George Tyler: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Person |
|||
{{Gwybodlen person/Wicidata |
|||
| fetchwikidata=ALL |
| fetchwikidata=ALL |
||
| onlysourced=no |
| onlysourced=no |
Golygiad diweddaraf yn ôl 10:21, 19 Mawrth 2021
George Tyler | |
---|---|
Ganwyd | 28 Rhagfyr 1792 |
Bu farw | 4 Mehefin 1862 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, swyddog yn y llynges |
Swydd | Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | Charles Tyler |
Mam | Margaret Leach |
Priod | Harriet Sullivan |
Plant | Louisa Tyler, Augustus Tyler, Harriet Tyler, Anne Maria Tyler, George Henry Tyler, Charles Frederick Tyler, Gwinnett Tyler, Edward Octavious Tyler, Alfred Tyler, John Hobart Tyler, St. Vincent Tyler, Caroline Tyler |
Roedd Syr George Tyler KH, (28 Rhagfyr 1792 - 4 Mehefin 1862) yn swyddog yn Llynges Frenhinol Prydain, yn llywodraethwr trefedigaethol ac yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros etholaeth Sir Forgannwg.[1]
Bywyd Personol[golygu | golygu cod]
Ganwyd Tyler ym Mhenfro yn fab hynaf y Llyngesydd Charles Tyler.
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg y Llynges Frenhinol Portsmouth.
Priododd, ar 21 Medi 1819, Harriet Margaret, merch y Gwir Anrh. John Sullivan, a'r Ledi Harriet, merch George, trydydd iarll Swydd Buckingham; bu iddynt saith mab a phedair merch. Roedd eu merch, Caroline, yn fam i Windham Henry Wyndham-Quin, AS De Morgannwg 1895 - 1906.[2]
Gyrfa[golygu | golygu cod]
Wedi cyfnod o dair blynedd o hyfforddiant yng Ngholeg y llynges daeth Tyler yn aelod llawn o'r llynges ym 1809. Ym 1811 bu'n ymladd yn erbyn y llynges Ffrengig ym Mae Kiberen oddi ar arfordir Llydaw pan gollodd ei fraich dde, derbyniodd pensiwn gan y llywodraeth o £200 y flwyddyn am yr anaf, ond parhaodd ei yrfa yn y llynges[3]. Gwasanaethodd fel Rhaglaw'r Lluman ar long ei dad oddi ar arfordir Penrhyn Gobaith Da, De'r Affrig cyn cael ei godi'n Comander ym 1815 ac yn Gapten ym 1822. Rhwng 1833 a 1840 gwasanaethodd fel rhaglaw lywodraethwr Ynys St Vincent. Daeth yn llyngesydd wrth gefn ym 1852, ac yn is-lyngesydd ym 1857.
Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]
Pan ddyrchafwyd Edwin Wyndham-Quin i Dŷ'r Arglwyddi ym 1851 etholwyd Tyler yn ddiwrthwynebiad i'w olynu fel yr Aelod Seneddol Ceidwadol. Cadwodd ei sedd yn ddiwrthwynebiad yn etholiad 1852 ac ymneilltuodd o'r Senedd ar adeg etholiad 1857.[4]
Anrhydeddau[golygu | golygu cod]
Penodwyd Tylor yn Farchog yn yr Urdd Guelphic ym 1833 a'i urddo'n Farchog ym 1838 fel cydnabyddiaeth am ei wasanaeth wrth drefnu rhyddfreinio caethion St Vincents.
Marwolaeth[golygu | golygu cod]
Bu farw yng Nghastell Dwnrhefn, cartref y teulu Wyndham-Quin yn 69 mlwydd oed.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ J. K. Laughton, ‘Tyler, Sir Charles (1760–1835)’, Rev. Andrew Lambert, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, Jan 2008 adalwyd 22 Ion 2017]
- ↑ "MAJORWYNDHAMQUINMPBEREAVED - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1898-10-22. Cyrchwyd 2017-01-23.
- ↑ "8LOCALlWTJfiLLItrxfiJNUllj - The Pembrokeshire Herald and General Advertiser". Joseph Potter. 1862-06-13. Cyrchwyd 2017-01-23.
- ↑ Williams, William Retlaw The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Edwin Wyndham-Quin |
Aelod Seneddol Sir Forgannwg 1851 – 1857 |
Olynydd: Henry Hussey Vivian |