Cadell ab Einion

Oddi ar Wicipedia
Cadell ab Einion
Ganwyd10 g Edit this on Wikidata
Bu farw1018 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
TadEinion ab Owain Edit this on Wikidata
PlantTewdwr ap Cadell Edit this on Wikidata

Aelod o deulu brenhinol Deheubarth oedd Cadell ab Einion neu Cadell ab Einon (bu farw c. 1018); efallai iddo fod yn gyd-frenin Deheubarth rhwng 1005 a 1018.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd Cadell yn fab i Einion ab Owain, oedd yn rheolwr de facto teyrnas Deheubarth yn henaint ei dad, Owain ap Hywel. Fodd bynnag, lladdwyd Einion ar gyrch yng Ngwent yn 984, a phan fu farw Owain, dilynwyd ef ar yr orsedd gan fab arall iddo, Maredudd ab Owain.[1]

Mae'r cyfnod yn dilyn marwolaeth Maredudd yn 999 yn un tywyll yn hanes Deheubarth, oherwydd ychydig iawn o wybodaeth a gofnodir yn y brutiau am y blynyddoedd nesaf. Credir fod Cadell wedi dod yn frenin Deheubarth ar y cyd a'i frawd Edwin ab Einion yn 1005. Nid ymddengys i'w fab, Tewdwr ap Cadell, ddod yn frenin Deheubarth, ond llwyddodd ei ŵyr, Rhys ap Tewdwr, i ennill yr orsedd ym Mrwydr Mynydd Carn yn 1081.[1]

Llinach[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 John Edward Lloyd (1911). A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).