Yr Ynys Las: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Jfblanc (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 17: Llinell 17:
|enwau_arweinwyr1 = [[Margrethe II, brenhines Denmarc|Margrethe II]]
|enwau_arweinwyr1 = [[Margrethe II, brenhines Denmarc|Margrethe II]]
|teitlau_arweinwyr2 = - [[Prif Weinidog yr Ynys Las|Prif Weinidog]]
|teitlau_arweinwyr2 = - [[Prif Weinidog yr Ynys Las|Prif Weinidog]]
|enwau_arweinwyr2 = [[Aleqa Hammond]]
|enwau_arweinwyr2 = [[Kim Kielsen]]
|digwyddiad_sefydlu'r_wladwriaeth = Statws
|digwyddiad_sefydlu'r_wladwriaeth = Statws
|digwyddiadau_gwladwriaethol = <br />- Ymreolaeth
|digwyddiadau_gwladwriaethol = <br />- Ymreolaeth

Fersiwn yn ôl 21:50, 18 Rhagfyr 2014

Grønland
Kalaallit Nunaat

Yr Ynys Las
Baner yr Ynys Las Arfbais yr Ynys Las
Baner Arfbais
Arwyddair: dim
Anthem: Nunarput utoqqarsuanngoravit
Nuna asiilasooq
Lleoliad yr Ynys Las
Lleoliad yr Ynys Las
Prifddinas Nuuk (Godthåb)
Dinas fwyaf Nuuk
Iaith / Ieithoedd swyddogol Kalaallisut, Daneg
Llywodraeth Democratiaeth seneddol (tu fewn i frenhiniaeth gyfansoddiadol)
- Teyrn Margrethe II
- Prif Weinidog Kim Kielsen
Statws

- Ymreolaeth
Talaith ymreolaethol Teyrnas Denmarc
1979
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
2,166,086 km² (13eg)
81.11
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Dwysedd
 
57,100 (214ydd)
0.026/km² (230ain)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2001
$1.1 biliwn (-)
20,000 (-)
Indecs Datblygiad Dynol (1998) 0.927 (-) – uchel
Arian cyfred Krone Denmarc (DKK)
Cylchfa amser
 - Haf
(UTC0 i -4)
Côd ISO y wlad .gl
Côd ffôn +299
1 Gorchuddir 1,755,637 km2 gan iâ.

Yr ynys fwyaf yn y byd yw'r Ynys Las neu'r Lasynys (Kalaallisut: Kalaallit Nunaat; Daneg: Grønland), yng Ngogledd Môr yr Iwerydd rhwng Canada a Gwlad yr Iâ. Mae brenhines Denmarc, Margrethe II, hefyd yn frenhines ar yr Ynys Las. Prifddinas yr ynys yw Nuuk.

Daearyddiaeth

Mae iâ yn gorchuddio 84% o'r tir. Gorchuddir y rhan fwyaf o'r wlad gan gap rhew anferth â nunatakau yn torri trwodd o gwmpas ei ymylon. O'r cap rhew hwn mae nifer o rewlifoedd, neu afonydd iâ, yn llifo, gan gynnwys Rhewlif Humboldt, ac yn torri i fyny'n fynyddoedd iâ wrth gyrraedd y môr. Nodwedd arall ar dirwedd yr Ynys Las yw'r nifer sylweddol o pingos (bryniau crwn gyda rhew yn eu canol) a geir yno.

Er gwaethaf yr holl rew, mae'r enw yn y Ddaneg (ac mewn ieithoedd Almaenaidd eraill) yn golygu "Tir (neu wlad) glas" (gweler isod).

Mae'r Ynys Las (2 miliwn km²) yn ymddangos ar fapiau o dafluniad Mercator cymaint ag yr Affrig (30 miliwn km²),

Hanes

Tua'r flwyddyn 986, darganfu'r morwr o Lychlynwr Eric Goch yr ynys. Fe'i galwodd "yr Ynys Las" er mwyn denu pobl yno o Wlad yr Iâ a Norwy. Am gyfnod bu nifer fach o drefedigaethau Llychlynaidd ar yr arfordir, ond diflanasant erbyn y 15fed ganrif, naill ai o ganlyniad i afiechyd neu ymosododiadau gan y brodorion.

Yn 1721 creuwyd tref fechan Ddanaidd newydd ar yr ynys a hawliodd coron Denmarc y tir. Daeth y wlad yn rhan gymathedig o Ddenmarc yn 1953. Yn 1979, y flwyddyn y collwyd y refferendwm ar ddatganoli yng Nghymru, enillodd yr Ynys Las hunanlywodraeth dan sofraniaeth Denmarc, gyda'i senedd ei hun ar gyfer materion mewnol.

Iaith a diwylliant

Mae tua 80% o'r boblogaeth yn Esgimo. Daniaid yw'r gweddill i gyd bron. Siaredir y ddwy iaith yn swyddogol.

Enwogion

Dolenni allanol

Golygfa ger Nanortalik