Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Robert Herbert Mills-Roberts"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 139 beit ,  6 blynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Infobox football biography | name = Robert Herbert Mills-Roberts | image = | fullname = | birth_date...')
 
Tra'n astudio i fod yn feddyg yn Ysbyty St. Thomas yn Llundain, roedd yn aelod o dîm pêl-droed yr ysbyty yn ogystal a chlybiau amatur Barnes, Crusaders, [[Casuals F.C.|Casuals]] a chlwb enwog [[Corinthian F.C.|Corinthian]]. Cynrychiolodd [[Middlesex]] a [[Surrey]] mewn gemau sirol ac ym 1885 gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr|Lloegr]].
 
Ym 1887 ymunodd â chlwb [[Preston North End F.C.|Preston North End]] fel chwaraewr amatur gan nad oedd eu golwr arferol y clwb, y Cymro [[James Trainer]], yn gymwys i chwarae yng [[Cwpan FA Lloegr|Nghwpan FA Lloegr]]<ref name="pneformerplayers" />. Dim on 13 o gemau chwaraeodd Mills-Roberts dros Preston; wyth yng Nghwpan FA Lloegr, dwy gêm gynghrair a tair gêm gyfeillgar ond llwyddodd i chwarae yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr ddwywaith.
 
Roedd yn aelod o'r tîm gollodd yn y rownd derfynol ym 1888<ref>{{cite web |url=http://www.sportingchronicle.com/FACUP/1888.html |title= 1888 FA Cup Final |pulished=sportingchronicle.com |work=Sporting Chronicle}}</ref> ond ym 1889 llwyddodd i godi'r tlws a sicrhau mai Preston North End oedd y tîm cyntaf erioed i ennill y dwbwl o'r [[Y Gynghrair Bêl-droed|Gynghrair Bêl-droed]] a Chwpan FA yn yr un tymor <ref>{{cite web |url=http://www.sportingchronicle.com/FACUP/1889.html |title= 1889 FA Cup Final |pulished=sportingchronicle.com |work=Sporting Chronicle}}</ref><ref name="pneformerplayers" />.
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{DEFAULTSORT:Mills-Roberts, Robert Herbert}}
[[Categori:Genedigaethau 1862]]
[[Categori:Pêl-droedwyr Cymreig]]

Llywio