Castell Caerdydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Adeiladwaith diweddarach: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB |
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif → 19g using AWB |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Sefydlwyd '''Castell Caerdydd''' ar safle ger canol dinas [[Caerdydd]] heddiw gan y [[Normaniaid]] yn [[1091]], ar safle [[Caerau Rhufeinig Cymru|caer Rufeinig]]. Gwelir gweddillion y gaer honno ar y safle hyd heddiw. Ychwanegwyd castell ffug gan [[Ardalydd Bute]] yn y [[ |
Sefydlwyd '''Castell Caerdydd''' ar safle ger canol dinas [[Caerdydd]] heddiw gan y [[Normaniaid]] yn [[1091]], ar safle [[Caerau Rhufeinig Cymru|caer Rufeinig]]. Gwelir gweddillion y gaer honno ar y safle hyd heddiw. Ychwanegwyd castell ffug gan [[Ardalydd Bute]] yn y [[19g]]. |
||
==Caer Rufeinig Caerdydd== |
==Caer Rufeinig Caerdydd== |
||
{{prif|Caer Rufeinig Caerdydd}} |
{{prif|Caer Rufeinig Caerdydd}} |
||
[[Image:Cardiff Castle keep.jpg|250px| |
[[Image:Cardiff Castle keep.jpg|250px|bawd|Gorthwr Normanaidd '''Castell Caerdydd''']] |
||
[[Delwedd:Design for the Summer Smoking Room at Cardiff Castle.jpg|250px|bawd|Stafell Smygu Ardalydd Bute yn y castell newydd]] |
[[Delwedd:Design for the Summer Smoking Room at Cardiff Castle.jpg|250px|bawd|Stafell Smygu Ardalydd Bute yn y castell newydd]] |
||
Mae rhan helaeth o furiau'r [[Castell mwnt a beili]] Normanaidd wedi'u codi ar ben cwrs y muriau Rhufeinig gwreiddiol. Mewn stafelloedd arddangosfa dan y muriau presennol gellir gweld darnau o'r muriau Rhufeinig. Ymddengys i'r gaer gael ei chodi ar safle caer gynharach a godwyd tua diwedd y [[ganrif gyntaf OC]]. Adeiladwyd yr ail gaer o gerrig [[tywodfaen]] coch, efallai fel amddiffyniad yn erbyn ymosodiadau o'r môr, tua'r flwyddyn [[400]] OC. |
Mae rhan helaeth o furiau'r [[Castell mwnt a beili]] Normanaidd wedi'u codi ar ben cwrs y muriau Rhufeinig gwreiddiol. Mewn stafelloedd arddangosfa dan y muriau presennol gellir gweld darnau o'r muriau Rhufeinig. Ymddengys i'r gaer gael ei chodi ar safle caer gynharach a godwyd tua diwedd y [[ganrif gyntaf OC]]. Adeiladwyd yr ail gaer o gerrig [[tywodfaen]] coch, efallai fel amddiffyniad yn erbyn ymosodiadau o'r môr, tua'r flwyddyn [[400]] OC. |
Fersiwn yn ôl 22:50, 2 Ionawr 2017
Sefydlwyd Castell Caerdydd ar safle ger canol dinas Caerdydd heddiw gan y Normaniaid yn 1091, ar safle caer Rufeinig. Gwelir gweddillion y gaer honno ar y safle hyd heddiw. Ychwanegwyd castell ffug gan Ardalydd Bute yn y 19g.
Caer Rufeinig Caerdydd
- Prif: Caer Rufeinig Caerdydd
Mae rhan helaeth o furiau'r Castell mwnt a beili Normanaidd wedi'u codi ar ben cwrs y muriau Rhufeinig gwreiddiol. Mewn stafelloedd arddangosfa dan y muriau presennol gellir gweld darnau o'r muriau Rhufeinig. Ymddengys i'r gaer gael ei chodi ar safle caer gynharach a godwyd tua diwedd y ganrif gyntaf OC. Adeiladwyd yr ail gaer o gerrig tywodfaen coch, efallai fel amddiffyniad yn erbyn ymosodiadau o'r môr, tua'r flwyddyn 400 OC.
Y castell Normanaidd
Un o breswylwyr enwocaf y castell oedd Robert Curthose, a garcharwyd yno gan ei frawd ifancach, Brenin Harri I Lloegr, o 1106 tan 1134. Yn 1158, y castell oedd lleoliad herwgipiad beiddgar gan Ifor Bach. Daeth Owain Glyndŵr i reoli'r castell yn 1404, gan ei adael i'r Cymry tan i Siaspar Tudur, ewythr Harri Tudur, ei feddiannu yn 1488 fel diolch iddo am ei ran yn ymgyrchoedd ei nai.
Adeiladwaith diweddarach
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, codwyd castell hynafol ffug gan y pensaer William Burges, a oedd yn gweithio i Ardalydd Bute. Fe'i cynlluniwyd i edrych fel cartref a fyddai'n gweddu i un o straeon y Tylwyth Teg gyda nifer o gerfluniau cain a lluniau i'w addurno. Yn ddiweddarach fe'i rhoddwyd i ddinas Caerdydd gan deulu'r Bute. Mae bellach yn atyniad twristaidd poblogaidd ac mae'n gartref i amgueddfa lleng-filwrol, yn ogystal â gweddillion yr hen gastell.
Mynediad a chyfleusterau
Lleolir y castell yng nghanol Caerdydd a saif wrth ymyl Parc Bute. Lleolir canolfan ddinesig Parc Cathays gerllaw hefyd, ynghyd â'r prif strydoedd siopa.
Mae'n gartref i ddawns haf Prifysgol Caerdydd bob blwyddyn a chynhelir Mardi Gras mwyaf Cymru ar gaeau'r castell bob mis Awst.
Gyda lle i dros ddeng mil o bobl ymgynull, manteisiwyd ar hyn i gynnal nifer o gyngherddau roc a pherfformiadau byw, gan gynnwys un gan y grŵp Stereophonics ym mis Mehefin 1998.