Annie Kenney

Oddi ar Wicipedia
Annie Kenney
Ganwyd13 Medi 1879 Edit this on Wikidata
Springhead Edit this on Wikidata
Bu farw9 Gorffennaf 1953 Edit this on Wikidata
Hitchin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethgwleidydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, swffragét, ymgyrchydd dros hawliau merched Edit this on Wikidata
PriodJames Taylor Edit this on Wikidata
PlantWarwick Kenney-Taylor Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal y Swffragét Edit this on Wikidata

Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Ann "Annie" Kenney (13 Medi 1879 - 9 Gorffennaf 1953) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched; roedd yn ffigwr blaenllaw yn Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (the Women's Social and Political Union). Cyd-sefydlodd ei changen gyntaf yn Llundain gyda Minnie Baldock.[1]

Fe'i ganed yn Springhead, Manceinion Fwyaf ar 13 Medi 1879 a bu farw yn Hitchin, Letchworth Garden City, tref yn Swydd Hertford yn 73 oed.[2][3][4][5][6]

Denodd Kenney sylw'r wasg a'r cyhoedd yn 1905 pan gafodd hi a Christabel Pankhurst eu carcharu am sawl diwrnod am ymosod a rhwystro, ar ôl tarfu ar y gwleidydd Syr Edward Gray drwy weiddi mewn rali Rhyddfrydol ym Manceinion ar fater pleidleisiau i fenywod, sef 'etholfraint'. Credir fod y digwyddiad hwn yn garreg filltir bwysig, ac yn gam pendant ymlaen yn y frwydr dros y bleidlais a hawliau eraill i fenywod yng ngwledydd prydain. Ymhlith cyfeillion eraill Annie roedd Emmeline Pethick-Lawrence, y Farwnes Pethick-Lawrence, Mary Blathwayt, Clara Codd, ac Adela Pankhurst.

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Daeth o ardal dosbarth gweithiol Manceinion Fwyaf, yn bedwerydd merch allan o 12 o blant i Horatio Nelson Kenney (1849–1912) ac Anne Wood (1852-1905). Roedd ei saith chwaer yn cynnwys Nell (Sarah), Jessie, Jennie, Alice a Kitty. Dechreuodd Annie weithio'n rhan-amser mewn melin gotwm pan oedd yn 10 oed, yn ogystal â mynd i'r ysgol; roedd yn gweithio'n llawn amser yn 13 oed, gwaith undonog a oedd yn cynnwys sifftiau 12 awr o chwech yn y bore. Roedd yn cael ei chyflogi fel cynorthwy-ydd gwehydd, neu “gweinyddwr”; rhan o'i swydd oedd gosod y "bobbins" a rhoi sylw i linynnau cnu wrth iddynt dorri; rhwygwyd un o'i bysedd gan fobin wrth iddo droi'n wyllt. Arhosodd yn y felin am 15 mlynedd, bu'n cymryd rhan mewn gweithgareddau undeb llafur, gan hyrwyddo hunan-astudio a cheisiai hyrwyddo llenyddiaeth ymhlith ei chydweithwyr. Mynychai'r eglwys yn rheolaidd.[7][8][9] [10]

Ymgyrchu[golygu | golygu cod]

Cymerodd Kenney ran weithredol, filwriaethus o fewn Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (WSPU) ar ôl iddi hi a'i chwaer Jessie glywed Teresa Billington-Greig a Christabel Pankhurst yn siarad yn y Clarion Vocal Club yn Oldham yn 1905.[9][11]

Yn ystod rali ryddfrydol yn y Free Trade Hall, Manceinion, yn Hydref 1905, torrodd Kenney a Christabel Pankhurst ar draws cyfarfod gwleidyddol a fynychwyd gan Winston Churchill a Syr Edward Grey, gan weiddi: "A fydd y llywodraeth Ryddfrydol yn rhoi pleidleisiau i fenywod?" Ar ôl dadorchuddio baner yn datgan "Pleidleisiau i Fenywod" a gweiddi, cawsant eu taflu allan o'r cyfarfod a'u harestio am achosi rhwystr. Cymerwyd Pankhurst i'r ddalfa am 'ymosodiad technegol' *technical assault) ar swyddog o'r heddlu, ar ôl iddi boeri arno wrth iddo geisio ei harestio (er ei bod wedi ysgrifennu'n ddiweddarach fod ei cheg yn sych grimp).[12] Fe'i carcharwyd gan y llys am dridiau, a thros y blynyddoedd, fe'i carcharwyd 13 o weithiau.

Adela Pankhurst (chwith) a Kenney (dde); tynnwyd y llun yn 1909 ger egin o goeden a blannwyd gan Emmeline Pankhurst.

Ysgrifennodd Emmeline Pankhurst yn ei bywgraffiad: "this was the beginning of a campaign the like of which was never known in England, or for that matter in any other country ... we interrupted a great many meetings ... and we were violently thrown out and insulted. Often we were painfully bruised and hurt."

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal y Swffragét .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jackson, Sarah (12 Hydref 2015). "The suffragettes weren't just white, middle-class women throwing stones". The Guardian. Cyrchwyd 22 Chwefror 2018.
  2. Cyffredinol: Oxford Dictionary of National Biography.
  3. Rhyw: Oxford Dictionary of National Biography.
  4. Dyddiad geni: "Annie Kenney". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Annie Kenney". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Dyddiad marw: "Annie Kenney". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Annie Kenney". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. Man geni: Oxford Dictionary of National Biography. dyddiad cyrchiad: 14 Ebrill 2021.
  7. Helen Rappaport. Encyclopedia of women social reformers, Cyfrol 1 (ABC-CLIO, 2001) tud. 359-361
  8. E. S. Pankhurst. The suffragette: the history of the women's militant suffrage movement, 1905–1910 (New York Sturgis & Walton Company, 1911) tud. 19ff.
  9. 9.0 9.1 Annie Kenney, Marie M. Roberts, Tamae Mizuta. A Militant (Routledge, 1994) Rhagarweiniad.
  10. Galwedigaeth: Oxford Dictionary of National Biography.
  11. "Jessie Kenney". Spartacus Educational (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-10-26.
  12. Crawford, Elizabeth (2003) [1999]. The Women's Suffrage Movement: A Reference Guide 1866–1928. Routledge. t. 489.CS1 maint: ref=harv (link)