Llewelyn Kenrick

Oddi ar Wicipedia
Llewelyn Kenrick
Ganwyd1847 Edit this on Wikidata
Rhiwabon Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mai 1933 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ramadegol Rhiwabon Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfreithiwr, pêl-droediwr Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaCymdeithas Bêl-droed Cymru Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auOswestry Town F.C., Druids F.C. Edit this on Wikidata
SafleCefnwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Cyfreithiwr a phêl-droediwr oedd Samuel Llewelyn Kenrick (184729 Mai 1933). Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru a hefyd yn gyfrifol am drefnu gêm bêl-droed ryngwladol cyntaf Cymru a hynny yn erbyn Yr Alban yn 1876.

Bywyd[golygu | golygu cod]

Ganed Llewelyn Kenrick i deulu o ddiwydianwyr Wynn Hall, Rhiwabon a'i dad, John Kenrick, sefydlodd Pwll Glo Wynn Hall ym Mhenycae[1]. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon, Sir Ddinbych. Daeth yn gyfreithiwr yn Rhiwabon, yn glerc i ynadon heddwch Rhiwabon (1896-1933), a bu'n grwner adran ddwyreiniol Sir Ddinbych o 1906 hyd ei farwolaeth. Ym 1909 daeth yn briod â Lillian Maud, merch y Parchedig A. L. Taylor, prifathro Ysgol Ramadeg Rhiwabon[2]. Bu farw ar 29 Mai 1933, a cafodd ei gladdu yn Rhiwabon.

Chwaraeodd ei frawd yng nghyfraith, Charles Taylor, rygbi dros Gymru gan ennill naw cap rhwng 1884 a 1887. Cafodd Taylor ei ladd ar faes y gad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf[3][4]

Chwaraewr Pêl-droed[golygu | golygu cod]

Shropshire Wanderers[golygu | golygu cod]

Roedd Kenrick yn aelod o dîm Shropshire Wanderers chwaraeodd yn erbyn Plasmadoc ym 1872 ac o ganlyniad cafodd ei ddylanwadu i geisio sefydlu tîm pêl-droed o safon yn ei dref enedigol, ac am gyfnod roedd yn chwarae i dîm y Derwyddon ac i Shropshire Wanderers[5]. Roedd yn aelod o dîm Shropshire Wanderers gyrhaeddodd rownd gynderfynol Cwpan FA Lloegr ym 1875 cyn colli yn erbyn yr Old Etonians[6]

Y Derwyddon[golygu | golygu cod]

Ym 1872 roedd yn allweddol wrth uno tri o glybiau pentref Rhiwabon sef Plasmadoc, Ruabon Rovers a Ruabon Volunteers er mwyn creu Y Derwyddon[7]. Pedair mlynedd yn ddiweddarch, roedd Kenrick yn allweddol wrth sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn trefnu gêm ryngwladol yn erbyn yr Alban a cafwyd chwe chwaraewr o glwb Y Derwyddon, gan gynnwys Kenrick ei hun, yn chwarae yn y gêm hanesyddol cyntaf dros Gymru[8].

Cymru[golygu | golygu cod]

Roedd yn gapten ar dîm Cymru yn eu gêm ryngwladol gyntaf erioed yn erbyn yr Alban yn 1876 ac aeth ymlaen i ennill pum cap, yr olaf yn dod ym muddugoliaeth gyntaf y Cymry a hynny yn erbyn Lloegr yn Blackburn yn 1881[6][9].

Gweinyddwr Pêl-droed[golygu | golygu cod]

Cymdeithas Bêl-droed Cymru[golygu | golygu cod]

Ym mis Ionawr 1876 gwelodd Kenrick hysbyseb yng nghylchgrawn The Field, yn galw am dîm Cymreig i chwarae gêm bêl-droed yn erbyn Yr Alban neu Iwerddon o dan reolau rygbi, ond roedd Kenrick yn benderfynol o greu tîm yn chwarae rheolau pêl-droed a hysbysebodd am chwaraewyr fyddai â diddordeb chwarae i gysylltu ag ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-droed Cambria[5][10].

Galwodd Kenrick gyfarfod ar 26 Ionawr 1876 er mwyn sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cambria a threfnu gemau prawf ar gyfer dewis tîm i herio'r Alban ond erbyn yr ail gyfarfod ar 2 Chwefror 1876 yng ngwesty'r Wynnstay Arms, Wrecsam roedd wedi newid yr enw i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a'r cyfarfod yma sydd yn cael ei ystyried gan y Gymdeithas fel y cyfarfod lle'i ffurfiwyd[11].

Cafwyd cyfarfod pellach yn y Wynnstay Arms, Rhiwabon ym mis Mai 1876 er mwyn ffurioli'r Gymdeithas a sefydlu'r pwyllgor cyntaf gyda Kenrick yn cael ei ethol yn ysgrifennydd a'r Aelod Seneddol lleol, Syr Williams Watkins Wynn yn cael ei benodi'n Lywydd[5].

Cwpan Cymru[golygu | golygu cod]

Yn dilyn ei lwyddiant gyda Shropshire Wanderers yn cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan FA Lloegr ym 1875[6], cynnigiodd Kenrick fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn sefydlu cystadleuaeth tebyg ar gyfer clybiau Cymru[5]. Cafwyd 19 o glybiau yn y gystadleuaeth gyntaf ym 1877-78 gyda Wrecsam yn trechu Kenrick a'r Derwyddon 1-0 yn y rownd derfynol ar 30 Mawrth 1878[12][13].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Wynn Hall: A Grade II* Listed Building in Penycae, Wrexham". British Listed Buildings.
  2. "Family Notices". Llangollen Advertiser. 26 Tachwedd 1909.
  3. "Lest We Forget – Charles Gerald Taylor (Wales) 24/01/1915". World Rugby Museum. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-25. Cyrchwyd 2020-04-03.
  4. Prescott, Gwyn (2014). Call Them to Remembrance: The Welsh Rugby Internationals who died in the Great War. St. David.s Press. ISBN 978-1-902719-37-5.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 Johnes, Martin; Garland, Ian (Rhagfyr 2004). "'The New Craze': Football and Society in North-East Wales, c.1870-90". Welsh History Review.
  6. 6.0 6.1 6.2 Davies, Gareth; Garland, Ian (1991). Who's Who of Welsh International Soccer Players. Bridge Books. tt. 119–120. ISBN 1-872424-11-2.
  7. "Cefn Druids: Our History". cefndruidsafc.com.
  8. "Welsh Football Data Archive: 1876 Scotland v Wales". Welsh Football Data Archive.
  9. "Results 1876 - 1889". Welsh Football Online.
  10. "1876 Sialens Kenrick". Cartref Ysbrydol Pêl-droed Cymru. Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-05. Cyrchwyd 2020-04-03.
  11. Stead, Phil (2012). Red Dragons: The story of Welsh Football. Y Lolfa. t. 12. ISBN 9781847716187.
  12. Garland, Ian (1993). History of the Welsh Cup, 1877-1993. Abe Books. ISBN 9781872424378.
  13. "WELSH CUP FINAL 1877/78". Welsh Football Data Archive.