Charles Taylor (chwaraewr rygbi)
Charles Taylor | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mai 1863 Cymru |
Bu farw | 24 Ionawr 1915 Banc Dogger |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Gwobr/au | Member of the Royal Victorian Order |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Blackheath F.C. |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol dros Gymru a Clwb rygbi Blackheath oedd y Capten Beiriannydd Charles Gerald Taylor LVO (8 Mai 1863 – 24 Ionawr 1915). Yn ei waith pob dydd roedd yn swyddog gyda'r Llynges Frenhinol. Ef oedd y chwaraewr rygbi rhyngwladol dros Gymru cyntaf a laddwyd ar faes y gad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd Taylor yn athletwr amryddawn ac ar un adeg roedd yn bencampwr neidio â pholyn Cymru.
Gyrfa filwrol[golygu | golygu cod]
Yn enedigol o Riwabon ar 8 Mai 1863, ymunodd Taylor a'r Llynges Frenhinol ar 1 Gorffennad 1885 ac fe'i penodwyd yn Beiriannydd Cynorthwyol Dros Dro. Cafodd ei ddyrchafu yn beiriannydd ar 1 Medi 1890 ac yna'n brif beiriannydd ar 30 Rhagfyr 1900. Daeth yn is-gapten beiriannydd ar 26 Mawrth 1903 a'i ddyrchafu yn gadlywydd beiriannydd ar 30 Rhagfyr 1904. Cafodd ei benodi'n Aelod o'r Pedwerydd Dosbarth o'r Urdd Frenhinol Fictoriannaidd gan Frenin Sior V ar 3 Chwefror 1911. Ar 7 Chwefror 1912 cafodd ei ddyrchafu'n Gapten Beiriannydd.
Treuliodd Taylor y rhan fwyaf o'i yrfa mewn sefydliadau hyfforddi, ond yn fuan ar ôl dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, ar 16 Medi 1914, cafodd ei benodi i HMS Queen Mary. Ar 20 Tachwedd cafodd ei adleoli i HMS Tiger. Ar 24 Ionawr 1915, roedd Tiger yn un o'r llongau oedd yn rhan o Frwydr Glan Dogger. Daeth HMS Tiger dan ymosodiad y llong Almaenig SMS Blücher, a lladdwyd Taylor yn y frwydr. Ni chafodd Taylor ei gladdu yn y môr a chafodd ei gorff ei ddychwelyd i Brydain i'w gladdu ym Mynwent Newydd Tavistock yn Nyfnaint.
Gyrfa rygbi[golygu | golygu cod]
Mae'n annhebygol bod Taylor wedi chwarae rygbi dros Riwabon. Roedd yn chwarae pêl-droed cyn y gadawodd adref yn 16 oed i gofrestru fel myfyriwr mewn peirianneg forwrol ar HMS Marlborough yn Portsmouth. Yno y cafodd ei droi'n chwaraewr rygbi. Roedd yn aelod o dîm rygbi HMS Marlborough pan chwaraeodd dros Gymru am y tro cyntaf yn erbyn Lloegr yn 1884, a hynny o dan gapteniaeth Charlie Newman ym Mhencampwriaeth y Gwledydd Cartref.[1] Collodd Cymru'r gem chwaraeodd Taylor yn nwy gem ddiwethaf yr ymgyrch yn erbyn yr Alban ac Iwerddon. Yn 1884 cafodd Taylor ei ddewis eto i chwarae dros Gymru, mewn tîm a oedd yn cynnwys nifer o gapteiniaid y gorffennol a'r dyfodol, gan gynnwys Arthur Gould, Tom Clapp, Frank Hancock ynghyd â Charlie Newman. Sgoriodd Taylor am y tro cyntaf yn ystod Pencampwriaeth 1885 pan lwyddodd i drosi cais William Stadden, ond ni chafodd y pwyntiau eu cofnodi ar y pryd ac felly ni chafodd unrhyw bwyntiau yn ystod ei yrfa ryngwladol yn ôl cofnodion swyddogol.
Yn 1885, roedd Taylor ymhlith grwp o Gymry a ddaeth at ei gilydd i ffurfio clwb i 'alltudion' Llundain. Ffurfiwyd y clwb ym Mehefin 1885 a phenodwyd Taylor yn aelod o'r pwyllgor yn y cyfarfod cyntaf. Ar 21 Hydref, daeth yn aelod o dîm cyntaf erioed Cymry Llundain. Ymhen amser, byddai Cymry Llundain yn tyfu'n glwb llewyrchus gan feithrin nifer o chwaraewyr rhyngwladol. Roedd y tîm cyntaf hwnnw y chwaraeai Taylor iddo yn cynnwys chwech o chwaraewyr rhyngwladol: Arthur Gould, Martyn Jordan, Thomas Judson, T. Williams a Rowley Thomas yn ogystal â Taylor ei hun.
Yn 1886, roedd Taylor yn aelod o dîm Frank Hancock a arbrofodd gyda'r system tri chwarter am y tro cyntaf mewn gem ryngwladol. Bu'r arbrawf yn aflwyddiannus ac newidiodd Hancock ei dacteg yn ystod y gem.
Chwaraeodd Taylor ei gem olaf dros Gymru yn 1887 a hynny mewn buddugoliaeth yn erbyn y Gwyddelod ym Mhenbedw.
Gemau rhyngwladol a chwaraewyd[golygu | golygu cod]
Cymru
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Prescott, Gwyn (2014). Call Them to Remembrance: The Welsh Rugby Internationals who died in the Great War. St. David.s Press. ISBN 978-1-902719-37-5.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- Griffiths, Terry (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. London: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
- Jenkins, John M.; et al. (1991). Who's Who of Welsh International Rugby Players. Wrexham: Bridge Books. ISBN 1-872424-10-4.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.
- Prescott, Gwyn (2014). Call Them to Remembrance: The Welsh Rugby Internationals who died in the Great War. ISBN 978-1-902719-37-5.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- Career Statistics at ESPN Scrum