Cefn Gwlad

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cefn Gwlad
DVD Cefn Gwlad.PNG

DVD gan Gwmni Sain o'r gyfres deledu Cefn Gwlad (2007)
Genre Ffeithiol
Serennu Dai Jones
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 30 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol

Rhaglen deledu ffeithiol yw Cefn Gwlad. Fe'i darlledwyd gyntaf ar HTV Cymru cyn ei symud i S4C yn 1982.

Cyflwynydd y rhaglen ers ei darlledu ar S4C yw Dai Jones, Llanilar, a roddodd ei stamp ei hun arni.[1]

Y cynhyrchydd gwreiddiol oedd Geraint Rees a oedd wedi cynhyrchu ffilmiau am hanesion a chymeriadau cefn gwlad ers y 1960au ar TWW ac yna HTV Cymru.

Bwriad y sioe yw dogfennu bywyd ffermio a chefn gwlad Cymru drwy ddilyn bywydau unigolyn neu deulu. Mae'r rhaglen yn nodedig am elfennau doniol sy'n deillio o bersonoliaeth Dai Jones. Fe ddatblygodd nifer o raglenni arbennig o'r brif raglen a oedd yn fwriadol ddoniol, er enghraifft yn dilyn Dai ar deithiau dramor.[2]. Efallai mai'r enwocaf o'r rhaglenni yma oedd Dai ar y Piste[3]. Datblygwyd hefyd nifer o is-gynnyrch ee fideos, DVD a llyfrau yn sgil y rhaglen.

Yn Chwefror 2018 cyhoeddwyd y byddai criw ifanc o gyflwynwyr yn ymuno a Dai ar gyfer cyfres newydd o'r rhaglen, sef Meleri Williams, Ioan Doyle, Mari Lovgreen, Rhys Lewis ac Elis Morris.[4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]