Parêd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →Cyfeiriadau: clean up |
UDA Tagiau: Golygiad cod 2017 |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:St Davids Day in Cardiff.jpg|bawd|Parêd i ddathlu [[Dydd Gŵyl Dewi]] yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]], 2007.]] |
[[Delwedd:St Davids Day in Cardiff.jpg|bawd|Parêd i ddathlu [[Dydd Gŵyl Dewi]] yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]], 2007.]] |
||
Sioe gyhoeddus yw '''parêd''' a'i brif nodwedd yw [[gorymdaith]] drefnus neu seremonïol.<ref name=GPC>{{dyf GPC |gair=parêd |dyddiadcyrchiad=31 Awst 2014 }}</ref><ref>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/442477/parade |teitl=parade |dyddiadcyrchiad=31 Awst 2014 }}</ref> Ceir rhywfaint o rodres i barêd o ran gwisg, canu a cherddoriaeth, baneri, [[balŵn|balwnau]], anifeiliaid, a cherbydau. Yn aml digwyddiad blynyddol yw'r parêd sy'n dathlu gŵyl, er enghraifft dyddiau'r seintiau, gwyliau crefyddol, dyddiadau annibyniaeth, neu ddathliadau "balchder" (er enghraifft [[balchder hoyw]]). Ceir "Parêd y Cenhedloedd" mewn seremonïau agoriadol nifer o gystadlaethau chwaraeon rhyngwladol, gan gynnwys [[Gemau Olympaidd Modern|y Gemau Olympaidd]] a [[Gemau'r Gymanwlad]]. |

Mae paredau yn hynod o boblogaidd yn [[Unol Daleithiau America]] fel modd i fynegi cyd-hunaniaeth mewn ardaloedd trefol, ac fel cyfle i hyrwyddo ymgyrchoedd gwleidyddol neu hysbysebu busnesau yn yr awyr agored ac ar y teledu. Un o'r diwrnodau parêd mwyaf poblogaidd yw Diwrnod Annibyniaeth yr Unol Daleithiau, ar 4 Gorffennaf, a nodir gan seindorfeydd, baneri, gorymdeithiau o filwyr a chyn-filwyr, a thân gwyllt mewn dinasoedd a threfi ar draws y wlad. Pob Mehefin, cynhelir Parêd Diwrnod [[Puerto Rico]] ar hyd Fifth Avenue, [[Manhattan]], gan ddenu miliynau o wylwyr. Ymhlith y gwyliau eraill a nodir gan baredau ar gyfer hunaniaethau ethnig a diwylliannol mae Gŵyl [[Sant Padrig]], nawddsant y Gwyddelod, a Cinco de Mayo ar gyfer Americanwyr o dras Fecsicanaidd. Mae rhai paredau yn sioeau ysblennydd a ariennir gan gwmnïau i hybu cystadlaethau chwaraeon neu i ddenu hysbysebwyr a chwsmeriaid. Noddir parêd mwyaf y byd gan y [[siop adrannol]] Macy's yn [[Dinas Efrog Newydd|Efrog Newydd]] ar Ddiwrnod y Diolchgarwch, sydd yn nodedig am ei falwnau enfawr o gymeriadau cartŵn. Arddangosir paredau yn ddyddiol mewn parciau thema [[Disney]].<ref>Gary McDonogh, "Parades" yn ''Encyclopedia of Contemporary American Culture'', golygwyd gan Gary W. McDonogh, Robert Gregg, a Cindy H. Wong (Llundain: Routledge, 2001), t. 846.</ref> |
|||
Gall y gair parêd hefyd gyfeirio at gynulliad o filwyr i'w harolygu.<ref name=GPC/> |
Gall y gair parêd hefyd gyfeirio at gynulliad o filwyr i'w harolygu.<ref name=GPC/> |
Golygiad diweddaraf yn ôl 03:26, 10 Mawrth 2021
Sioe gyhoeddus yw parêd a'i brif nodwedd yw gorymdaith drefnus neu seremonïol.[1][2] Ceir rhywfaint o rodres i barêd o ran gwisg, canu a cherddoriaeth, baneri, balwnau, anifeiliaid, a cherbydau. Yn aml digwyddiad blynyddol yw'r parêd sy'n dathlu gŵyl, er enghraifft dyddiau'r seintiau, gwyliau crefyddol, dyddiadau annibyniaeth, neu ddathliadau "balchder" (er enghraifft balchder hoyw). Ceir "Parêd y Cenhedloedd" mewn seremonïau agoriadol nifer o gystadlaethau chwaraeon rhyngwladol, gan gynnwys y Gemau Olympaidd a Gemau'r Gymanwlad.
Mae paredau yn hynod o boblogaidd yn Unol Daleithiau America fel modd i fynegi cyd-hunaniaeth mewn ardaloedd trefol, ac fel cyfle i hyrwyddo ymgyrchoedd gwleidyddol neu hysbysebu busnesau yn yr awyr agored ac ar y teledu. Un o'r diwrnodau parêd mwyaf poblogaidd yw Diwrnod Annibyniaeth yr Unol Daleithiau, ar 4 Gorffennaf, a nodir gan seindorfeydd, baneri, gorymdeithiau o filwyr a chyn-filwyr, a thân gwyllt mewn dinasoedd a threfi ar draws y wlad. Pob Mehefin, cynhelir Parêd Diwrnod Puerto Rico ar hyd Fifth Avenue, Manhattan, gan ddenu miliynau o wylwyr. Ymhlith y gwyliau eraill a nodir gan baredau ar gyfer hunaniaethau ethnig a diwylliannol mae Gŵyl Sant Padrig, nawddsant y Gwyddelod, a Cinco de Mayo ar gyfer Americanwyr o dras Fecsicanaidd. Mae rhai paredau yn sioeau ysblennydd a ariennir gan gwmnïau i hybu cystadlaethau chwaraeon neu i ddenu hysbysebwyr a chwsmeriaid. Noddir parêd mwyaf y byd gan y siop adrannol Macy's yn Efrog Newydd ar Ddiwrnod y Diolchgarwch, sydd yn nodedig am ei falwnau enfawr o gymeriadau cartŵn. Arddangosir paredau yn ddyddiol mewn parciau thema Disney.[3]
Gall y gair parêd hefyd gyfeirio at gynulliad o filwyr i'w harolygu.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 parêd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 31 Awst 2014.
- ↑ (Saesneg) parade. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Awst 2014.
- ↑ Gary McDonogh, "Parades" yn Encyclopedia of Contemporary American Culture, golygwyd gan Gary W. McDonogh, Robert Gregg, a Cindy H. Wong (Llundain: Routledge, 2001), t. 846.