Myrr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B cat |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[ |
[[Delwedd:Commiphora myrrha - Köhler–s Medizinal-Pflanzen-019.jpg|bawd|Y goeden ''[[Commiphora myrrha]]'' , un o'r prif goed a dyfir er mwyn cynaeafu Myrrh.]] |
||
[[ |
[[Delwedd:Commiphora-myrrha-resin-myrrh.jpg|bawd|dde|Mae Myrrh yn bur gyffredin yng [[Corn Affrica|Nghorn Affrica]].]] |
||
[[ |
[[Delwedd:MyrrhEssentialOil.png|bawd|Olew a echdynnir allan o'r myrrh (''Commiphora myrrha'').]] |
||
Resin aromatig sy'n cael ei ddefnyddio mewn [[arogldarth]] a [[persawr|phersawrau]] yw '''llysiau'r gïau''' neu '''Myrrh''' ac weithiau: 'creithig bêr', 'sisli bêr', 'cegiden wen' (o'r [[Hebraeg]] '''''"מור"''''' ("mor") ac [[Arabeg]] '''''مر''''' (''mur''); caiff ei gynaeafu o goed pigog, llawn drain y [[genws]] ''[[Commiphora]]'',<ref>Rice, Patty C., ''Amber: Golden Gem of the Ages'', Author House, Bloomington, 2006 tud.321</ref> a chaiff ei ystyried yn olew hanfodol a elwir yn ''oleoresin''. Math o gwm naturiol yw resin myrrh, sydd wedi cael ei ddefnyddio am ganrifoedd mewn persawr, [[arogldarth]] a [[meddyginiaeth]], neu ar adegau drwy ei gymysgu â [[gwin]]. |

Fersiwn yn ôl 04:43, 4 Ionawr 2017
Resin aromatig sy'n cael ei ddefnyddio mewn arogldarth a phersawrau yw llysiau'r gïau neu Myrrh ac weithiau: 'creithig bêr', 'sisli bêr', 'cegiden wen' (o'r Hebraeg "מור" ("mor") ac Arabeg مر (mur); caiff ei gynaeafu o goed pigog, llawn drain y genws Commiphora,[1] a chaiff ei ystyried yn olew hanfodol a elwir yn oleoresin. Math o gwm naturiol yw resin myrrh, sydd wedi cael ei ddefnyddio am ganrifoedd mewn persawr, arogldarth a meddyginiaeth, neu ar adegau drwy ei gymysgu â gwin.
Mae'r broses o gynaeafu myrrh yn hawdd: gwneir twll yn rhisgl y goeden nes cyrhaeddir y gwynnin, a gwaeda'r goeden yn naturiol, ar ffurf resin hanner hylifol; dyma'r resin, sy'n hynod o debyf i thus. Mae cynaeafu'r goeden fel hyn yn anafu'r goeden ac mae'r resin yn caledu'n sydyn, gyda sglein arno. Mae hefyd yn melynnu a gall fod yn glir neu'n dryleu. Gyda thruliad amser mae'n tywyllu, gyda rhesin gwyn arno.[2]
Rhywogaethau
Y rhywogaeth a ddefnyddir yn amlaf yw'r Commiphora myrrha, sy'n frodorol o Yemen, Somalia, Eritrea a dwyrain Ethiopia. Bellach (o ran tacsonomeg) ystyrir y Commiphora molmol,[3] yn un o gyfenwau'r Commiphora myrrha.[4] Cyfeirir at Commiphora gileadensis, sy'n frodorol o Orynys Arabia mae'r cyfeiriad beiblaidd: Oherwydd briw merch fy mhobl yr wyf finnau wedi fy mriwo,wedi galaru, ac wedi fy nal gan syndod. 22Onid oes balm yn Gilead? Onid oes yno ffisigwr?[5] Ceir sawl cyfeiriad yn yr Hen Destament (e.e. Genesis 37:25 and Ecsodus 30:23.) ac yn y Testament Newydd yn Llyfr Matthew, yn un o'r anrhegion a roddwyd i'r baban Iesu Grist, gan y Doethion, yn ô y Beibl.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Rice, Patty C., Amber: Golden Gem of the Ages, Author House, Bloomington, 2006 tud.321
- ↑ Caspar Neumann, William Lewis, The chemical works of Caspar Neumann, M.D.,2nd Ed., Vol 3, London, 1773 p.55
- ↑ Newnes, G., ed., Chambers's encyclopædia, Volume 9, 1959
- ↑ Accessed on February 24, 2014; The Plant List. 2013. Version 1.1.
- ↑ bible.com; Jeremeia8 18-22BCN; adalwyd 25 Rhagfyr 2015