Sulwyn Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Paul-L (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Sulwyn Thomas.jpg|bawd|250px|Sulwyn Thomas]] |
|||
Darlledwr yw [[Sulwyn Thomas]] (ganwyd [[13 Mehefin]] [[1943]] yng Nghaerfyrddin), sydd fwyaf enwog am gyflwyno'r rhaglen radio [[Stondin Sulwyn]] ar [[BBC Radio Cymru]]. |
Darlledwr yw [[Sulwyn Thomas]] (ganwyd [[13 Mehefin]] [[1943]] yng Nghaerfyrddin), sydd fwyaf enwog am gyflwyno'r rhaglen radio [[Stondin Sulwyn]] ar [[BBC Radio Cymru]]. |
||
Ar ôl gadael Ysgol Ramadeg y Bechgyn, [[Caerfyrddin]] fe'i hyfforddwyd fel newyddiadurwr yn swyddfa'r ''[[Evening Post]]'' yn [[Abertawe]]. Ymunodd â chwmni teledu [[TWW]] fel gohebydd yng ngorllewin Cymru i raglen [[Y Dydd]], gan barhau gyda'r un gwaith pan gymerodd [[HTV]] le [[Teledu Cymru]]. |
|||
Yn 1977 ymunodd Sulwyn â'r [[BBC]] fel un o gyflwynwyr y rhaglen Heddiw a throi wedyn i fyd radio gan lywio ''Stondin Sulwyn'' - ddaeth yn un o raglenni mwyaf poblogaidd ''BBC Radio Cymru'' yn ystod y chwarter canrif diwethaf. Bu'r Stondin yn lwyfan i gannoedd o bobl o bob rhan o Gymru i drafod pynciau'r dydd tan ddiwedd y rhaglen yn 2002. |

Fersiwn yn ôl 16:46, 17 Ionawr 2008
Darlledwr yw Sulwyn Thomas (ganwyd 13 Mehefin 1943 yng Nghaerfyrddin), sydd fwyaf enwog am gyflwyno'r rhaglen radio Stondin Sulwyn ar BBC Radio Cymru.
Ar ôl gadael Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Caerfyrddin fe'i hyfforddwyd fel newyddiadurwr yn swyddfa'r Evening Post yn Abertawe. Ymunodd â chwmni teledu TWW fel gohebydd yng ngorllewin Cymru i raglen Y Dydd, gan barhau gyda'r un gwaith pan gymerodd HTV le Teledu Cymru.
Yn 1977 ymunodd Sulwyn â'r BBC fel un o gyflwynwyr y rhaglen Heddiw a throi wedyn i fyd radio gan lywio Stondin Sulwyn - ddaeth yn un o raglenni mwyaf poblogaidd BBC Radio Cymru yn ystod y chwarter canrif diwethaf. Bu'r Stondin yn lwyfan i gannoedd o bobl o bob rhan o Gymru i drafod pynciau'r dydd tan ddiwedd y rhaglen yn 2002.
Parhaodd hefyd fel cyflwynydd teledu, gan gyflwyno Y Sioe Fach, rhaglenni o Sioe Llanelwedd, a'r rhaglen Ffermio rhwng 1997 a 2004. Roedd yn un o sefydlwyr gwasanaeth Radio Glangwili yn 1972 a Papur Llafar y Deillion.
Mae'n ddiacon selog yng nghapel y Priordy, Caerfyrddin, ac yn aelod o'r cwmni drama a gyflwynodd Dan y Wenallt am y tro cyntaf.
Cafodd ei urddo i'r wisg wen yng Ngorsedd Beirdd Ynys Prydain yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau yn 2003.
Mae'n byw yng Nghaerfyrddin gyda'i wraig Glenys, a chanddynt ddau o blant - Owain a Branwen Thomas, sy'n wyneb cyfarwydd i wylwyr Y Byd ar Bedwar ar S4C.