Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Roger Casement"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 21 beit ,  6 blynedd yn ôl
Awdurdod
B (Bot: Migrating 23 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q311966 (translate me))
(Awdurdod)
[[Image:Roger Casement.jpg|right|thumb|250px|Roger Casement]]
 
[[Cenedlaetholdeb Gwyddelig|Cenedlaetholwr Gwyddelig]] oedd '''Roger David Casement''' ([[Gwyddeleg]]: ''Ruairí Mac Easmainn'') ([[1 Medi]] [[1864]] – [[3 Awst]] [[1916]]).
 
Ganed Casement yn ninas [[Dulyn]]. Protestant oedd ei dad, ond Catholig oedd ei fam, a dywedir iddi hi drefnu i'w ail-fedyddio yn eglwys Gatholig [[y Rhyl]] pan oedd yn dair oed. Roedd ei rieni ill dau wedi marw erbyn iddo gyrraedd deg oed.
Aeth Casement i [[Affrica]] yn [[1883]] pan oedd yn 19 oed. Yn y [[Congo]], bu'n gweithio i nifer o gwmnïau, yn cynnwys yr ''Association Internationale Africaine'' a sefydlwyd gan [[Leopold II, brenin Gwlad Belg]]. Cyfarfu a [[Henry Morton Stanley]] a [[Joseph Conrad]] tra'r oedd yno.
 
Pan adawodd Casement y Congo,aeth i weithio dros Swyddfa Drefedigaethol y Deyrnas Unedig yn [[Nigeria]]. Yn 1895 daeth yn gonswl Prydeinig yn Lourenço Marques (yn awr Maputo). Yn 1892 dychwelodd i'r Congo a dod yn gonswl Prydeinig yno. Rhoddodd gyhoeddusrwydd i'r modd yr oedd y brodorion yn cael eu camdrin gan system Leopold II o waith gorfodol. Yn [[1903]], gofynodd y Senedd iddo ymchwilio i'r mater. Cyhoeddwyd ei adroddiad yn [[1904]], a chafodd effaith fawr ar y farn gyhoeddus. Yn [[1906]] gyrrwyd ef i Dde America, a daeth yn gonswl yn [[Rio de Janeiro]]. Tra yno, tynnodd sylw at gamdriniaeth brodorion [[Periw]] gan y ''Peruvian Amazon Company'' Prydeinig, oedd yn gweithredu system debyg i [[caethwasiaeth|gaethwasiaeth]] ar gyfer cynhyrchu [[rwber]]. Gwnaed ef yn farchog am ei waith yn [[1911]].
 
Yn [[1912]] gadawodd y gwasanaeth trefedigaethol, a daeth yn aelod o'r [[Irish Volunteers]] dan [[Eoin MacNeill]]. Pan oedd [[Gwrthryfel y Pasg]] yn cael ei baratoi, aeth i'r [[Almaen]] i geisio cefnogaeth. Ni chafodd lawer o lwyddiant, ond gyrrodd yr Almaenwyr long, yr ''Aud Norge'', yn cario arfau i Iwerddon. Wedi i'r llong hwylio, aed a Casement i Iwerddon mewn [[llong danfor]] a'i ollwng ar draeth Banna yn [[Swydd Kerry]]. Dymunai Casement atal y gwrthryfel, gan nad oedd wedi cael digon o gefnogaeth iddo fedru llwyddo. Cymerwyd ef yn garcharor yn fuan wedi iddo lanio.
[[Categori:Pobl fu farw trwy grogi]]
[[Categori:Pobl o Ddulyn]]
 
{{Authority control}}
420,642

golygiad

Llywio