William Henry Preece: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Deb (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
→Cyfeiriadau: categoriau |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
{{cyfeiriadau}} |
{{cyfeiriadau}} |
||
{{DEFAULTSORT:Preece, William Henry}} |
|||
[[Categori:Cymry'r 19eg ganrif]] |
|||
[[Categori:Cymry'r 20fed ganrif]] |
|||
[[Categori:Ffisegwyr Cymreig]] |
[[Categori:Ffisegwyr Cymreig]] |
||
[[Categori:Genedigaethau 1834]] |
[[Categori:Genedigaethau 1834]] |
||
[[Categori:Marwolaethau 1913]] |
[[Categori:Marwolaethau 1913]] |
||
[[Categori:Pobl o Gaernarfon]] |
|||
[[en:William Henry Preece]] |
[[en:William Henry Preece]] |
Fersiwn yn ôl 20:24, 14 Tachwedd 2013
Peiriannydd o fri, arloeswr yn natblygiad y teliffon, pennaeth y Swyddfa Bost, a mentor i Guglielmo Marconi oedd y Cymro William Henry Preece (15 Chwefror 1834 – 6 Tachwedd 1913).[1] Ym mis Mai, 1897, danfonodd Marconi signal radio o Drwyn Larnog yn ne Cymru i Ynys Echni, dair milltir i ffwrdd ym Môr Hafren. Profodd hyn y gallai radio weithio dros ddŵr yn ogystal â thir a defnyddiwyd yr wybodaeth hon yn ymarferol gan longau ar y môr oedd am gysylltu â'r tir mawr. Preece oedd prif gynorthwyydd Marconi. Ym 1892 roedd Preece wedi defnyddio'r lleoliad hwn ar gyfer ei arbrofion ef ei hun.[2]
Yn enedigol o Gaernarfon aeth i Ysgol King's College yng Nghaergrawnt, Coleg King's College, Llundain ac yna'r Royal Institution o dan Michael Faraday. Ym 1901, anfonodd Marconi signalau radio o Gernyw i Newfoundland, Canada.
Ychydig wedi hynny adeiladodd Marconi orsaf radio bwerus yn Waunfawr ger Caernarfon. Er i'w ymdrechion ef ei hun i ddatblygu system radio dros bellter fethu, roedd ei gymorth i Marconi'n allweddol yn natblygiad cyfathrebu torfol.
Cyfeiriadau
- ↑ Llên Natur; Rhif 69 Tachwedd 2013
- ↑ Arwyr Cymru adalwyd 08 Tachwedd 2013