Owain ap Hywel

Oddi ar Wicipedia
Owain ap Hywel
Ganwyd10 g Edit this on Wikidata
Bu farw988 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
SwyddTeyrnas Deheubarth Edit this on Wikidata
TadHywel Dda Edit this on Wikidata
MamElen ferch Llywarch Edit this on Wikidata
PlantEinion ab Owain, Maredudd ab Owain Edit this on Wikidata

Roedd Owain ap Hywel (bu farw 987) yn frenin Deheubarth yn ne-orllewin Cymru a chredir iddo hefyd ennill grym dros Deyrnas Powys.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd Owain yn fab i Hywel Dda, oedd yn frenin Deheubarth yn wreiddiol, ond erbyn ei farwolaeth yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru. Pan fu farw Hywel yn 950 rhannwyd Deheubarth rhwng Owain a'i ddau frawd, Rhodri ac Edwin. Ni allodd meibion Hywel ddal eu gafael ar Wynedd, a adenillwyd i dŷ brenhinol Aberffraw gan Iago ab Idwal ac Ieuaf ab Idwal, meibion Idwal Foel.

Yn 952 ymosododd Iago ac Ieuaf ar y de, gan gyrraedd cyn belled a Dyfed. Yn 954 ymosododd meibion Hywel ar Wynedd, gan gyrraedd cyn belled a Dyffryn Conwy cyn cael eu gorchfygu mewn brwydr gerllaw Llanrwst a gorfod encilio i Geredigion.

Bu farw Rhodri yn 953 ac Edwin yn 954, gan adael Owain yn frenin Deheubarth. Ni cheisiodd ymosod ar Wynedd eto, ond yn hytrach trodd ef a'i fab Einon tua'r dwyrain i ymosod ar deyrnas Morgannwg yn 960, 970 a 977. Erbyn hyn yr oedd Owain yn heneiddio, ac mae'n ymddangos i Einon ddod yn gyfrifol am weinyddu'r deyrnas ar ran ei dad. Ar gyrch arall tua'r dwyrain, lladdwyd Einon gan uchelwyr Gwent yn 984.

Wedi marwolaeth Einon, daeth ail fab Owain, Maredudd, i arwain byddin Deheubarth yn ei le, ac yn 986 llwyddodd i gipio gorsedd Gwynedd, gan yrru mab Ieuaf, Cadwallon ab Ieuaf, ar ffo. Y flwyddyn wedyn bu farw Owain a daeth Maredudd yn frenin Deheubarth a Gwynedd.

Dywedir fod gan Owain ddiddordeb mewn ysgolheictod, a bod yr Annales Cambriae wedi eu gasglu at ei gilydd ar ei gais ef.

Llinach[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Rhagflaenydd:
Hywel Dda
Brenin Deheubarth
950987
gyda Rhodri ap Hywel (hyd 953)
ac Edwin ap Hywel (hyd 954)
Olynydd:
Maredudd ab Owain