Rowland Thomas

Oddi ar Wicipedia
Rowland Thomas
Murlun o Rowland Thomas, mewn siaced goch, a'i ddynion yn mapio ger Rhaeadr Hadley
Ganwyd1621 Edit this on Wikidata
Berry Pomeroy Edit this on Wikidata
Bu farw21 Chwefror 1698 Edit this on Wikidata
Springfield, Massachusetts Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr

Roedd Rowland Thomas (c. 1621 – 1698) o Springfield, Massachusetts yn wladychwr o Sais, saer maen, syrfëwr, a pherchennog tir. Rhoddwyd ei enw ar Mount Tom, a elwid yn wreiddiol yn Mount Thomas, y dywedir iddo ei fapio gydag Elizur Holyoke.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd ef yn fab i'r marchog Syr David Thomas ac Anna Ison ym mhentref Berry Pomeroy, Dyfnaint, yn Lloegr. Dim ond ychydig a gofnodir am fywyd cynharach Rowland Thomas cyn iddo gyrraedd Springfield, Massachusetts. Ar naill ai Chwefror 14 neu Ebrill 14, 1647 priododd Sarah Chapin, merch y Diacon Samuel Chapin a Cecily Penney. Ni wyddom yn union pa bryd y cyrhaeddodd Thomas America ond dywedir iddo gyrraedd ardal Springfield cyn y flwyddyn 1650, gyda dogfennau'n nodi ei fod yn berchen ar 29.5 erw o dir.[1][2][3]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Darrin Lythgoe. "Rowland Thomas". SherrySharp.com (yn Saesneg). The Next Generation of Genealogy. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Mai 2019.
  2. "U.S. Armory" (yn en). The Massachusetts Register (Boston: Damrell and Moore) (86): 324. 1862. https://books.google.com/books?id=opRQAAAAYAAJ&pg=PA324.
  3. Morris, Henry (1876). 1636-1675: Early history of Springfield (yn Saesneg). Springfield, Mass: F. W. Morris. t. 24.
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.