Y plygain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tad-kozh ar pellgent
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Lucia in Vienna 4.jpg|de|bawd|300px]]
[[Delwedd:Lucia in Vienna 4.jpg|de|bawd|300px]]
Gwasanaeth Nadolig traddodiadol wedi'i gynnal yn fore ydy'r '''plygain'''. Daw unigolion, deuawdau, grwpiau a theuluoedd ymlaen i du blaen yr eglwys i ganu [[carol plygain]]. Rhwng tri a chwech y bore y cynhaliwyd y gwasanaeth fel arfer, er bod yr amseroedd, bellach, yn amrywio'n fawr. Cred rhai y daw'r gair 'plygain' o'r gair [[Lladin]] ''pullicantio'', sef 'ar ganiad y ceiliog'; cred eraill mai o'r gair 'plygu' y daw. Mae sawl amrywiad ar y gair: pylgen, pilgen, plygan, plygen a.y.y.b. Ceir enghraifft o'r gair mewn llawysgrifau Cymraeg mor gynnar a'r 13eg ganrif ('pader na pilgeint na gosber').
Gwasanaeth Nadolig traddodiadol wedi'i gynnal yn fore ydy'r '''plygain'''. Daw unigolion, deuawdau, grwpiau a theuluoedd ymlaen i du blaen yr eglwys i ganu [[carol plygain]]. Rhwng tri a chwech y bore y cynhaliwyd y gwasanaeth fel arfer, er bod yr amseroedd, bellach, yn amrywio'n fawr. Cred rhai y daw'r gair 'plygain' o'r gair [[Lladin]] ''pullicantio'', sef 'ar ganiad y ceiliog'; cred eraill mai o'r gair 'plygu' y daw. Mae sawl amrywiad ar y gair: pylgen, pilgen, plygan, plygen a.y.y.b. Ceir enghraifft o'r gair mewn llawysgrifau Cymraeg mor gynnar a'r 13eg ganrif ('pader na pilgeint na gosber'); y gair Llydaweg am [[Sion Corn]] ydy ''Tad-kozh ar pellgent'' ("Tad-cu y plygain").


Mewn rhai mannau, arferai'r bobl wneud [[cyflaith]] i ddisgwyl yr amser cychwyn. Gwyddom i hyn ddigwydd ym [[Marford]], [[Sir y Fflint]] er enghraifft. Yn [[Llanfair Dyffryn Clwyd]], yn 1774, gwyddom i'r trigolion lleol gynnau cynhwyllau, dawnsio a chanu cyn mynd i'r plygain.
Mewn rhai mannau, arferai'r bobl wneud [[cyflaith]] i ddisgwyl yr amser cychwyn. Gwyddom i hyn ddigwydd ym [[Marford]], [[Sir y Fflint]] er enghraifft. Yn [[Llanfair Dyffryn Clwyd]], yn 1774, gwyddom i'r trigolion lleol gynnau cynhwyllau, dawnsio a chanu cyn mynd i'r plygain.

Fersiwn yn ôl 03:38, 25 Rhagfyr 2011

Gwasanaeth Nadolig traddodiadol wedi'i gynnal yn fore ydy'r plygain. Daw unigolion, deuawdau, grwpiau a theuluoedd ymlaen i du blaen yr eglwys i ganu carol plygain. Rhwng tri a chwech y bore y cynhaliwyd y gwasanaeth fel arfer, er bod yr amseroedd, bellach, yn amrywio'n fawr. Cred rhai y daw'r gair 'plygain' o'r gair Lladin pullicantio, sef 'ar ganiad y ceiliog'; cred eraill mai o'r gair 'plygu' y daw. Mae sawl amrywiad ar y gair: pylgen, pilgen, plygan, plygen a.y.y.b. Ceir enghraifft o'r gair mewn llawysgrifau Cymraeg mor gynnar a'r 13eg ganrif ('pader na pilgeint na gosber'); y gair Llydaweg am Sion Corn ydy Tad-kozh ar pellgent ("Tad-cu y plygain").

Mewn rhai mannau, arferai'r bobl wneud cyflaith i ddisgwyl yr amser cychwyn. Gwyddom i hyn ddigwydd ym Marford, Sir y Fflint er enghraifft. Yn Llanfair Dyffryn Clwyd, yn 1774, gwyddom i'r trigolion lleol gynnau cynhwyllau, dawnsio a chanu cyn mynd i'r plygain.

Mewn mannau eraill, cafwyd gorymdeithiau i'r eglwys o ganol y dref: Dinbych-y-pysgod, Talacharn a Llanfyllin. Cynheuwyd ffaglau a hebryngwyd y rheithor lleol ar flaen yr orymdaith.

Cynnau Cannwyll

Hyd at y 19eg ganrif, anaml iawn y cynhelid gwasanaethau eglwys yn y nos, gan nad oedd hi'n hawdd goleo'r eglwys; ond roedd y plygain yn eithriad. Er mwyn cael golau, arferai'r trigolion gario eu cannwyll neu lamp i'r eglwys. Daeth hyn yn rhan bwysig o'r ŵyl; yn Nolgellau, er enghraifft, gwysgwyd y canhwyllau â chelyn ac y Llanfyllin cynheuwyd cannoed o ganhwyllau wedi'u gosod fodfeddi ar wahân.

Y Gwasanaeth ei hun

Dyma ddisgrifiad William Payne o blygain Dolgellau tuag 1850[1]

Yn awr y mae'r eglwys yn wenfflam; yn awr o dan ei sang, gorff, ystlysau, oriel; yn awr wele Siôn Robert, y crydd troed-gam, a'i wraig, gan ddod i lawr o'r sedd ganu i ran isaf a blaenaf yr oriel, yn taro bob yn ail y garol hirfaith a'r hen ffefryn yn disgrifio Addoliad y Brenhinoedd a'r Doethion, a'r Ffoad i'r Aifft, ac anfadrwydd ofnadwy Herod. Hollol ddistaw yw'r tyrfaoedd ac wedi ymgolli mewn edmygedd.... A'r gweddiau trosodd, cychwynna'r cantorion eto ragor o garolau, cantorion newydd, hen garolau mewn unawdau, deuawdau, triawdau, cytganau, yna distawrwydd yn y gynulleidfa, wedi ei dorri ar seibiau priodol gan rwystrus furmur yr hyfrydwch a'r gymeradwyaeth, nes rhwng wyth a naw, a newyn yn dweud ar y cantorion, y mae'r Plygain drosodd a thery'r Clych ganiad llawn.

Canu plygain heddiw

Mae'r traddodiad yn parhau'n fyw ym Maldwyn, ac yn yr ardaloedd canlynol:

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

  1. gwefan Sain Ffagan