Quintus Veranius Nepos

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Quintus Veranius Nepos
Ganwyd 12 Edit this on Wikidata
Bu farw 58 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Rhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaeth gwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
Swydd seneddwr Rhufeinig, tribune of the plebs, llywodraethwr Rhufeinig, Praetor, quaestor, conswl yr Ymerodraeth Rufeinig Edit this on Wikidata

Cadfridog a llywodraethwr Rhufeinig oedd Quintus Veranius Nepos (bu farw 57).

Cofnodir iddo wasanaeth fel tribwn y lleng Legio IV Scythica ac fel quaestor dan yr ymerawdwr Tiberius. Yn 43, pan ffurfiodd yr ymerawdwr Claudius dalaith newydd Lycia-Pamphylia, penododd Veranius yn lywodraethwr. Bu yno hyd 48, gan orchfygu gwrthryfel Cylicia Tracheotide. Bu'n gonswl yn 49.

Yn 57 penodwyd ef yn llywodraethwr Prydain, yn olynydd i Aulus Didius Gallus. Dechreuodd ymgyrch yn erbyn y Silwriaid yn ne-ddwyrain Cymru, ond bu farw o fewn y flwyddyn. Olynwyd ef gan Gaius Suetonius Paulinus.

Cyflwynodd yr athronydd Groegaidd Onasander ei lyfr ar dactegau milwrol, Strategikos, i Veranius.