Myrr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Myrrh)
Jump to navigation Jump to search
Y goeden Commiphora myrrha , un o'r prif goed a dyfir er mwyn cynaeafu Myrrh.
Mae Myrrh yn bur gyffredin yng Nghorn Affrica.
Olew a echdynnir allan o'r myrrh (Commiphora myrrha).

Resin persawrus yw myrr[1] neu lysiau'r gïau[2] a chaiff ei ystyried yn olew naws a elwir yn oleoresin. Adnabyddir hefyd gan yr enw creithig bêr, cegiden wen, a sisli bêr. Caiff ei gynaeafu o goed pigog, llawn drain y genws Commiphora.[3] Math o gwm naturiol yw resin myrr, sydd wedi cael ei ddefnyddio am ganrifoedd mewn persawr, arogldarth a meddyginiaeth, neu ar adegau drwy ei gymysgu â gwin.

Mae'r broses o gynaeafu myrr yn hawdd: gwneir twll yn rhisgl y goeden nes cyrhaeddir y gwynnin, a gwaeda'r goeden yn naturiol, ar ffurf resin hanner hylifol; dyma'r resin, sy'n hynod o debyf i thus. Mae cynaeafu'r goeden fel hyn yn anafu'r goeden ac mae'r resin yn caledu'n sydyn, gyda sglein arno. Mae hefyd yn melynnu a gall fod yn glir neu'n dryleu. Gyda thruliad amser mae'n tywyllu, gyda rhesin gwyn arno.[4]

Rhywogaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Y rhywogaeth a ddefnyddir yn amlaf yw'r Commiphora myrrha, sy'n frodorol o Iemen, Somalia, Eritrea a dwyrain Ethiopia. Bellach (o ran tacsonomeg) ystyrir y Commiphora molmol,[5] yn un o gyfenwau'r Commiphora myrrha.[6] Cyfeirir at Commiphora gileadensis, sy'n frodorol o Orynys Arabia mae'r cyfeiriad beiblaidd: Oherwydd briw merch fy mhobl yr wyf finnau wedi fy mriwo,wedi galaru, ac wedi fy nal gan syndod. 22Onid oes balm yn Gilead? Onid oes yno ffisigwr?[7] Ceir sawl cyfeiriad yn yr Hen Destament (e.e. Genesis 37:25 and Ecsodus 30:23.) ac yn y Testament Newydd yn Llyfr Matthew, yn un o'r anrhegion a roddwyd i'r baban Iesu Grist, gan y Doethion, yn ô y Beibl.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  myrr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 3 Medi 2018.
  2.  llysiau. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 3 Medi 2018.
  3. Rice, Patty C., Amber: Golden Gem of the Ages, Author House, Bloomington, 2006 tud.321
  4. Caspar Neumann, William Lewis, The chemical works of Caspar Neumann, M.D.,2nd Ed., Vol 3, London, 1773 p.55
  5. Newnes, G., ed., Chambers's encyclopædia, Volume 9, 1959
  6. Accessed on February 24, 2014; The Plant List. 2013. Version 1.1.
  7. bible.com; Jeremeia8 18-22BCN; adalwyd 25 Rhagfyr 2015