Y Cymro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Oergell (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 20: | Llinell 20: | ||
| oclc = |
| oclc = |
||
| ISSN = |
| ISSN = |
||
| website = {{url|http:// |
| website = {{url|http://archif.rhwyd.org/ycymro/}} (archif) |
||
}} |
}} |
||
[[Delwedd:Y Cymro, Porthmadog - geograph.org.uk - 162726.jpg|bawd|Prif swyddfa ''Y Cymro'', Porthmadog.]] |
[[Delwedd:Y Cymro, Porthmadog - geograph.org.uk - 162726.jpg|bawd|Prif swyddfa ''Y Cymro'', Porthmadog.]] |
Fersiwn yn ôl 15:48, 12 Gorffennaf 2017
Clawr Y Cymro, 5 Hydref 2007 | |
Math | Papur newydd wythnosol |
---|---|
Fformat | Compact |
Golygydd | Dylan Halliday |
Sefydlwyd | 1932 |
Iaith | Cymraeg |
Pencadlys | 9 Bank Place, Porthmadog, Gwynedd, LL48 9AA |
Cylchrediad | 4,082 (2003) |
Gwefan | archif.rhwyd.org/ycymro/ (archif) |
Papur newydd Cymraeg wythnosol yw Y Cymro. Erbyn heddiw Y Cymro yw'r unig bapur newydd cenedlaethol yn y Gymraeg.
Hanes
Yn 1845 fe gyhoeddwyd papur o'r enw 'Y Cymro' gyntaf, papur eglwysig ei naws gyda thipyn o Saesneg. Cyhoeddwyd y papur yma ym Mangor gan yr argraffydd Edward Williams ond daeth i ben wedi dwy flynedd oherwydd dyledion. Cafodd gartref yn Llundain am flwyddyn gyda John ames (Ioan Meirion) fel golygydd. Symudodd i Dreffynnon am gyfnod rhwng 1851 a 1860 a'i cyhoeddwyd gan William Morris, yna bu yn Ninbych am chwe blynedd. Wedi bwlch o bedair blynedd fe'i ail-gychwynwyd gan Isaac Clarke, Lerpwl (gynt o 'Siop Nain', Rhuthun) ar 22 Mai 1890 o dan olygyddiaeth Isaac Foulkes (Llyfrbryf). Yn ystod y cyfnod, cyhoeddodd Daniel Owen benodau o'i nofel yn y papur.
Yn 1907 mudodd y papur i'r Wyddgrug o dan olygyddiaeth y bardd T. Gwynn Jones oedd y golygydd. Daeth i ben eto rhwng 1909 a 1914 cyn cael cartref yn Nolgellau. Papur crefyddol ei naws oedd hwn o dan olygyddiaeth Evan Williams Evans a daeth i ben yn 1931.[1]. Cafodd ei ail-lansio yn Nolgellau yn 1920 gan William Evans.
Oes fodern
Cychwynnodd oes fodern y papur newydd yn 1932 pan brynwyd y teitl gan Rowland Thomas (c.1887-1959) o gwmni Woodalls (rhan o Hughes a'i Fab yn Wrecsam). Er nad oedd yn siaradwr Cymraeg, breuddwyd Thomas oedd sefydlu papur newydd Cymraeg. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ar 4 Rhagfyr 1932, gyda John Eilian yn olygydd. Nid oedd y papur yn gwbl llewyrchus i ddechrau ond erbyn 1939 roedd gobaith o wneud elw. Symudwyd y swyddfa i Groesoswallt lle aeth y papur o nerth i nerth o dan olygyddiaeth John Roberts Williams. Symudwyd eto i'r Wyddgrug pan ddaeth y papur yn ran o gwmni Papurau Newydd Gogledd Cymru.[2].
Yn 2003 cyhoeddwyd y byddai fersiwn ddigidol o'r papur ar gael drwy gwmni NewsStand.[3] Yna yn 2004, prynwyd y papur can gwmni y Cambrian News, rhan o grŵp newyddion Tindle, a symudodd y swyddfa i Borthmadog.[4] Ail-lansiwyd y papur ar newydd wedd yn Nhachwedd 2004.[5]. Lansiwyd gwefan newydd Y Cymro yn 2011, gyda detholiad o storiau o'r papur a fersiwn digidol llawn drwy danysgrifiad.[6]
Ym mis Mawrth 2017 cyhoeddodd cwmni Tindle Newspapers fod y papur ar werth a byddai'r papur yn dod i ben ym Mehefin os nad oedd prynwr.[7] Dywedodd cwmni Y Lolfa nad oedden nhw mewn sefyllfa i'w brynu[8]. Erbyn mis Mehefin roedd pedwar grŵp wedi dangos diddordeb mewn prynu'r papur er fod trafodaethau'n parhau rhyngddynt a Tindle a'r Cyngor Llyfrau. Felly disgwylir i rifyn 30 Mehefin 2017 fod yr olaf i'w gyhoeddi am y tro.[9]
Cylchrediad
Yn 2004 roedd y cylchrediad tua 4,000 ond lawr i 3,000 erbyn 2009 ac yn 2,000 erbyn 2017. Roedd yn gwerthu dros 28,000 ar ei anterth yng nghyfnod John Roberts Williams.[10].
Golygyddion
- John Eilian (1932-)
- Einion Evans
- J R Lloyd Hughes
- John Roberts Williams (1942-1962)
- Glyn Griffiths
- Gwyn Jones
- Llion Griffiths (1966-1988)
- Glyn Evans (1988-1999)
- Robert Henri Jones (1999-2004)
- Ioan Hughes (Rhagfyr 2004-Hydref 2006)
- William H Owen (Hydref 2006)
- Dylan Halliday (2009-)
Dolenni allanol
Cyfeiriadau
- ↑ Gweler 'Rhwydwaith Archifau Cymru'
- ↑ Y Cymro, Ionawr 5, 2007
- ↑ Cyhoeddi'r Cymro'n ddigidol , BBC Cymru, 5 Awst 2003. Cyrchwyd ar 29 Mehefin 2017.
- ↑ Golygydd newydd i'r Cymro , BBC Cymru, 9 Rhagfyr 2004. Cyrchwyd ar 29 Mehefin 2017.
- ↑ Y Cymro ar newydd wedd , BBC Cymru, 14 Tachwedd 2004. Cyrchwyd ar 29 Mehefin 2017.
- ↑ Y Cymro – gwefan newydd sbon (cipolwg cyntaf). Haciaith (8 Mawrth 2011).
- ↑ Papur newydd Y Cymro ar werth , Golwg360, 24 Mawrth 2017. Cyrchwyd ar 29 Mehefin 2017.
- ↑ Y Lolfa “ddim mewn sefyllfa” i brynu’r Cymro. Golwg360 (24 Mawrth 2017).
- ↑ Y Cymro – ar werth am y tro olaf? , Golwg360, 29 Mehefin 2017.
- ↑ Mympwy