Clara Codd
Clara Codd | |
---|---|
Ganwyd | 10 Hydref 1876 Bishop's Tawton |
Bu farw | 3 Ebrill 1971 Heatherwood Hospital |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | swffragét, llenor |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Subba Row Medal |
Awdur, ffeminist a swffragét o Ddyfnaint, Lloegr oedd Clara Codd (10 Hydref 1876 - 3 Ebrill 1971) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am iddi dreulio cyfnod mewn carchar ac am iddi dreulio ei hoes yn gweithio dros y Gymdeithas Theosoffyddol (the Theosophical Society).
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed yn "Pill House", Bishop's Tawton ar 10 Hydref 1876 a bu farw yn Heatherwood Hospital.[1][2]
Hi oedd plentyn hynaf Henry Frederick Codd a Clara Virginia (g. Botto) Codd. Roedd ganddi naw brawd a chwiorydd a chafodd ei haddysgu gartref. Yn 15 oed daeth yn anffyddiwr. Ar ôl marwolaeth ei thad, symudodd y teulu i Genefa lle'r oedd Codd yn gweithio fel athro-riant (governess), model gwisgoedd ac athrawes ffidil a phiano. Cafodd ei throi'n Theosoffydd ar ôl clywed Llywydd cyntaf y Gymdeithas Theosoffyddol, Henry Steel Olcott, yn rhoi sgwrs yn Genefa.[3]
Yr ymgyrchydd
[golygu | golygu cod]Yn 1903 symudodd y teulu i Loegr ac ymunodd â'r Gymdeithas Theosoffyddol. Ym 1907 ymunodd ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched, mudiad eithas milwriaethus (Women's Social and Political Union yn yr iaith frodorol).[4][5]
Gofynnodd Aeta Lamb iddi helpu i drefnu ymweliad gan Christabel Pankhurst ac Annie Kenney a'r flwyddyn ganlynol fe'i hetholwyd yn ysgrifennydd etholedig cangen WSPU Caerfaddon. Gerllaw roedd cartref Mary Blathwayt, swffragét arall. Roedd ei rhieni'n byw yn "Eagle House" yn Batheaston. Ymwelodd bron pob un o'r swffragetiaid Prydeinig blaenllaw â'r tŷ a byddai Codd yn aros yno, ac yn cysgu gydag Annie Kenney. [6][3][5]
Arestiwyd Codd ym 1908 y tu allan i Dŷ'r Cyffredin ac fe'i dedfrydwyd i fis o garchar. Roedd Christabel Pankhurst yn awyddus i ddod o hyd i swydd iddi, ond gwrthododd Codd y cynnig. Mae'n ymddangos iddi ddieithrio o'r grŵp ar ôl hynny.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Subba Row Medal (1956)[7] .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Dyddiad geni: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ Dyddiad marw: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ 3.0 3.1 Heloise Brown, "Codd, Clara Margaret (1876–1971)", Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; arlein, Medi 2015 accessed 30 Hydref 2017
- ↑ Kreeger, Leatrice (May–June 2004). "A Tribute to Clara Codd". Quest magazine. https://www.theosophical.org/publications/42-publications/quest-magazine/1463-a-tribute-to-clara-codd. Adalwyd 2019-04-12.
- ↑ 5.0 5.1 "Clara Codd". Spartacus Educational (yn Saesneg). Cyrchwyd 31 Hydref 2017.
- ↑ Anrhydeddau: "Subba Row Medal".
- ↑ "Subba Row Medal".