Aulus Didius Gallus
| Aulus Didius Gallus | |
|---|---|
| Ganwyd | Unknown |
| Bu farw | Unknown |
| Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
| Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol |
| Swydd | seneddwr Rhufeinig, legatus Augusti pro praetore Britanniae, quaestor, Conswl Rhufeinig |
Milwr a gwleidydd Rhufeinig oedd Aulus Didius Gallus (fl. c. 19 - 57). Roedd y llywodraethwr Prydain o 52 hyd 57 OC.
Gwasanaethodd fel quaestor dan yr ymerawdwr Tiberius, yn ôl pob tebyg yn 19; yna fel legad i broconswl Asia ac fel proconswl Sicilia. Bu'n dal swydd curator aquarum, yn gyfrifol am y cyflenwad dŵr i Rufain, o 38 hyd 39, ac yn gonswl yn 39.
Yn 52, daeth yn llywodraethwr Prydain, yn dilyn marwolaeth Ostorius Scapula. Roedd y Silwriaid yn ne-ddwyrain Cymru yn parhau i ymladd yn erbyn Rhufain. Wedi marwolaeth Ostorius Scapula ond cyn i Didius gyrraedd ei dalaith, roeddynt wedi gorchfygu yr Ail Leng, Legio II Augusta, oedd yn cael ei harwain gan Gaius Manlius Valens. Adeiladodd Didius gaerau ychwanegol ar y ffiniau, er enghraifft Brynbuga, yn hytrach na cheisio goresgyn tiriogaethau, a beirniedir ef gan yr hanesydd Tacitus am hyn.