Tudur Owen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 30: Llinell 30:
* ''[[Beryl, Cheryl a Meryl]]'' (drama gomedi) [2009]
* ''[[Beryl, Cheryl a Meryl]]'' (drama gomedi) [2009]
* ''Tudur Owen a'r Cwmni'' (rhaglen ddogfen) [2016-]
* ''Tudur Owen a'r Cwmni'' (rhaglen ddogfen) [2016-]
* ''[[Tourist Trap]]'' (BBC Wales)<ref>{{Cite web|url=https://www.bbc.co.uk/mediacentre/latestnews/2018/festival-of-funny|title=BBC - A month of comedy comes to BBC Wales - Media Centre|website=www.bbc.co.uk|access-date=9 Mawrth 2020}}</ref>
* ''Tudur's TV Flashback'' (BBC Wales) (2019- )<ref>{{cite web|url=https://www.comedy.co.uk/tv/tudur_tv_flashback/episodes/1/|title=Tudur's TV Flashback|website=British Comedy Guide|access-date=11 August 2020}}</ref>


==Llyfryddiaeth==
==Llyfryddiaeth==

Fersiwn yn ôl 15:30, 11 Awst 2020

Actor, digrifwr, cyflwynydd teledu a radio, ymgyrchydd[1] ac awdur Cymreig ydy Tudur Owen (ganed Mai 1967)[2].

Bywyd cynnar

Cafodd Tudur ei eni ar Ynys Mon. Dechreuodd berfformio comedi ar ei sefyll trwy gyfrwng y Gymraeg yn 1989[3].

Gyrfa

Mae Tudur wedi ymddangos ar nifer o raglenni comedi ac adloniant S4C yn cynnwys Gwefreiddiol, Gwerthu Allan, Mawr a Noson Lawen.[4]. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer rhaglenni fel Y Rhaglen Wirion ‘Na, Craig Ac Eifion, Teledu Eddie a Wil a Cêt.[5]

Yn 2009 fe gafodd gyfres sioe sgwrsio Tudur o'r Doc a oedd yn cael ei ffilmio yn Galeri, Caernarfon. Fe ddaeth y sioe nôl gyda ychydig o newidiadau a theitl newydd Sioe Tudur Owen yn 2011.[6][7]

Yn 2016 cyflwynodd rhaglen ddogfen Tudur Owen a'i Gwmni Pysgod oedd yn dilyn Tudur wrth geisio ail-gyflwyno modd o brynu pysgod ffres o'r Fenai yn siopau lleol Porthaethwy. Dilynwyd hyn gan gyfres llawn yn 2017 yn edrych ar sut i greu busnesau yn cynhyrchu a gwerthu yn y gymuned leol.[8]

Mae ganddo sioe ar brynhawn ddydd Gwener ar Radio Cymru.

Mae'n berchen ar fusnes Tŷ Golchi sy'n cynnwys caffi, siop a chlwb comedi. Fe brynodd yr adeilad sydd wedi ei leoli rhwng Bangor a Chaernarfon a fe agorwyd y busnes ym mis Ionawr 2012.[9]

Bywyd personol

Ym mis Hydref 2014, cafodd Tudur ddeiagnosis o gancr y prostad a chyhoeddodd hyn ar ei sioe ar Radio Cymru. Derbyniodd lawdrinaeth yn Clatterbridge i waredu'r cancr, nad oedd wedi lledu. Ers hynny, mae Tudur yn ymgyrchu ac annog dynion i fod yn fwy ymwybodol o'r cyflwr.[10] Mae'n byw yn Y Felinheli gyda'i wraig Sharon a mae ganddynt dau blentyn. [11]

Teledu

Llyfryddiaeth

Gwobrau

  • Enillydd BAFTA Cymru 2009 – Sioe Adloniant Orau – Sioe PC Leslie Wynne (Ysgrifennwr/ Perfformiwr)
  • Enwebiad BAFTA Cymru 2010 – Sioe Adloniant Orau – Tudur Owen O’r Doc (Cynhyrchydd/Perfformiwr)
  • Enwebiad BAFTA Cymru 2010 – Cyflwynydd Gorau
  • Gwyl Cyfryngau Celtaidd 2009 – Rhaglen Adloniant Ysgafn Orau – Tudur Owen O’r Doc (Cynhyrchydd/Perfformiwr)
  • Enwebiad Royal Television Society 2011 - am “Wil & Cêt”

Dolenni Allanol

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) Eryl Crump (05.03.2015). Comedian Tudur Owen is 'sinning' across Wales. Daily Post. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2015.
  2. Cofnod cyfarwyddwr Ty'r Cwmniau; Adalwyd 5 Rhagfyr 2016
  3. (Saesneg) Comedy CV - Tudur Owen. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2015.
  4. Gwerthu Allan
  5. CV Regan Management
  6. Tudur Owen o'r Doc
  7. Anglesey's Tudur Owen prepares for new TV series
  8. Tudur Owen yn dod â marchnad bysgod 'nôl i Borthaethwy , 30 Ebrill 2016. Cyrchwyd ar 26 Ebrill 2017.
  9. Tudur Owen and Ty Golchi - now open
  10. (Saesneg) Hywel Trewyn (12 Mawrth 2015). Gwynedd comedian Tudur Owen urges men to get checked after having prostate removed. Daily Post. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2015.
  11. My favourite room: Comedian Tudur Owen , WalesOnline, 31 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd ar 26 Ebrill 2017.
  12. "BBC - A month of comedy comes to BBC Wales - Media Centre". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 9 Mawrth 2020.
  13. "Tudur's TV Flashback". British Comedy Guide. Cyrchwyd 11 August 2020.