Afon Soch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
RHaworth (sgwrs | cyfraniadau) use Commons image |
newidiadau man using AWB |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Llifa'r afon yn ei blaen ar gwrs cyfochrog i fae [[Porth Neigwl]]. Ger [[Llanengan]] mae hi'n troi'n dynn i'r gogledd ac yna i'r dwyrain eto, i lifo i'r môr yn [[Abersoch]]. Yn y pentref hwnnw ceir dau harbwr ar ei glannau, un yng nghanol Abersoch a'r llall ar lan y môr. |

[[Categori:Afonydd Gwynedd|Soch]] |
[[Categori:Afonydd Gwynedd|Soch]] |
Fersiwn yn ôl 16:28, 7 Mawrth 2013
Afon ar benrhyn Llŷn yng Ngwynedd yw Afon Soch (cyfeiriad grid SH2927). Ei hyd yw tua 10 milltir.
Gorwedd tarddle'r afon i'r dwyrain o gymuned Cefnamlwch rhwng Mynydd Cefnamwlch a Carn Fadryn. Llifa i gyfeiriad y de a thrwy bentref Sarn Mellteyrn lle mae'r B4413 yn ei chroesi ar bont. Yna mae hi'n troi i gyfeiriad y de-ddwyrain a heibio i'r de o bentref Botwnnog. Tua chwarter milltir ar ôl Llandegwning, daw ffrwd Afon Horon i mewn iddi o'r gogledd o'i tharddle rhwng Garn Boduan a Garn Saethon.
Llifa'r afon yn ei blaen ar gwrs cyfochrog i fae Porth Neigwl. Ger Llanengan mae hi'n troi'n dynn i'r gogledd ac yna i'r dwyrain eto, i lifo i'r môr yn Abersoch. Yn y pentref hwnnw ceir dau harbwr ar ei glannau, un yng nghanol Abersoch a'r llall ar lan y môr.