Nanga Parbat: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎top: Ffeirio hen Nodyn am un newydd using AWB
 
Llinell 1: Llinell 1:
{{Gwybodlen lle}}
{{Lle}}


'''Nanga Parbat''' (gelwir hefyd '''Diamir''') yw'r mynydd ail-uchaf ym [[Pacistan|Mhacistan]] a'r nawfed ar y ddaear o ran uchder. Ystyr yr enw Nanga Parbat yw "Mynydd Noeth" yn yr iaith [[Wrdw]]/[[Hindi]]. Ystyrir Nanga Parbat yn fynydd peryglus i'w ddringo, ac yn hanner cyntaf yr [[20g]] bu farw nifer fawr o ddringwyr ar y mynydd. Nanga Parbat yw'r mwyaf gorllewinol o'r copaon dros 8,000 medr yn yr [[Himalaya]].
'''Nanga Parbat''' (gelwir hefyd '''Diamir''') yw'r mynydd ail-uchaf ym [[Pacistan|Mhacistan]] a'r nawfed ar y ddaear o ran uchder. Ystyr yr enw Nanga Parbat yw "Mynydd Noeth" yn yr iaith [[Wrdw]]/[[Hindi]]. Ystyrir Nanga Parbat yn fynydd peryglus i'w ddringo, ac yn hanner cyntaf yr [[20g]] bu farw nifer fawr o ddringwyr ar y mynydd. Nanga Parbat yw'r mwyaf gorllewinol o'r copaon dros 8,000 medr yn yr [[Himalaya]].

Golygiad diweddaraf yn ôl 07:24, 14 Mai 2021

Nanga Parbat
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGilgit–Baltistan Edit this on Wikidata
GwladPacistan Edit this on Wikidata
Uwch y môr8,126 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.2392°N 74.59°E Edit this on Wikidata
Amlygrwydd4,608 metr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddHimalaya, Q12029082 Edit this on Wikidata
Map

Nanga Parbat (gelwir hefyd Diamir) yw'r mynydd ail-uchaf ym Mhacistan a'r nawfed ar y ddaear o ran uchder. Ystyr yr enw Nanga Parbat yw "Mynydd Noeth" yn yr iaith Wrdw/Hindi. Ystyrir Nanga Parbat yn fynydd peryglus i'w ddringo, ac yn hanner cyntaf yr 20g bu farw nifer fawr o ddringwyr ar y mynydd. Nanga Parbat yw'r mwyaf gorllewinol o'r copaon dros 8,000 medr yn yr Himalaya.

Gwnaed yr ymdrech gyntaf i ddringo'r mynydd yn 1895 pan gyrhaeddodd ymgyrch dan arweiniaid Albert F. Mummery uchder o bron 7,000 m, ond bu farw Mummery a dau gydymaith ar y mynydd yn ddiweddarch. Yn y 1930au bu chwech ymgais i ddringo'r mynydd gan dîmau Almaenig, ond methu a wnaeth y cafan a bu farw dwsinau o ddringwyr. Cyrhaeddwyd y copa am y tro cyntaf ar 3 Gorffennaf, 1953 gan fynyddwr o Awstria, Hermann Buhl. Mae'r modd y dringodd Buhl ar ei ben ei hun i'r copa, ac yna treulio noson ar ei sefyll ar y mynydd ar y ffordd i lawr, yn un o straeon mawr mynydda.

Dringwyd y mynydd am yr ail dro yn 1962 gan dri Almaenwr, Toni Kinshofer, S. Löw, ac A. Mannhardt. Yn 1970 cyrhaeddodd Reinhold a Günther Messner y copa; ond bu farw Günther ar y ffordd i lawr. Dringodd Reinhold y mynydd ar ei ben ei hun yn 1978. Yn 1984, Lilliane Barrard o Ffrainc oedd y ferch gyntaf i gyrraedd y copa.

Y 14 copa dros 8,000 medr
Annapurna · Broad Peak · Cho Oyu · Dhaulagiri · Everest · Gasherbrum I · Gasherbrum II
K2 · Kangchenjunga · Lhotse · Makalu · Manaslu · Nanga Parbat · Shishapangma