Castell Conwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ehangu |
ychwanegu delwedd |
||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
Delwedd:Newgate.jpg|Y fynedfa i'r castell |
Delwedd:Newgate.jpg|Y fynedfa i'r castell |
||
Delwedd:PrifCyfrSycharth.jpg|Y dref o ben y bryn |
Delwedd:PrifCyfrSycharth.jpg|Y dref o ben y bryn |
||
Delwedd:Conway Castle, north Wales.jpeg |
|||
</gallery> |
</gallery> |
||
Fersiwn yn ôl 10:10, 6 Hydref 2015
Castell canoloesol yn nhref Conwy ar lan afon Conwy yw Castell Conwy. Cynllunwyd y castell gan y pensaer Ffrengig James o St George ac fe'i adeiladwyd gan Edward I, brenin Lloegr, er fod Rhisiart o Gaer yn gyfrifol yn y dechrau (1283). Adeiladwyd y castell a'r dref gaerog ar ben adfeilion Abaty Aberconwy, a ddinistrwyd gan Edward er mwyn defnyddio'r safle, ac mae mur o gwmpas y dref gyfan gan mai Saeson oedd trigolion y dref newydd. Roedd Castell Conwy, yn wahanol i nifer o gestyll eraill James o St George, heb fod yn gonsentrig ond yn cael ei godi yn ôl cynllun llinellol oherwydd ffurf y safle creigiog. Mae'r wyth tŵr anferth gyda'u tyredau a'r muriau cysylltu i gyd yn gyfan. [1] Mae'r castell yng ngofal Cadw, ac, fel un o gestyll Edward I yng ngogledd Cymru, mae ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO ers 1986.
Hanes
Codwyd Castell Conwy gan frenin Lloegr ar ôl iddo orchfygu Teyrnas Gwynedd, calon Tywysogaeth Cymru annibynnol, yn 1282-83. Roedd yn un o gylch o gestyll newydd - yn cynnwys Castell Caernarfon, Castell Biwmares a Chastell Harlech - a godwyd gan y Saeson o amgylch Gwynedd i'w gwarchod yn nwylo'r brenin rhag y Cymry gwrthryfelgar.
Ym 1401, yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr, cipiodd ei gefnogwyr Rhys ap Tudur a'i frawd Gwilym ap Tudur y castell, a llosgwyd y dref.
Oriel
-
Hen ffotograff c. 1890-1900
-
Y castell oddeutu 1885
-
Y castell fel ag y mae heddiw wrth deithio tuag at Conwy dros y bont geir.
-
Cynllun pensaerniol o'r castell
-
Y castell o gyfeiriad yr harbwr
-
Muriau'r castell o'r de
-
Tynnwyd y llun hwn yr ochor arall i aber Afon Conwy
-
Lleolwyd y castell ar aber yr afon; mae'r dref o'i chwmpas
-
Y castell ar y chwith; gwelir hefyd tyrrau'r mur allanol yn rhedeg yn gyochrog a'r harbwr
-
Tynnwyd y llun hwn ar draws yr afon, o safle adar yr RSPB
-
Y fynedfa i'r castell
-
Y dref o ben y bryn
Ffynonellau
- ↑ Over Wales, Pitkin Unichrome 2000