Pensaernïaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B cat Tagiau: Golygiad cod 2017 |
Architecture |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:חדר האוכל - אתרי מורשת במרכז הארץ 2015 - גבעת ברנר (12).JPG|bawd|Pensaernïaeth]] |
[[Delwedd:חדר האוכל - אתרי מורשת במרכז הארץ 2015 - גבעת ברנר (12).JPG|bawd|Pensaernïaeth]] |
||
Y grefft a'r wyddor o gynllunio [[adeilad]]au yw '''pensaernïaeth'''. Diffiniad ehangach fyddai cynnwys holl amgylchedd adeiladu. Mae hynny yn cynnwys [[tirlunio]], sef cynllunio tirlun, [[cynllunio gwlad a thref]], sef cynllunio strwythur sylfaenol ardaloedd a [[peirianneg sifil|pheirianneg sifil]], sef cynllunio adeiladwaith megis [[ffyrdd]], [[pont]]ydd, [[twnel]]i a [[camlas|chamlesi]]. |

Fersiwn yn ôl 17:08, 27 Ebrill 2020
Y grefft a'r wyddor o gynllunio adeiladau yw pensaernïaeth. Diffiniad ehangach fyddai cynnwys holl amgylchedd adeiladu. Mae hynny yn cynnwys tirlunio, sef cynllunio tirlun, cynllunio gwlad a thref, sef cynllunio strwythur sylfaenol ardaloedd a pheirianneg sifil, sef cynllunio adeiladwaith megis ffyrdd, pontydd, twneli a chamlesi.
Mae pensaernïaeth yn cynnwys cynllunio adeiladau cyhoeddus ac adeiladau preifat yn ogystal â chyfuniadau o adeiladau, er enghraifft stadau tai. Mae pensaernïaeth yn wyddionaeth bwysig ar gyfer cadwraeth adeiladau hefyd.
Ym 2001 sefydlwyd Ysgogoloriaeth Pensaernïaeth yr Eisteddfod Gelf a Chreft. Amcan yr ysgoloriaeth yw hyrwyddo pensaernïaeth greadigol a dylunio yng Nghymru.
Mae penseiri enwog Cymru yn cynnwys John Nash (1758-1835), pensaer yr eglwys gadeiriol Tyddewi a Syr Clough Williams-Ellis (1883-1978), pensaer y pentref Eidalaidd Portmeirion.
Ymhlith yr ysgolion mwyaf dylanwadol y mae: Bauhaus (Weimar, Dessau a Berlin yn yr Almaen), yr Architectural Association School of London (Lloegr) a'r École des Beaux-Arts (Paris, Ffrainc; hyd at 1968, ers hynny École d'Architecture).
Gweler hefyd
- Hanes pensaernïaeth
- Pensaer
- Pensaernïaeth Gothig
- Pensaernïaeth Romanesg
- Pensaernïaeth Fodern
- Pensaernïaeth tirwedd
- Gardd-Ddinas
Cysylltiadau allanol
- Pensaernïaeth Cymru – fersiwn ar-lein o arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru