Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Silwriaid"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 21 beit ,  10 mis yn ôl
dim crynodeb golygu
(→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB)
No edit summary
 
[[Delwedd:CymruLlwythi.PNG|250px|bawd|de|Llwythi Cymru tua 48 OC. Nid oes sicrwydd am yr union ffiniau.]]
 
Roedd y '''Silwriaid''' ([[Lladin]]: ''Silures'') yn llwyth [[Brythoniaid|Brythonaidd]] oedd yn byw yn ne-ddwyrain [[Cymru]] pan gyrhaeddodd y [[Rhufeiniaid]] i'r ardal. Yn fras roeddynt yn byw yn yr hyn ddaeth yn nes ymlaen ym [[Brycheiniog|Mrycheiniog]], [[Gwent]] a [[Morgannwg]]. Roeddynt yn ffinio a'r [[Ordoficiaid]] yn y gogledd a'r [[Demetae]] yn y gorllewin. Yn ôl yr hanesydd Rhufeinig [[Tacitus]] roeddynt yn bobl bryd-tywyll gyda gwallt cyrliog. Ymhlith y [[bryngaer]]au niferus ar eu tir y mae [[bryngaer Goed Llanmelin]] yn sefyll allan fel canolfan bwysig.
 
Bu farw Ostorius yn annisgwyl yn [[52]] heb fod wedi concro'r Silwriaid. Wedi ei farwolaeth ef gallasant orchfygu'r [[Legio II Augusta|Ail Leng]], oedd yn cael ei harwain gan Gaius Manlius Valens, cyn i'r llywodraethwr newydd, [[Aulus Didius Gallus]], gyrraedd. Yn [[57]], dechreuodd y llywodraethwr [[Quintus Veranius Nepos]] ymgyrch yn eu herbyn, ond bu farw yn fuan wedyn. Dim ond ugain mlynedd yn ddiweddarach, dan [[Sextus Julius Frontinus]], y gorchfygwyd y llwyth yn derfynol.
 
Prifddinas y Silwriaid yn y cyfnod Rhufeinig oedd Venta Silurum ([[Caerwent]] heddiw). Wedi'r cyfnod Rhufeinig daeth tiriogaeth y Silwriaid yn deyrnasoedd [[Teyrnas Gwent|Gwent]], [[Brycheiniog]], [[Gwynllŵg (cantref)|Gwynllŵg]] a [[Teyrnas Morgannwg|Morgannwg]]. Enwyd y cyfnod [[Silwraidd]] mewn daeareg ar ôl y llwyth yma, gan i greigiau o'r cyfnod yma gael eu disgrifio gyntaf yn nhiriogaeth y llwyth.
 
{{Llwythau Celtaidd Cymru}}

Llywio