Dan y Wenallt

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cyfieithiad o ddrama radio Under Milk Wood gan Dylan Thomas yw Dan y Wenallt. Cyfieithwyd gan T James Jones, yn wreiddiol ar gyfer grwp o amaturiaid yn Nhalacharn, sef y pentre y treuliodd Dylan Thomas llawer o'i fywyd.[1]

Un o'i amcanion wrth gyfieithu, medd T James Jones, oedd rhoi ar gof a chadw dafodiaith ardal Sir Gaerfyrddin fel ag yr oedd ym 50au'r 20g. Cred nifer o feirniaid llenyddol i'r cyfieithydd lwyddo yn rhyfeddol ac fod y cyfieithiad yn glasur.


 
Awdur Dylan Thomas
Cyfieithydd T. James Jones
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg
Genre(s) Dramâu Cymraeg
Cyhoeddwr Gwasg Gomer
Tudalennau 134
ISBN 9781848518100
Argaeledd Ar gael

Cafodd ei ailargraffu yn 2014 gan Wasg Gomer gyda rhagair newydd gan Walford Davies, i gyd-fynd â chanmlwyddiant geni Dylan Thomas. Man cyhoeddi: Llandysul, Cymru.[2]


Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Dan Y Wenallt - Welsh Paperback. Amazon. Adalwyd ar 4 Mai 2012.
  2. [1]; Gwefan Gwales; Cyngor Llyfrau Cymru; adalwyd 1 Awst 2017