Llewelyn Kenrick: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) dim angen datgan blwyddyn geni ddwywaith. |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}} |
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}} |
||
Cyfreithiwr a phêl-droediwr oedd '''Samuel Llewelyn Kenrick''' ([[1847]] – [[29 Mai]] [[1933]]). |
Cyfreithiwr a phêl-droediwr oedd '''Samuel Llewelyn Kenrick''' ([[1847]] – [[29 Mai]] [[1933]]). Roedd yn un o sefydlwyr [[Cymdeithas Bêl-droed Cymru]] ac hefyd yn gyfrifol am drefnu gêm bêl-droed rhyngwladol cyntaf [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru|Cymru]] a hynny yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Yr Alban|Yr Alban]] yn 1876. |
||
==Bywyd== |
|||
Capteiniodd dîm pêl-droed cenedlaethol cyntaf [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru|Cymru]] yn 1876 yn [[Glasgow]] gan golli 4 - 0 yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Alban|yr Alban]]. |
|||
Ganed Llewelyn Kenrick i deulu o ddiwydianwyr Wynn Hall, Rhiwabon a'i dad, John Kenrick, sefydlodd Pwll Glo Wynn Hall ym [[Penycae|Mhenycae]]<ref>{{cite web|url=https://britishlistedbuildings.co.uk/300001620-wynn-hall-penycae#.Xoc3rxP0nOR | title=Wynn Hall: A Grade II* Listed Building in Penycae, Wrexham |publisher=British Listed Buildings}}</ref>. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg [[Rhiwabon]], [[Sir Ddinbych]]. Daeth yn gyfreithiwr yn Rhiwabon, yn glerc i ynadon heddwch Rhiwabon (1896-1933), a bu'n grwner adran ddwyreiniol Sir Ddinbych o 1906 hyd ei farwolaeth. Ym 1909 daeth yn briod â Lillian Maud, merch y Parchedig A. L. Taylor, prifathro Ysgol Ramadeg Rhiwabon<ref>{{cite news |title=Family Notices |first= |last= |newspaper=Llangollen Advertiser |date=26 Tachwedd 1909 |url=https://newspapers.library.wales/view/4246676/4246684/37/}}</ref>. Bu farw ar 29 Mai 1933, a cafodd ei gladdu yn Rhiwabon. |
|||
Chwaraeodd ei frawd yng nghyfraith, [[Charles Taylor (chwaraewr rygbi)|Charles Taylor]], [[Rygbi'r undeb|rygbi]] dros Gymru gan ennill naw cap rhwng 1884 a 1887. Cafodd Taylor ei ladd ar faes y gad yn ystod y [[Rhyfel Byd Cyntaf]]<ref>{{cite web |url=https://worldrugbymuseum.blog/2015/01/24/lest-we-forget-charles-gerald-taylor-wales-24011915/ |title=Lest We Forget – Charles Gerald Taylor (Wales) 24/01/1915 |publisher=World Rugby Museum}}</ref><ref>{{Cite book|title = Call Them to Remembrance: The Welsh Rugby Internationals who died in the Great War|last = Prescott|first = Gwyn|publisher = St. David.s Press|year = 2014|isbn = 978-1-902719-37-5|location = |pages = }}</ref> |
|||
==Dolen allanol== |
|||
*[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-KENR-ICK-1741.html Y Teulu Kenrick, Y Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein] |
|||
==Chwaraewr Pêl-droed== |
|||
⚫ | |||
===Shropshire Wanderers=== |
|||
⚫ | |||
Roedd Kenrick yn aelod o dîm Shropshire Wanderers chwaraeodd yn erbyn Plasmadoc ym 1872 ac o ganlyniad cafodd ei ddylanwadu i geisio sefydlu tîm pêl-droed o safon yn ei dref enedigol, ac am gyfnod roedd yn chwarae i dîm y Derwyddon ac i Shropshire Wanderers<ref name="new craze">{{cite news |title=‘The New Craze’: Football and Society in North-East Wales, c.1870-90 |first1=Martin |last1=Johnes |first2=Ian |last2=Garland |newspaper=Welsh History Review |date=Rhagfyr 2004 |url=https://www.academia.edu/199114/_The_New_Craze_Football_and_Society_in_North-East_Wales_c.1870-90}}</ref>. |
|||
Roedd yn aelod o dîm Shropshire Wanderers gyrhaeddodd rownd gynderfynol [[Cwpan Lloegr|Cwpan FA Lloegr]] ym 1875 cyn colli yn erbyn yr Old Etonians<ref name="whoswho">{{cite book |title=Who's Who of Welsh International Soccer Players |last1=Davies |first1=Gareth |last2=Garland |first2=Ian |year=1991 |publisher=Bridge Books |isbn=1-872424-11-2|pages=119–120 }}</ref> |
|||
===Y Derwyddon=== |
|||
⚫ | |||
Ym 1872 roedd yn allweddol wrth uno tri o glybiau pentref [[Rhiwabon]] sef Plasmadoc, Ruabon Rovers a Ruabon Volunteers er mwyn creu [[C.P.D. Derwyddon Cefn|Y Derwyddon]]<ref>{{cite web|url=https://www.cefndruidsafc.com/our-history |title=Cefn Druids: Our History |publisher=cefndruidsafc.com}}</ref>. Pedair mlynedd yn ddiweddarch, roedd Kenrick yn allweddol wrth sefydlu [[Cymdeithas Bêl-droed Cymru]] er mwyn trefnu gêm rhyngwladol yn erbyn Yr Alban a cafwyd chwe chwaraewr o glwb Y Derwyddon, gan gynnwys Kenrick ei hun, yn chwarae yn y gêm hanesyddol cyntaf dros [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru|Gymru]]<ref>{{cite web |url=http://welshsoccerarchive.co.uk/international_details.php?id=1 |title=Welsh Football Data Archive: 1876 Scotland v Wales |publisher=Welsh Football Data Archive}}</ref>. |
|||
===Cymru=== |
|||
Roedd yn gapten ar dîm [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru|Cymru]] yn eu gêm rhyngwladol gyntaf erioed yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Alban|yr Alban]] yn 1876 ac aeth ymlaen i ennill pum cap, yr olaf yn dod ym muddugoliaeth gyntaf y Cymry a hynny yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr|Lloegr]] yn [[Blackburn]] yn 1881<ref name="whoswho" /><ref>{{cite web|url=http://welshfootball.online/results/res1876.html |title=Results 1876 - 1889 |publisher=Welsh Football Online}}</ref>. |
|||
==Gweinyddwr Pêl-droed== |
|||
{{eginyn Cymry}} |
|||
===Cymdeithas Bêl-droed Cymru=== |
|||
Ym mis Ionawr 1876 gwelodd Kenrick hysbyseb yng nghylchgrawn ''The Field'', yn galw am dîm Cymreig i chwarae gêm bêl-droed yn erbyn Yr Alban neu Iwerddon o dan reolau rygbi, ond roedd Kenrick yn benderfynol o greu tîm yn chwarae rheolau pêl-droed a hysbysebodd am chwaraewyr fyddai â diddordeb chwarae i gysylltu ag ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-droed Cambria<ref name="new craze" /><ref name= "Challenge">{{Cite web|url=https://www.wrexham.gov.uk/welsh/heritage/welsh_football_w/index.htm#q1876|title=1876 Sialens Kenrick|work=Cartref Ysbrydol Pêl-droed Cymru|publisher=Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam}}</ref>. |
|||
Galwodd Kenrick gyfarfod ar 26 Ionawr 1876 er mwyn sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cambria a threfnu gemau prawf ar gyfer dewis tîm i herio'r Alban ond erbyn yr ail gyfarfod ar 2 Chwefror 1876 yng ngwesty'r Wynnstay Arms, [[Wrecsam]] roedd wedi newid yr enw i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a'r cyfarfod yma sydd yn cael ei ystyried gan y Gymdeithas fel y cyfarfod lle'i ffurfiwyd<ref>{{cite book |last=Stead |first=Phil |title=Red Dragons: The story of Welsh Football |publisher=Y Lolfa |year=2012 |isbn=9781847716187 |pages=12 }}</ref>. |
|||
Cafwyd cyfarfod pellach yn y Wynnstay Arms, [[Rhiwabon]] ym mis Mai 1876 er mwyn ffurioli'r Gymdeithas a sefydlu'r pwyllgor cyntaf gyda Kenrick yn cael ei ethol yn ysgrifennydd a'r Aelod Seneddol lleol, [[Syr Watkin Williams-Wynn, 6ed Barwnig|Syr Williams Watkins Wynn]] yn cael ei benodi'n Lywydd<ref name="new craze" />. |
|||
===Cwpan Cymru=== |
|||
Yn dilyn ei lwyddiant gyda Shropshire Wanderers yn cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan FA Lloegr ym 1875<ref name="whoswho" />, cynnigiodd Kenrick fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn sefydlu cystadleuaeth tebyg ar gyfer clybiau Cymru<ref name="new craze" />. Cafwyd 19 o glybiau yn y gystadleuaeth gyntaf ym 1877-78 gyda [[C.P.D. Wrecsam|Wrecsam]] yn trechu Kenrick a'r Derwyddon 1-0 yn y rownd derfynol ar 30 Mawrth 1878<ref>{{cite book |title=History of the Welsh Cup, 1877-1993 |last=Garland |first=Ian |year=1993 |publisher=Abe Books |isbn=9781872424378}}</ref><ref>{{cite web|url=https://www.welshsoccerarchive.co.uk/welshcup_final_detail.php?id=1 |title=WELSH CUP FINAL 1877/78 |publisher=Welsh Football Data Archive}}</ref>. |
|||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
{{DEFAULTSORT:Kenrick, Llewelyn}} |
{{DEFAULTSORT:Kenrick, Llewelyn}} |
Fersiwn yn ôl 17:30, 3 Ebrill 2020
Llewelyn Kenrick | |
---|---|
Ganwyd | 1847 Rhiwabon |
Bu farw | 29 Mai 1933 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithiwr, pêl-droediwr |
Cysylltir gyda | Cymdeithas Bêl-droed Cymru |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Oswestry Town F.C., Druids F.C. |
Safle | Cefnwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cyfreithiwr a phêl-droediwr oedd Samuel Llewelyn Kenrick (1847 – 29 Mai 1933). Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac hefyd yn gyfrifol am drefnu gêm bêl-droed rhyngwladol cyntaf Cymru a hynny yn erbyn Yr Alban yn 1876.
Bywyd
Ganed Llewelyn Kenrick i deulu o ddiwydianwyr Wynn Hall, Rhiwabon a'i dad, John Kenrick, sefydlodd Pwll Glo Wynn Hall ym Mhenycae[1]. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon, Sir Ddinbych. Daeth yn gyfreithiwr yn Rhiwabon, yn glerc i ynadon heddwch Rhiwabon (1896-1933), a bu'n grwner adran ddwyreiniol Sir Ddinbych o 1906 hyd ei farwolaeth. Ym 1909 daeth yn briod â Lillian Maud, merch y Parchedig A. L. Taylor, prifathro Ysgol Ramadeg Rhiwabon[2]. Bu farw ar 29 Mai 1933, a cafodd ei gladdu yn Rhiwabon.
Chwaraeodd ei frawd yng nghyfraith, Charles Taylor, rygbi dros Gymru gan ennill naw cap rhwng 1884 a 1887. Cafodd Taylor ei ladd ar faes y gad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf[3][4]
Chwaraewr Pêl-droed
Shropshire Wanderers
Roedd Kenrick yn aelod o dîm Shropshire Wanderers chwaraeodd yn erbyn Plasmadoc ym 1872 ac o ganlyniad cafodd ei ddylanwadu i geisio sefydlu tîm pêl-droed o safon yn ei dref enedigol, ac am gyfnod roedd yn chwarae i dîm y Derwyddon ac i Shropshire Wanderers[5]. Roedd yn aelod o dîm Shropshire Wanderers gyrhaeddodd rownd gynderfynol Cwpan FA Lloegr ym 1875 cyn colli yn erbyn yr Old Etonians[6]
Y Derwyddon
Ym 1872 roedd yn allweddol wrth uno tri o glybiau pentref Rhiwabon sef Plasmadoc, Ruabon Rovers a Ruabon Volunteers er mwyn creu Y Derwyddon[7]. Pedair mlynedd yn ddiweddarch, roedd Kenrick yn allweddol wrth sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn trefnu gêm rhyngwladol yn erbyn Yr Alban a cafwyd chwe chwaraewr o glwb Y Derwyddon, gan gynnwys Kenrick ei hun, yn chwarae yn y gêm hanesyddol cyntaf dros Gymru[8].
Cymru
Roedd yn gapten ar dîm Cymru yn eu gêm rhyngwladol gyntaf erioed yn erbyn yr Alban yn 1876 ac aeth ymlaen i ennill pum cap, yr olaf yn dod ym muddugoliaeth gyntaf y Cymry a hynny yn erbyn Lloegr yn Blackburn yn 1881[6][9].
Gweinyddwr Pêl-droed
Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Ym mis Ionawr 1876 gwelodd Kenrick hysbyseb yng nghylchgrawn The Field, yn galw am dîm Cymreig i chwarae gêm bêl-droed yn erbyn Yr Alban neu Iwerddon o dan reolau rygbi, ond roedd Kenrick yn benderfynol o greu tîm yn chwarae rheolau pêl-droed a hysbysebodd am chwaraewyr fyddai â diddordeb chwarae i gysylltu ag ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-droed Cambria[5][10].
Galwodd Kenrick gyfarfod ar 26 Ionawr 1876 er mwyn sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cambria a threfnu gemau prawf ar gyfer dewis tîm i herio'r Alban ond erbyn yr ail gyfarfod ar 2 Chwefror 1876 yng ngwesty'r Wynnstay Arms, Wrecsam roedd wedi newid yr enw i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a'r cyfarfod yma sydd yn cael ei ystyried gan y Gymdeithas fel y cyfarfod lle'i ffurfiwyd[11].
Cafwyd cyfarfod pellach yn y Wynnstay Arms, Rhiwabon ym mis Mai 1876 er mwyn ffurioli'r Gymdeithas a sefydlu'r pwyllgor cyntaf gyda Kenrick yn cael ei ethol yn ysgrifennydd a'r Aelod Seneddol lleol, Syr Williams Watkins Wynn yn cael ei benodi'n Lywydd[5].
Cwpan Cymru
Yn dilyn ei lwyddiant gyda Shropshire Wanderers yn cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan FA Lloegr ym 1875[6], cynnigiodd Kenrick fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn sefydlu cystadleuaeth tebyg ar gyfer clybiau Cymru[5]. Cafwyd 19 o glybiau yn y gystadleuaeth gyntaf ym 1877-78 gyda Wrecsam yn trechu Kenrick a'r Derwyddon 1-0 yn y rownd derfynol ar 30 Mawrth 1878[12][13].
Cyfeiriadau
- ↑ "Wynn Hall: A Grade II* Listed Building in Penycae, Wrexham". British Listed Buildings.
- ↑ "Family Notices". Llangollen Advertiser. 26 Tachwedd 1909.
- ↑ "Lest We Forget – Charles Gerald Taylor (Wales) 24/01/1915". World Rugby Museum.
- ↑ Prescott, Gwyn (2014). Call Them to Remembrance: The Welsh Rugby Internationals who died in the Great War. St. David.s Press. ISBN 978-1-902719-37-5.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 Johnes, Martin; Garland, Ian (Rhagfyr 2004). "'The New Craze': Football and Society in North-East Wales, c.1870-90". Welsh History Review.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 Davies, Gareth; Garland, Ian (1991). Who's Who of Welsh International Soccer Players. Bridge Books. tt. 119–120. ISBN 1-872424-11-2.
- ↑ "Cefn Druids: Our History". cefndruidsafc.com.
- ↑ "Welsh Football Data Archive: 1876 Scotland v Wales". Welsh Football Data Archive.
- ↑ "Results 1876 - 1889". Welsh Football Online.
- ↑ "1876 Sialens Kenrick". Cartref Ysbrydol Pêl-droed Cymru. Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
- ↑ Stead, Phil (2012). Red Dragons: The story of Welsh Football. Y Lolfa. t. 12. ISBN 9781847716187.
- ↑ Garland, Ian (1993). History of the Welsh Cup, 1877-1993. Abe Books. ISBN 9781872424378.
- ↑ "WELSH CUP FINAL 1877/78". Welsh Football Data Archive.