Evan Davies (cenhadwr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →Gyrfa |
|||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Ganwyd Davies yn Hengwm, plwyf [[Lledrod]], Ceredigion yn blentyn i William ap Dafydd ap Siôn ap Lystan<ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2600321/2889021/23#?xywh=-217%2C468%2C2625%2C1706 Trysorfa y Plant Cyf. XXX Rhif. 356 - Awst 1891; ''Fy Nhad David Jones Bethel'' (cefnder Davies)] adalwyd 5 Mehefin 2020</ref> amaethwr. Addysgwyd ef yn [[Ysgol Neuaddlwyd]] ac Academi’r Gorllewin yng [[Caerwysg|Nghaerwysg]]. Yn ystod ei blentyndod symudodd ei rieni i [[Llundain|Lundain]] a magwyd Davies gan aelodau'r teulu yn ardal Lledrod. |
Ganwyd Davies yn Hengwm, plwyf [[Lledrod]], Ceredigion yn blentyn i William ap Dafydd ap Siôn ap Lystan<ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2600321/2889021/23#?xywh=-217%2C468%2C2625%2C1706 Trysorfa y Plant Cyf. XXX Rhif. 356 - Awst 1891; ''Fy Nhad David Jones Bethel'' (cefnder Davies)] adalwyd 5 Mehefin 2020</ref> amaethwr. Addysgwyd ef yn [[Ysgol Neuaddlwyd]] ac Academi’r Gorllewin yng [[Caerwysg|Nghaerwysg]]. Yn ystod ei blentyndod symudodd ei rieni i [[Llundain|Lundain]] a magwyd Davies gan aelodau'r teulu yn ardal Lledrod. |
||
==Gyrfa== |
==Gyrfa== |
||
Swydd gyntaf Davies oedd fel prentis i ddilledydd. Symudodd wedyn i weithio efo'i dad yn Llundain. Fe'i derbyniwyd yn aelod o gapel Annibynwyr Y Boro yn Little Guilford Street. Ym 1827 symudodd yn ôl i Gymru i weithio ger [[Abertawe]] gan ymuno a chapel Annibynwyr [[Mynydd-bach]], lle dechreuodd bregethu. Wedi cyfnod yn Neuaddlwyd a Chaerwysg yn paratoi am y weinidogaeth ordeiniwyd ef yn weinidog ar gapel yr Annibynwyr yn [[Great Torrington]], [[Dyfnaint |
Swydd gyntaf Davies oedd fel prentis i ddilledydd. Symudodd wedyn i weithio efo'i dad yn Llundain. Fe'i derbyniwyd yn aelod o gapel Annibynwyr Y Boro yn Little Guilford Street. Ym 1827 symudodd yn ôl i Gymru i weithio ger [[Abertawe]] gan ymuno a chapel Annibynwyr [[Mynydd-bach]], lle dechreuodd bregethu. Wedi cyfnod yn Neuaddlwyd a Chaerwysg yn paratoi am y weinidogaeth ordeiniwyd ef yn weinidog ar gapel yr Annibynwyr yn [[Great Torrington]], [[Dyfnaint]]. Wedi ychydig flynyddoedd yn Nyfnaint fe'i hordeiniwyd i waith y genhadaeth dramor yng Nghapel Wycliffe, Llundain. Aeth i Penang, yng Nghulfor Malaca. Sefydlodd Davies ysgol breswyl ar gyfer bechgyn Tsieineaidd a'u hyfforddi yn yr iaith [[Saesneg]] yn ogystal â "chyfarwyddyd Ewropeaidd" arall.<ref>[https://archive.org/details/memorialsprotes00wyligoog/page/n102/mode/2up?q= Erthygl ar Evan Davies yn Memorials of Protestant Missionaries to the Chinese: Giving a List of Their Publications gan Alexander Wylie] adalwyd 5 Mehefin 2020</ref> Wedi pedair blynedd yn China torrodd ei iechyd a bu'n rhaid iddo ymadael a'r wlad.<ref>[https://doi.org/10.1093/ref:odnb/7234 Davies, Evan (1805-1864), Congregational minister. Oxford Dictionary of National Biography] adalwyd 5 Mehefin 2020</ref> Wedi cyrraedd yn ôl i Lundain ym 1840 penodwyd Davies yn asiant dros achos y genhadaeth i China, yn codi arian at ei waith. Ym 1842 fe'i penodwyd yn arolygydd Ysgol Genhadol y Bechgyn yn [[Walthamstow]], ac ym 1844 symudodd i [[Richmond upon Thames (Bwrdeistref Llundain)|Richmond]], [[Surrey]],<ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2414565/2471318/24#?xywh=-413%2C1619%2C3148%2C2047 Old Wales a monthly magazine of antiquities for Wales and the Borders - NotesCyf 1 rhif 11] adalwyd 5 Mehefin 2020</ref> lle bu'n gwasanaethu fel gweinidog yr eglwys Gynulleidfaol am dair blynedd ar ddeg. Ym 1857 cafodd alwad i fod yn weinidog yn [[Heywood, Manceinion Fwyaf|Heywood]], [[Manceinion]], cyn symud i Dalston, Llundain ym 1863. |
||
==Cyhoeddiadau== |
==Cyhoeddiadau== |
Fersiwn yn ôl 11:40, 30 Mehefin 2021
Evan Davies | |
---|---|
Ganwyd | 1805 Lledrod |
Bu farw | 18 Mehefin 1864 Crug-y-bar |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cenhadwr, gweinidog yr Efengyl |
Roedd Evan Davies (1805 – 18 Mehefin 1864) yn weinidog gyda'r Annibynwyr, yn genhadwr i China ac yn awdur.[1]
Cefndir
Ganwyd Davies yn Hengwm, plwyf Lledrod, Ceredigion yn blentyn i William ap Dafydd ap Siôn ap Lystan[2] amaethwr. Addysgwyd ef yn Ysgol Neuaddlwyd ac Academi’r Gorllewin yng Nghaerwysg. Yn ystod ei blentyndod symudodd ei rieni i Lundain a magwyd Davies gan aelodau'r teulu yn ardal Lledrod.
Gyrfa
Swydd gyntaf Davies oedd fel prentis i ddilledydd. Symudodd wedyn i weithio efo'i dad yn Llundain. Fe'i derbyniwyd yn aelod o gapel Annibynwyr Y Boro yn Little Guilford Street. Ym 1827 symudodd yn ôl i Gymru i weithio ger Abertawe gan ymuno a chapel Annibynwyr Mynydd-bach, lle dechreuodd bregethu. Wedi cyfnod yn Neuaddlwyd a Chaerwysg yn paratoi am y weinidogaeth ordeiniwyd ef yn weinidog ar gapel yr Annibynwyr yn Great Torrington, Dyfnaint. Wedi ychydig flynyddoedd yn Nyfnaint fe'i hordeiniwyd i waith y genhadaeth dramor yng Nghapel Wycliffe, Llundain. Aeth i Penang, yng Nghulfor Malaca. Sefydlodd Davies ysgol breswyl ar gyfer bechgyn Tsieineaidd a'u hyfforddi yn yr iaith Saesneg yn ogystal â "chyfarwyddyd Ewropeaidd" arall.[3] Wedi pedair blynedd yn China torrodd ei iechyd a bu'n rhaid iddo ymadael a'r wlad.[4] Wedi cyrraedd yn ôl i Lundain ym 1840 penodwyd Davies yn asiant dros achos y genhadaeth i China, yn codi arian at ei waith. Ym 1842 fe'i penodwyd yn arolygydd Ysgol Genhadol y Bechgyn yn Walthamstow, ac ym 1844 symudodd i Richmond, Surrey,[5] lle bu'n gwasanaethu fel gweinidog yr eglwys Gynulleidfaol am dair blynedd ar ddeg. Ym 1857 cafodd alwad i fod yn weinidog yn Heywood, Manceinion, cyn symud i Dalston, Llundain ym 1863.
Cyhoeddiadau
Cyhoeddodd Davies nifer o lyfrau gan gynnwys:
- 1845 China and her Spiritual Claims [6]
- 1846 Memoir of the Rev. Samuel Dyer: Sixteen Years Missionary to the Chinese [7]
- An Appeal to Reason and Good Conscience of Catholics
- Rest: Lectures on the Sabbath
- 1859 Welsh Revivals
Bu hefyd yn olygydd a chyhoeddwr :
- 1846 Letters of the Rev. Samuel Dyer to his Children[8]
- 1850 Lectures on Christian Theology (Payne)
- 1862 The Works of the late Rev. Edward Williams of Rotherham
Teulu
Bu'n briod a merch o'r enw Anne gawsant o leiaf dwy ferch ac un mab.
Marwolaeth
Bu farw tra ar ymweliad a'i deulu yn Llansteffan, Sir Gaerfyrddin. Claddwyd ei weddillion ym Mynwent Abney Park yn Llundain.
Cyfeiriadau
- ↑ DAVIES, EVAN (1805 - 1864), cenhadwr o dan Gymdeithas Genhadol Llundain, gweinidog gyda'r Annibynwyr, ac awdur amryw lyfrau. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 5 Meh 2020
- ↑ Trysorfa y Plant Cyf. XXX Rhif. 356 - Awst 1891; Fy Nhad David Jones Bethel (cefnder Davies) adalwyd 5 Mehefin 2020
- ↑ Erthygl ar Evan Davies yn Memorials of Protestant Missionaries to the Chinese: Giving a List of Their Publications gan Alexander Wylie adalwyd 5 Mehefin 2020
- ↑ Davies, Evan (1805-1864), Congregational minister. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 5 Mehefin 2020
- ↑ Old Wales a monthly magazine of antiquities for Wales and the Borders - NotesCyf 1 rhif 11 adalwyd 5 Mehefin 2020
- ↑ adolygiad o China and her Spiritual Claims yn Evangelical Magazine and Missionary Chronicle, Cyfrol 23 adalwyd 5 Mehefin 2020
- ↑ Copi o'r llyfr ar Internet Archive adalwyd 5 Mehefin 2020
- ↑ Trawsysgrif o'r llyfr ar Wikisource Saesneg