Richard Francis Burton: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B cat |
B 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB |
||
Llinell 17: | Llinell 17: | ||
Roedd yn gapten ym myddin [[Cwmni Prydeinig India'r Dwyrain]] a gwasanaethodd yn India, ac am gyfnod byr yn [[Rhyfel Crimea]]. Wedi hyn cafodd ei gyflogi gan [[y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol]] i fforio arfordir dwyreiniol Affrica a daeth yn yr Ewropead cyntaf i weld [[Llyn Tanganyika]]. Yn hwyrach gwasanaethodd fel [[conswl (cynrychiolydd)|conswl]] dros Brydain yn [[Bioko|Fernando Po]], [[Santos (São Paulo)|Santos]], [[Damascus]] a [[Trieste]]. Roedd yn Gymrawd y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol a chafodd ei [[urdd marchog|urddo'n farchog]] ([[Urdd Sant Mihangel a Sant Siôr#KCMG|KCMG]]) ym 1886. |

{{Rheoli awdurdod}} |
|||
{{DEFAULTSORT:Burton, Richard Francis}} |
{{DEFAULTSORT:Burton, Richard Francis}} |
||
Llinell 36: | Llinell 38: | ||
[[Categori:Pobl o Ddyfnaint]] |
[[Categori:Pobl o Ddyfnaint]] |
||
[[Categori:Ysbiwyr]] |
[[Categori:Ysbiwyr]] |
||
{{Authority control}} |
Fersiwn yn ôl 05:46, 26 Ebrill 2015
Richard Francis Burton |
---|
Daearyddwr, fforiwr, cyfieithydd, llenor, milwr, dwyreinydd, cartograffydd, ethnolegydd, ysbïwr, ieithydd, bardd, cleddyfwr, a diplomydd o Sais oedd y Capten Syr Richard Francis Burton KCMG FRGS (19 Mawrth 1821 – 20 Hydref 1890). Roedd yn enwog am ei deithiau yn Asia, Affrica a'r Amerig yn ogystal â'i wybodaeth eang o ieithoedd a diwylliannau. Yn ôl un gyfrif, yr oedd yn medru siarad 29 o ieithoedd Ewropeaidd, Asiaidd ac Affricanaidd.
Ymhlith ei gampau enwocaf yw teithio mewn cuddwisg i Mecca, cyfieithu'r Mil ac un o nosweithiau o'r Arabeg i'r Saesneg mewn argraffiad diymyrraeth, cyhoeddi'r Kama Sutra yn Saesneg, a theithio â John Hanning Speke dan arweiniad y tywysydd Sidi Mubarak Bombay i ymweld â Llynnoedd Mawr Affrica wrth chwilio am darddiad yr Afon Nîl. Beirniadodd Burton polisïau trefedigaethol yn ei waith, er anfantais i'w yrfa. Roedd yn awdur toreithiog a dysgedig ac ysgrifennodd nifer o lyfrau ac erthyglau ysgolheigaidd ar bynciau gan gynnwys ymddygiad dynol, teithio, hebogyddiaeth, cleddyfa, ymddygiad rhywiol, ac ethnograffeg. Nodwedd unigryw o'i lyfrau yw'r troednodion ac atodiadau helaeth sy'n cynnwys sylwadau nodedig a gwybodaeth gyflawn.
Roedd yn gapten ym myddin Cwmni Prydeinig India'r Dwyrain a gwasanaethodd yn India, ac am gyfnod byr yn Rhyfel Crimea. Wedi hyn cafodd ei gyflogi gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol i fforio arfordir dwyreiniol Affrica a daeth yn yr Ewropead cyntaf i weld Llyn Tanganyika. Yn hwyrach gwasanaethodd fel conswl dros Brydain yn Fernando Po, Santos, Damascus a Trieste. Roedd yn Gymrawd y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol a chafodd ei urddo'n farchog (KCMG) ym 1886.