Maredudd ab Owain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
B →‎Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Llinell 16: Llinell 16:
{{bocs olyniaeth | cyn = [[Owain ap Hywel]] | teitl = [[Teyrnas Deheubarth|Brenin Deheubarth]] | blynyddoedd = [[987]] – [[999]] | ar ôl = [[Edwin ab Einion]]<br>a [[Cadell ab Einion]]}}
{{bocs olyniaeth | cyn = [[Owain ap Hywel]] | teitl = [[Teyrnas Deheubarth|Brenin Deheubarth]] | blynyddoedd = [[987]] – [[999]] | ar ôl = [[Edwin ab Einion]]<br>a [[Cadell ab Einion]]}}
{{diwedd-bocs}}
{{diwedd-bocs}}

{{Rheoli awdurdod}}


{{DEFAULTSORT:Maredudd ab Owain}}
{{DEFAULTSORT:Maredudd ab Owain}}
Llinell 24: Llinell 26:
[[Categori:Teyrnoedd Deheubarth]]
[[Categori:Teyrnoedd Deheubarth]]
[[Categori:Teyrnoedd Gwynedd]]
[[Categori:Teyrnoedd Gwynedd]]

{{Authority control}}

Fersiwn yn ôl 11:12, 26 Ebrill 2015

Teyrnas Maredudd ab Owain ar ei eithaf (glas).

Roedd Maredudd ab Owain (bu farw 999) yn frenin Gwynedd a Deheubarth. Llwyddodd i sefydlu ei awdurdod dros y rhan fwyaf o Gymru, ac eithrio'r de-ddwyrain.[1]

Bywgraffiad

Roedd Maredudd yn fab i Owain ap Hywel Dda, brenin Deheubarth. Pan aeth Owain yn rhy hen i arwain mewn brwydr, cymerodd Maredudd ei le, ac yn 986 llwyddodd i gipio Gwynedd o ddwylo Cadwallon ab Ieuaf. Yr oedd Gwynedd wedi bod yn rhan o derynas ei daid, Hywel Dda ac mae'n debyg fod y teulu yn parhau i'w hawlio. Ar farwolaeth Owain yn 988 daeth Maredudd yn frenin Deheubarth hefyd. Efallai fod y cyfan o Gymru heblaw Gwent a Morgannwg yn rhan o'i deyrnas.[1]

Mae cofnod amdano yn ymosod ar safleoedd gwŷr Mercia ar hyd y ffin a chofnodir hefyd ei fod wedi talu pris o geiniog y pen i ryddhau nifer o'i ddeiliaid oedd wedi eu cymeryd yn garcharorion yn ymosodiadau'r Llychlynwyr. Yr oedd ymosodiadau y Daniaid yn broblem barhaus yn ystod teyrnasiad Maredudd. Yn 987 ymosododd y Daniad Godfrey Haroldson ar Ynys Môn gan ladd mil o wŷr a dwyn dwy fil ymaith yn garcharorion.[1]

Bu Maredudd farw yn 999 ac mae'n cael ei ddisgrifio ym Mrut y Tywysogion fel "brenin mwyaf clodfawr y Brutaniaid".[2] Yn dilyn ei farwolaeth enillwyd gorsedd Gwynedd yn ôl i linach Idwal Foel gan Cynan ap Hywel.[1]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 John Edward Lloyd (1911) A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).
  2. Thomas Jones (gol.), Brut y Tywysogyon. Peniarth MS. 20. (Caerdydd, 1941), tud. 13a.
Rhagflaenydd:
Cadwallon ab Ieuaf
Brenin Gwynedd
986999
Olynydd:
Cynan ap Hywel
Rhagflaenydd:
Owain ap Hywel
Brenin Deheubarth
987999
Olynydd:
Edwin ab Einion
a Cadell ab Einion