Anne Rice
| Anne Rice | |
|---|---|
| Ffugenw | Anne Rampling, A. N. Roquelaure |
| Ganwyd | Howard Allen Frances O'Brien 4 Hydref 1941 New Orleans |
| Bu farw | 11 Rhagfyr 2021 o strôc Rancho Mirage |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, nofelydd, sgriptiwr |
| Adnabyddus am | Interview with the Vampire |
| Arddull | llenyddiaeth arswyd, erotic literature, ffantasi |
| Priod | Stan Rice |
| Plant | Michele Rice, Christopher Rice |
| Gwobr/au | Gwobr Cynhadledd Arswyd Fydeang yr Uwch Feistr, Locus Award for Best Horror Novel, Bram Stoker Award for Lifetime Achievement |
| Gwefan | http://www.annerice.com |
Awdur Americanaidd oedd Anne Rice (4 Hydref 1941 – 11 Rhagfyr 2021) sy'n nodigedig am ei gwaith fel nofelydd a sgriptiwr ffuglen gothig, Cristnogol ac erotig. Yn 2019 ei gwaith mwyaf poblogaidd oedd The Vampire Chronicles a addaswyd yn nifer o ffilmiau: Interview with the Vampire (1994) a Queen of the Damned (2002).
Ganed Howard Allen Frances O'Brien yn New Orleans ar 4 Hydref 1941. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol San Francisco, Prifysgol y Merched, Texas a Phrifysgol Gogledd Tecsas. [1] Priododd yr arlunydd Stan Rice yn 1961 a bu'r ddau briod am 41 o flynyddoedd tan iddo farw o gancr yn 2002 yn 60 oed.[2][3][4][5][6][7]
Mae'r awdur Christopher Rice yn blentyn iddi; collodd blentyn arall, Michelle, yn 5 oed o liwcimia.[8][9]
Treuliodd Rice lawer o'i bywyd cynnar yn New Orleans cyn symud i Texas, ac yn ddiweddarach i San Francisco. Cafodd ei magu mewn teulu Catholig eitha llym, ond daeth yn agnostig pan oedd yn oedolyn ifanc. Dechreuodd ei gyrfa ysgrifennu proffesiynol gyda chyhoeddi Interview with the Vampire ym 1976, wrth fyw yng Nghaliffornia, a dechreuodd ysgrifennu dilyniannau i'r nofel yn yr 1980au. Yng nghanol y 2000au, dychwelodd at Babyddiaeth, cyhoeddodd Rice y nofelau Christ the Lord: Out of Egypt and Christ the Lord: The Road to Cana, adroddiadau ffuglennol o rai digwyddiadau ym mywyd Iesu Grist. Sawl blwyddyn yn ddiweddarach fe ymbellhaodd oddi wrth Gristnogaeth confensiynol, gan nodi anghytuno â safbwyntiau'r Eglwys Gatholig ar faterion cymdeithasol ond gan addo bod ffydd yn Nuw yn parhau i fod yn "ganologig i'w bywyd." Fodd bynnag, mae hi bellach yn ystyried ei hun yn ddyneiddiwr seciwlar.[10]
Roedd cyfanswm gwerthiant ei llyfrau, erbyn 2019, dros 10 miliwn, sy'n rhoi Anne Rice yn agos iawn i frig y tabl awduron Americanaidd benywaidd mwyaf llwyddiannus erioed.[11][12]
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Rice oedd yr ail o bedair merch i rieni o dras Gatholig Wyddelig, Howard O'Brien a Katherine "Kay" Allen O'Brien.[13] Gweithiodd ei thad, cyn-filwr Llyngesol o'r Ail Ryfel Byd a phreswylydd gydol oes yn New Orleans, fel Uwch-swyddog Personél ar gyfer Gwasanaeth Post UDA, ac ysgrifennodd un nofel, The Impulsive Imp, a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.[14][15] Yn ddiweddarach daeth ei chwaer hŷn, Alice Borchardt, yn awdur nodedig ffuglen ffantasi ac arswyd.
Treuliodd Rice y rhan fwyaf o flynyddoedd ei phlentyndod a'i harddegau yn New Orleans, dinas sy'n ffurfio'r cefndir i lawer o'i gweithiau. Cafodd ei blynyddoedd cynnar eu nodi trwy ymdopi â thlodi’r teulu ac alcoholiaeth ei mam. Roedd hi a'i theulu yn byw yng nghartref ei mam-gu, Alice Allen, ("Mamma Allen") yn 2301 St Charles Avenue, y dywed Rice a ystyriwyd gan lawer fel "Ghetto Catholig".[16][17] Pan oedd Rice yn 15 oed, bu farw ei mam o alcoholiaeth.[13][18][19] Penderfynodd ei thad ei rhoi hi a'i chwiorydd yn Academi Sant Joseff, lle a ddisgrifiwyd gan Rice fel "rhywbeth allan o Jane Eyre ... lle a oedd yn dadfeilio, lle erchyll, canoloesol. Roeddwn yn ei gasau ac yn dymuno gadael. Teimlwn fod fy nhad wedi ein bradychu."[20]
Bu farw Rice ar 12 Rhagfyr 2021. Yr un diwrnod, cyhoeddodd ei mab Christopher ei marwolaeth ar Twitter.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Anrhydeddau: https://www.sfadb.com/Locus_Awards_1991. https://bramstokerawards.horror.org/lifetime-achievement-award/lifetime-achievement-award-2/.
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. LIBRIS. dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2018. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: "Anne Rice". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne Rice". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne Rice". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne Rice". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne RICE". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne Rice". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne Rice". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anne Rice". "Anne Rice". "Anne Rice". "Anne Rice". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Anne Rice, author of 'Interview with the Vampire,' dies" (yn Saesneg).
- ↑ Achos marwolaeth: "Author Anne Rice dies aged 80".
- ↑ Crefydd: "What do the words, "secular humanism," mean to you? Can you explain? (I am a secular humanist myself and I am thankful to be living in what I believe to be a secular humanist country, but I welcome your thoughts on this.)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Ionawr 2016. Cyrchwyd 14 Ebrill 2013.
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 985: attempt to index field 'inv_local_long' (a nil value).
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 985: attempt to index field 'inv_local_long' (a nil value).
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 985: attempt to index field 'inv_local_long' (a nil value).
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 985: attempt to index field 'inv_local_long' (a nil value).
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 985: attempt to index field 'inv_local_long' (a nil value).
- 1 2 Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 985: attempt to index field 'inv_local_long' (a nil value).
- ↑ "THE IMPULSIVE IMP by Howard O'Brien". Kirkus Reviews. Cyrchwyd 10 Mehefin 2012.[dolen farw]
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 985: attempt to index field 'inv_local_long' (a nil value).
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 985: attempt to index field 'inv_local_long' (a nil value).
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 985: attempt to index field 'inv_local_long' (a nil value).
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 985: attempt to index field 'inv_local_long' (a nil value).
- ↑ "Anne Rice Biography". Biography. AETN UK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mai 2012. Cyrchwyd 22 Mehefin 2012.
- ↑ Ramsland 1991, t. 53
- ↑ https://www.sfadb.com/Locus_Awards_1991.
- ↑ https://bramstokerawards.horror.org/lifetime-achievement-award/lifetime-achievement-award-2/.