Thus

Oddi ar Wicipedia
Thus o Yemen

Resin aromatig sydd yn cael ei ddefnyddio mewn arogldarth a phersawrau yw Thus, sydd hefyd yn cael ei alw yn olibanum. Mae e'n dod o goed o'r genws Boswellia o fewn y teulu Burseraceae, yn enwedig y Boswellia sacra (cyfystyron: B. bhaw-dajiana), B. carterii33, B. frereana, B. serrata (B. thurifera), a B. papyrifera.

Ceir pedair prif rywogaeth o Boswellia sy'n cynhyrchu thus go iawn. Mae resin o bob un o'r bedair ar gael i raddau amrywiol. Mae'r graddau hyn yn dibynnu ar yr amser mae'r cnwd yn cael ei gynaeafu. Trefnir y resin â llaw yn ôl ansawdd.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Blodau a changhennau o'r goeden Boswellia sacra, ffynhonnell y rhan fwyaf o thus.

Mae thus yn dod o'r coed trwy dorri'r rhisgl a gadael i'r resin ddiferu allan a chaledu.

Hanes[golygu | golygu cod]

Llosgi thus ar lo poeth

Masnachwyd thus ar Benrhyn Arabia a gogledd Affrica ers dros 5000 o flynyddoedd. [1]

Mae murlun sydd yn dangos bagiau o thus o wlad Punt ar waliau teml y Frenhines Hatshepsut o'r Aifft a fu farw tua 1458 CC.[2]

Thus oedd un o'r arogldarthau cysegredig (HaKetoret) a ddisgrifwyd yn y Beibl Hebraeg a Talmud a ddefnyddiwyd mewn seremoniau Ketoret.[3]

Mae thus yr Iddewon, y Grogwyr, a'r Rhufeiniaid, hefyd yn dwyn yr enw Olibanum (o'r Hebraeg חלבנה). Ceir cyfeiriadau yn yr Hen Destament hefyd sy'n crybwyll masnachu thus o Sheba (Eseia 60:6 ; Jeremeia 6:20). Mae sôn am thus mewn Caniad Solomon (Caniad Solomon 4:14).[4]

Mae thus yn gysylltiedig â myrrh (Caniad Solomon 3:6, 4:6). 'Aur, thus a myrrh' oedd yr anhregion i'r Iesu wedi'i enedigaeth, yn ôl y Beibl.(Mathew 2:11).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Papur ar thus" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2008-12-09. Cyrchwyd 2015-12-23.
  2. "Queen Hatshepsut's expedition to the Land of Punt: The first oceanographic cruise?". Dept. of Oceanography, Texas A&M University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-14. Cyrchwyd 2010-05-08.
  3. Klein, Ernest, A Comprehensive Etymological Dictionary of the Hebrew Language for Readers of English, The University of Haifa, Carta, Jeriwsalem, p.292
  4. "www.Bibler.org - Dictionary - Frankincense". 2012-07-21.