Hermann Buhl

Oddi ar Wicipedia
Hermann Buhl
Ganwyd21 Medi 1924 Edit this on Wikidata
Innsbruck Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mehefin 1957 Edit this on Wikidata
Chogolisa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstria Edit this on Wikidata
Galwedigaethdringwr mynyddoedd, arweinydd mynydd Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Dringwr o Awstria oedd Herman Buhl (21 Medi 192427 Mehefin 1957).

Ganed ef yn Innsbruck, a daeth yn adnabyddus am ei gampau yn yr Alpau, yn cynnwys dringo wyneb gogleddol y Piz Badile ar ei ben ei hun, y tro cyntaf i hyn gael ei wneud. Yn 1953 daeth yn enwog trwy fod y cyntaf i ddringo Nanga Parbat (8,125 m). Dringodd i'r copa ar ei ben ei hun, y tro cyntaf i hyn ddigwydd ar gopa dros 8,000 medr. Ar y ffordd i lawr, bu raid iddo dreulio noson ar ei sefyll, uwchben 8,000 medr. Mae Buhl yn adrodd yr hanes yn ei lyfr Achttausend drüben und drunter (Nymphenburger, München).

Yn ddiweddarach, ef a Marcus Schmuck, Fritz Wintersteller a Kurt Diemberger oedd y cyntaf i gyrraedd copa Broad Peak yn 1957. Ef a Diemberger yw'r unig ddau berson i fod y cyntaf ar gopa dau fynydd dros 8,000 medr. Ychydig yn ddiweddarach, lladdwyd Buhl wrth ddringo Chogolisa.