnodd y cyfarwyddwr a'r cynhyrchydd [[Geraint Rees]] iddo gyflwyno'r gyfres ''[[Cefn Gwlad]]'' . Roedd Rees yn cynhyrchu rhaglen o'r un enw ar sianel HTV Cymru gynt, a oedd yn dangos pigion o fywyd cefn gwlad, a symudodd y rhaglen i S4C ar ei lansiad yn 1982. Testun y rhaglen gyntaf iddo gyflwyno oedd Berthlwyd, sef ei fferm ei hun. I genhedlaeth o wylwyr dyma'r sioe a gysylltir yn bennaf gyda Dai Jones, a daeth yn nodedig am ei ddigrifwch naturiol. Yn ogystal a'r rhaglenni arferol o leoliadau yng Nghymru gwnaed rhifynnau arbennig am anturiaethau Dai wrth deithio dramor.<ref name="S4C Press">{{dyf gwe| teitl=Cefn Gwlad yn dathlu chwarter canrif ar faes Y Sioe| cyhoeddwr=S4C Press Department| url=http://www.s4c.co.uk/sched/c_press_level2.shtml?id=115| dyddiadcyrchu=1 Rhagfyr 2008}}</ref> |
|||
Mae hefyd wedi cyflwyno nifer fawr o raglenni ar S4C yn cynnwys rhaglenni o Sioe Llanelwedd, ''[[Noson Lawen (rhaglen deledu)|Noson Lawen]]'', a ''Rasus''. |
|||
Cafodd ei [[dychan|ddychanu]] yn aml ar raglen [[cartŵn|gartŵn]] Gymraeg ''[[Cnex]]''. |
Cafodd ei [[dychan|ddychanu]] yn aml ar raglen [[cartŵn|gartŵn]] Gymraeg ''[[Cnex]]''. |
||
Llinell 17: | Llinell 29: | ||
Gwobrwywyd gydag [[MBE]] am wasanaethau i adloniant yng Nghymru ar restr anrhydeddau'r flwyddyn newydd ym 1999.<ref>{{dyf gwe| url=http://news.bbc.co.uk/1/hi/special_report/1999/12/99/new_years_honours/584164.stm | cyhoeddwr=BBC| teitl=MBE civil (H - M)| dyddiad=31 Rhagfyr 1999}}</ref> |
Gwobrwywyd gydag [[MBE]] am wasanaethau i adloniant yng Nghymru ar restr anrhydeddau'r flwyddyn newydd ym 1999.<ref>{{dyf gwe| url=http://news.bbc.co.uk/1/hi/special_report/1999/12/99/new_years_honours/584164.stm | cyhoeddwr=BBC| teitl=MBE civil (H - M)| dyddiad=31 Rhagfyr 1999}}</ref> |
||
Enillodd Jones wobr [[BAFTA Cymru]] yn 2004 am ei gyfraniadau i ddarlledu ar y teledu a'r radio yng Nghymru. Yn ddiweddarach yr un flwyddyn, enillodd |
Enillodd Jones wobr [[BAFTA Cymru]] yn 2004 am ei gyfraniadau i ddarlledu ar y teledu a'r radio yng Nghymru. Yn ddiweddarach yr un flwyddyn, enillodd wobr Syr Bryner Jones am ei gyfraniad i faterion gwledig a fe'i wnaed yn Gymrawd Coleg Prifysgol Cymru ddydd Gwener gan un o'i arwyr, [[Elystan Morgan]].<ref>{{dyf newyddion|url=http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3900000/newsid_3909700/3909739.stm|teitl=Gwobr i Dai Jones, Llanilar|cyhoeddwr=BBC Cymru|dyddiad=20 Gorffennaf 2004|dyddiadcyrchu=1 Medi 2017}}</ref> |
||
⚫ | |||
==Disgyddiaeth== |
==Disgyddiaeth== |
Fersiwn yn ôl 14:50, 1 Medi 2017
- Gweler hefyd: David Jones
Canwr, ffermwr, a chyflwynydd teledu a radio yw Dai Jones MBE (ganed 18 Hydref 1943),[1] sy'n byw yn Llanilar ger Aberystwyth, Ceredigion. Fe'i adwaenir hefyd fel Dai Llanilar. Mae'n cadw gwartheg a defaid ar ei fferm Berthlwyd sydd erbyn yn cael ei redeg ar y cyd gyda'i wraig Olwen a'i fab John.
Cyhoeddodd ei hunangofiant, Fi Dai Sy' 'Ma ym 1997 ac ail gyfrol Tra Bo Dai yn 2016.[1]
Bywyd cynnar ac addysg
Ganwyd David John Jones yn Holloway, Llundain i deulu o ffermwyr Cymreig. Symudodd i Gymru pan yn dair oed a fe'i magwyd gan ei ewythr a'i fodryb ar ei fferm laeth yn Brynchwith, Llangwyryfon. Aeth i'r ysgol yn Llangwyryfon ac Ysgol Dinas, Aberystwyth a cychwynodd weithio ar y fferm yn 15 mlwydd oed. Dywedodd Dai ei fod wedi ffaelu ei arholiad 11-plus yn fwriadol er mwyn osgoi mynd i ysgol ramadeg am ei fod wedi clywed fod tipyn o waith cartref i'w wneud yno.
Roedd yn weithgar gyda'r capel, Eisteddfod yr Urdd a'r Ffermwyr Ifanc a roddodd hyn fagwraeth iddo yn niwylliant a thraddodiadau Cymru. Fel tenor ifanc addawol, byddai'n gadael y fferm ar ôl godro a mynd i gael gwersi canu yn Aberystwyth gan yn y cyn ganwr opera Redvers Llewelyn, cyn dychwelyd i odro eto yn y prynhawn. Yn ddiweddarach daeth yn ddisgybl o Ifan Maldwyn Jones, Machynlleth a Colin Jones, Rhosllanerchrugog.
Gyrfa
Canwr
Yn y 1960au daeth yn denor medrus ac enillodd gystadlaethau yn Eisteddfodau'r Urdd yng Nghaerfyrddin a Llanrwst. Yn 1970 enillodd wobr Canwr y Flwyddyn yn Llangollen ac y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1970. Daeth i'r brig hefyd yng ngwyliau Pantyfedwen, Aberteifi, Môn a Phowys.[2]
Yn ystod y cyfnod yma, teithiodd y byd yn canu a rhyddhaodd chwech record LP ar label Cambrian.[3]
Cyflwynydd
Darlledodd Dai ar Radio Cymru am y tro cyntaf yn 1962 pan weithiodd ar y rhaglen Sêr y Siroedd. Erbyn hyn mae'n cyflwyno Ar Eich Cais ar yr orsaf.
Yn 1971 cychwynnodd gyflwyno y cwis teledu Siôn a Siân ar HTV Cymru a parhodd nes i'r gyfres wreiddiol ddod i ben yn 1987. Yn yr 1980au cynnar gofynnodd y cyfarwyddwr a'r cynhyrchydd Geraint Rees iddo gyflwyno'r gyfres Cefn Gwlad . Roedd Rees yn cynhyrchu rhaglen o'r un enw ar sianel HTV Cymru gynt, a oedd yn dangos pigion o fywyd cefn gwlad, a symudodd y rhaglen i S4C ar ei lansiad yn 1982. Testun y rhaglen gyntaf iddo gyflwyno oedd Berthlwyd, sef ei fferm ei hun. I genhedlaeth o wylwyr dyma'r sioe a gysylltir yn bennaf gyda Dai Jones, a daeth yn nodedig am ei ddigrifwch naturiol. Yn ogystal a'r rhaglenni arferol o leoliadau yng Nghymru gwnaed rhifynnau arbennig am anturiaethau Dai wrth deithio dramor.[4]
Mae hefyd wedi cyflwyno nifer fawr o raglenni ar S4C yn cynnwys rhaglenni o Sioe Llanelwedd, Noson Lawen, a Rasus.
Cafodd ei ddychanu yn aml ar raglen gartŵn Gymraeg Cnex.
Gwobrau ac anrhydeddau
Gwobrwywyd gydag MBE am wasanaethau i adloniant yng Nghymru ar restr anrhydeddau'r flwyddyn newydd ym 1999.[5]
Enillodd Jones wobr BAFTA Cymru yn 2004 am ei gyfraniadau i ddarlledu ar y teledu a'r radio yng Nghymru. Yn ddiweddarach yr un flwyddyn, enillodd wobr Syr Bryner Jones am ei gyfraniad i faterion gwledig a fe'i wnaed yn Gymrawd Coleg Prifysgol Cymru ddydd Gwener gan un o'i arwyr, Elystan Morgan.[6]
Daeth yn llywydd Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig ar ei ganmlwyddiant yn 2004/05.
Disgyddiaeth
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Lyn Ebenezer. (1997). Cyfres y Cewri: 17. Fi Dai Sy' 'Ma. Gwasg Gwynedd. ISBN 9780860741428. URL
- ↑ Dai Jones - bywgraffiad. Recordiau Sain. Adalwyd ar 1 Medi 2017.
- ↑ Dai Jones Llanilar's Royal Welsh honour (en) , Daily Post, 15 Gorffennaf 2010.
- ↑ Cefn Gwlad yn dathlu chwarter canrif ar faes Y Sioe. S4C Press Department.
- ↑ MBE civil (H - M). BBC (31 Rhagfyr 1999).
- ↑ Gwobr i Dai Jones, Llanilar , BBC Cymru, 20 Gorffennaf 2004. Cyrchwyd ar 1 Medi 2017.