Tom Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dhdgehudr
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 82.132.221.143 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Deb.
Llinell 1: Llinell 1:
{{Gwybodlen Cerddorion
Hrhdhrb
|enw = Tom Jones
Hrhdhrb
|delwedd = [[Delwedd:Tom Jones concert.jpg|200px]]
|pennawd = Jones yn canu yn [[House of Blues]], Anaheim, California, 10 Mawrth 2009
|cefndir = solo_singer
|Enwgenedigol = Thomas John Woodward
|enwarall = Tom Jones
|geni = {{dyddiad geni ac oedran|df=yes|1940|6|7}}<br />[[Trefforest]], [[Pontypridd]], Cymru
|math = [[Cerddoriaeth boblogaidd|Pop]], [[y felan]], [[blue-eyed soul]]
|galwedigaeth = Canwr, cyfansoddwr, actor
|blynyddoedd = 1963–presennol
|label = {{flatlist|
*[[Columbia Graphophone Company|Columbia]]
*[[Decca Records|Decca]]
*[[Epic Records|Epic]]
*[[Jive Records|Jive]]
*[[Island Records|Island]]
*[[V2 Records|V2]]
*[[S-Curve Records|S-Curve]]
}}
|URL = {{URL|www.tomjones.com}}
}}
[[Canwr]] [[Cymru|Cymreig]] sy'n nodweddiadol am ei lais sy'n ymestyn dros sawl [[wythfed]] ydy '''Syr Thomas Jones Woodward''' neu '''Tom Jones''' (ganwyd [[7 Mehefin]] [[1940]], [[Pontypridd]]). Mae'n enedigol o bentref [[Trefforest]]. Mae e wedi ennill Gwobr [[Grammy]], ac ymhlith ei ganeuon enwocaf, gellid crybwyll ''The Green Green Grass of Home'' a ''Delilah''.



==Bywyd cynnar==
==Bywyd cynnar==

Fersiwn yn ôl 13:22, 1 Chwefror 2017

Tom Jones
GalwedigaethCanwr, cyfansoddwr, actor

Canwr Cymreig sy'n nodweddiadol am ei lais sy'n ymestyn dros sawl wythfed ydy Syr Thomas Jones Woodward neu Tom Jones (ganwyd 7 Mehefin 1940, Pontypridd). Mae'n enedigol o bentref Trefforest. Mae e wedi ennill Gwobr Grammy, ac ymhlith ei ganeuon enwocaf, gellid crybwyll The Green Green Grass of Home a Delilah.


Bywyd cynnar

Ganwyd Thomas John Woodward,[1] yn 57 Kingsland Terrace, Trefforest, Pontypridd, Sir Forgannwg.[2][3][4] Ei rieni oedd Thomas Woodward (bu farw 5 Hydref 1981), glöwr, a Freda Jones (bu farw 7 Chwefror 2003).[5] Roedd tri o'i deulu o dras Seisnig: roedd ei dad-cu tadol, James Woodward, yn haliwr haearnwerthwr o Swydd Gaerloyw, ac roedd ei fam-gu dadol o Wiltshire. Roedd ei dad-cu mamol yn Gymraeg, a ganwyd ei fam-gu famol ym Mhontypridd, i rieni o Wlad yr Haf a Wiltshire.[6]

Mynychodd Jones Ysgol Fabanod Wood Road, Ysgol Gynradd Wood Road ac Ysgol Uwchradd Fodern Pontypridd Central.[7] Dechreuodd ganu yn ifanc iawn: Roedd yn canu'n rheolaidd mewn digwyddiadau teuluol, priodasau ac yng nghôr yr ysgol. Nid oedd Jones yn hoffi ysgol na chwaraeon, ond magodd hyder drwy ei dalent i ganu.[8] Yn 12 oed cafodd fod y diciâu arno. Blynyddoedd yn ddiweddarach dywedodd: "Treuliais i ddwy flynedd yn y gwely yn gwella. Dyna'r adeg waetha yn fy mywyd." Wrth wella nid oedd ganddo ddim i'w wneud heblaw gwrando ar gerddoriaeth a darlunio.[9]

Datblygodd arddull canu Jones allan o synau cerddoriaeth soul Americanaidd. Roedd ei ddylanwadau cynnar yn cynnwys cantorion y felan ac R&B fel Little Richard, Solomon Burke, Jackie Wilson a Brook Benton, ynghyd â Elvis Presley, oedd yn eilun i Jones a daeth yn ffrindiau agos gydag e yn ddiweddarach.[10]

Yn Mawrth 1957 priododd Jones ei gariad o'r ysgol uwchradd, Linda Trenchard, pan oedd y ddau yn 16 mlwydd oed a Linda yn disgwyl plentyn ganddo. Ganwyd ei mab Mark yn y mis yn dilyn y briodas. I gynnal ei deulu ifanc, cymerodd Jones swydd mewn ffatri fenig ac yn ddiweddarach mewn gwaith adeiladu.[11]

Bywyd personol

Roedd Jones yn briod gyda'i wraig Linda rhwng 1957 hyd ei marwolaeth yn 2016, er gwaetha bod yn anffyddlon yn ystod ei yrfa.[12] Mae gan y cwpl un mab, Mark Woodward (1957).[13] Ar anterth ei enwogrwydd, honnodd Jones ei fod wedi cael rhyw gyda fyny at 250 o grwpis y flwyddyn[14] Unwaith arweiniodd ei fercheta at Linda i ymosod yn gorfforol arno.[15] Ar ôl darllen am un garwriaeth yn y papur newydd, fe bwniodd a chiciodd Jones, ond ni ymladdodd 'e nôl. "I took it", dywedodd.[15] Cafodd Jones garwriaethau gyda nifer o fenywod adnabyddus yn cynnwys Mary Wilson o The Supremes, cyflwynydd teledu Charlotte Laws[16] a'r cyn Miss Byd Marjorie Wallace.[17] Honnodd Cassandra Peterson, sy'n fwy adnabyddus fel Elvira, Mistress of the Dark, ei bod wedi colli ei gwyryfdod i Jones.[18]

Ganwyd bachgen o ganlyniad i un garwriaeth. Yn Hydref 1987, tra ar daith yn yr UDA, cafodd Jones berthynas byr gyda'r model Katherine Berkery, a ddarganfu wedyn ei bod yn feichiog. Ar ôl brwydr gyfreithiol oedd yn cynnwys profi DNA, dyfarnodd llys yn yr Unol Daleithiau yn 1989 mai Jones oedd tad y bachgen. Gwadodd Jones ganfyddiad y llys, hyd at 2008 pan gyfaddefodd y gwir. Nid yw wedi dangos diddordeb mewn cyfarfod ei fab, Jonathan Berkery.[19][20]

Yn dilyn etholiad Harold Wilson o'r Blaid Lafur fel Prif Weinidog yn 1974, daeth Jones yn alltud treth.[5] Yn Mehefin 1976, prynodd blasty bric coch ar 363 Copa De Oro Road yn East Gate Bel Air, Los Angeles o Dean Martin am $500,000.[21] Fe'i gwerthodd i Nicolas Cage yn 1998 am $6.469 miliwn yn ôl adroddiadau. Yn 2009 ar ôl 35 mlynedd o fyw yn yr UDA, datgelodd Jones ei fod e a'i wraig yn bwriadu symud yn ôl i Brydain. Dywedodd Jones "I've had a great time living in Los Angeles but after all these years, we think now is the time to move home".[22] Ar sioe The Chris Moyles Show ar 27 July 2009, dywedodd ei fod dal i fyw yn Los Angeles a'i fod am aros yno am y tro, ond ei fod dal yn ymweld â gwledydd Prydain yn aml.

Yn Hydref 2014 cyhoeddwyd ei hunangofiant Over the Top and Back: The Autobiography gan Michael Joseph.[7] Yn adolygu'r llyfr yn The Express, dywedodd Clair Woodward, "Yn nhraddodiad gymaint o hunangofiannau dyddiau yma, 'dyw Tom Jones ddim wir yn dweud beth ydych chi wir eisiau glywed. ... Beth sydd yn weddill yw stori ddifyr tu hwnt o Jones 'The Voice' sydd hefyd yn dweud stori am bop Prydeinig ac adloniant ysgafn o'r Chwedegau ymlaen."[23]

Bu farw y Fonesig Melinda Rose Woodward (Linda) ar 11 Ebrill 2016, wedi "brwydr fer" gyda chanser. Roedd Jones wedi canslo cyngherddau wythnos ynghynt oherwydd "salwch difrifol" yn y teulu.[24]

Cyfeiriadau

  1. :Lucy Ellis, Tom Jones Close Up, Omnibus Press, 2009. "He'd signed the contract as Thomas John Woodward, which was his name..... [Jones said] 'An agent saw my real name, which was Thomas John Woodward.....'"
  2. entry of birth, sub-district of Pontypridd in the County of Glamorgan
  3. Robin Eggar, Tom Jones – The Biography, p. 14.
  4. See entry of birth, sub-district of Pontypridd in the County of Glamorgan where Jones's birth certificate clearly states 57 Kingsland Terrace as the place of birth
  5. 5.0 5.1 Ellis, Lucy (2000). Tom Jones Close Up. Omnibus Press. ISBN 978-0711975491.
  6. "Sir Tom Jones 'is English'". The Daily Telegraph. London: TMG. 10 June 2009. ISSN 0307-1235. OCLC 49632006. Cyrchwyd 4 May 2013.
  7. 7.0 7.1 Tom Jones (8 October 2015). Over the Top and Back: The Autobiography. Michael Joseph. ISBN 0-7181-8068-2.
  8. "Desert Island Discs with Tom Jones". Desert Island Discs. 2010-09-26. BBC. Radio 4. http://www.bbc.co.uk/programmes/b00tx499.
  9. Lucy Ellis & Bryony Sutherland, Tom Jones Close Up, p. 9-10.
  10. "Tom Jones: Information from". Answers.com. Cyrchwyd 14 July 2011.
  11. "Tom Jones". Nndb.com. Cyrchwyd 12 October 2015.
  12. "Tom Jones 'I still love Linda'". Western Mail. 21 February 2009. Cyrchwyd 2 January 2016.
  13. Littlejohn, Georgina (27 July 2010). "Tom Jones, 70, finally looks as old as his 53-year-old son as he stops dyeing his hair | Daily Mail Online" (yn Saesneg). Dailymail.co.uk. Cyrchwyd 12 October 2015.
  14. "Tom Jones: 'Acting is harder than I thought. I was out of my comfort zone'" (yn Saesneg). The Daily Telegraph. 22 April 2012. Cyrchwyd 6 June 2012. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  15. 15.0 15.1 Moodie, Clemmie (13 September 2006). "Tom Jones reveals the night my wife beat me black and blue". MailOnline. Cyrchwyd 16 July 2009.
  16. "Charlotte Laws: fura-festas e vingadora – Vida – Sábado". Sabado.pt. Cyrchwyd 12 October 2015.
  17. Tom Jones, the Miss World who stole his heart and the faithful wife who wrested it back by Dominic Herbert- Daily Mirror. Published 1 April 2012. Retrieved 12 April 2012.
  18. "Elvira Was Deflowered By Tom Jones; Needed Stitches". StarPulse.com. 9 July 2008. Cyrchwyd 3 October 2011.
  19. "Tom Jones admits he is father of US singer" (yn Saesneg). Wales Online. Cyrchwyd 12 October 2015.
  20. Witheridge, Annette (6 November 2010). "Why won't Tom Jones accept me as his son". Daily Mail. Cyrchwyd 10 January 2014. Unknown parameter |iaith= ignored (help)
  21. "From the £8,000 semi to $6m Bel Air mansion, inside the houses Sir Tom Jones has called home" (yn Saesneg). Wales Online. 12 Chwefor 2015. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2015. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help); Check date values in: |date= (help)
  22. "Tom Jones 'moving back to Britain'" (yn Saesneg). Digital Spy. 2 July 2009. Cyrchwyd 17 October 2009.
  23. Woodward, Clair (2 Hydref 2015). "Book reviews: Over The Top And Back: The Autobiography". The Express (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Tachwedd 2015.
  24. Gwall Templed: Mae paramedr teitl yn orfodol.

Cysylltiad Allanol


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.