Anna Louise Strong

Oddi ar Wicipedia
Anna Louise Strong
Ganwyd24 Tachwedd 1885 Edit this on Wikidata
Friend Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mawrth 1970 Edit this on Wikidata
Beijing Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, newyddiadurwr, ymgyrchydd, undebwr llafur, ymgyrchydd heddwch Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAnna Louise Strong Papers Edit this on Wikidata
TadSydney Strong Edit this on Wikidata
PriodJoel Shubin Edit this on Wikidata

Awdur Americanaidd oedd Anna Louise Strong (24 Tachwedd 1885 - 29 Mawrth 1970) a oedd yn newyddiadurwr, undebwr llafur ac ymgyrchydd dros heddwch ond sy'n fwyaf adnabyddus am ei hadroddiad a'i chefnogaeth i symudiadau comiwnyddol yn yr Undeb Sofietaidd a Gweriniaeth Pobl Tsieina. Ysgrifennodd dros 30 o lyfrau ac erthyglau amrywiol.

Fe'i ganed yn Friend, Nebraska a bu farw yn Beijing; fe'i claddwyd ym Mynwent Babaoshan. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Bryn Mawr, Coleg Oberlin a Phrifysgol Chicago. [1] Bu'n briod i Joel Shubin.[2][3][4]

Y dyddiau cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Strong ar 14 Tachwedd 1885, mewn "persondy dwy ystafell" yn Friend, Nebraska, y "Gorllewin Canol," i rieni a oedd yn rhyddfrydwyr dosbarth canol a oedd yn weithgar yn yr Eglwys Gynulleidfaol ac fel cenhadon.[5][6][7][8] Roedd ei thad, Sydney Dix Strong, yn weinidog Efengylaidd yn yr Eglwys Gynulleidfaol, yn weithgar mewn gwaith cenhadol, ac yn heddychwr ymroddedig.[9][10] Rhwng 1887 a 1891 bu'r teulu'n byw ym Mount Vernon Ohio, cyn symud i Cincinnati ym 1891.[6]

Mynychodd Goleg Bryn Mawr, Pennsylvania rhwng 1903 a 1904, yna graddiodd o Goleg Oberlin yn Ohio ym 1905 lle dychwelodd yn ddiweddarach i siarad lawer gwaith.[5][6][7] Ym 1908, yn 23 oed, gorffennodd ei haddysg a derbyn PhD mewn athroniaeth gan Brifysgol Chicago gyda thesis a gyhoeddwyd yn ddiweddarach fel The Social Psychology of Prayer.[11][12]

Anna Louise Strong yn 1918

Fel eiriolwr dros les plant tra bu’n gweithio i Swyddfa Addysg yr Unol Daleithiau, ymunodd â’r Pwyllgor Llafur Plant Cenedlaethol a threfnodd arddangfa gan deithio'n helaeth ledled yr Unol Daleithiau a thramor. Pan ddaeth â'r arddangosfa i Seattle, ym Mai 1914, daeth 6,000 o bobl i ymweld â hi bob dydd, gan ddiweddu ar y dydd laf o Fai, gyda chynulleidfa o 40,000 o bobl.[5]

Roedd Strong yn dal yn argyhoeddedig mai cyfalafiaeth oedd yn gyfrifol am dlodi, a dioddefaint y dosbarth gweithiol. Roedd hi'n 30 oed pan ddychwelodd i Seattle i fyw gyda'i thad, rhwng 1916 a 1921, lle bu'n flaengar gyda'r Blaid Lafur mewn "digwyddiadau radicaleiddio" fel Streic Gyffredinol Seattle a chyflafan Everett.[5][10]

Roedd Strong hefyd yn mwynhau dringo mynyddoedd. Trefnodd wersylloedd haf cydweithredol yn y Cascades ac arwain partïon dringo i fyny Mount Rainier, a arweiniodd at sefydlu Clwb Alpaidd Washington, ym 1916.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

Daeth yn aelod o Fwrdd Ysgol Seattle (Seattle School Board) yn 1916, yr unig ferch. Dadleuodd y dylai'r ysgolion cyhoeddus gynnig rhaglenni gwasanaethau cymdeithasol i blant difreintiedig.

Y flwyddyn honno, digwyddodd cyflafan Everett a gofynnwyd iddi gan y New York Evening Post i adrodd ar y gwrthdaro rhwng gwarchodwyr arfog, a gyflogwyd gan berchnogion melinau Everett, a Gweithwyr Diwydiannol y Byd (neu "Wobblies"). Tross o fod yn niwtral i fod yn llefarydd ymroddedig dros hawliau'r gweithwyr.[5][13]

Treuliodd gyfnod bychan yn y carchar, yn bennaf oherwydd ei heddychiaeth, ac yn 1918 penodwyd person arall yn ei lle ar Fwrdd Ysgol Seattle.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Aelodaeth: https://en.wikipedia.org/wiki/Anna_Louise_Strong. gwefan.
  2. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11983698f. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: "Anna Louise Strong". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anna Louise Strong". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Dyddiad marw: "Anna Louise Strong". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anna Louise Strong". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anna Louise Strong". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 Mildred Andrews, "Strong, Anna Louise (1885-1970)," HistoryLink, 7 Tachwedd 1998.
  6. 6.0 6.1 6.2 B. K. Clinker, "Anna Louise Strong (1885-1970) Archifwyd 2019-08-20 yn y Peiriant Wayback.," Knox Historical Society, 2004, adalwyd 16 Ionawr 2018.
  7. 7.0 7.1 Reuters, "Anna Louise Strong Dies in Peking at 84," reprinted in The New York Times, 30 Mawrth 1970, adalwyd 16 Ionawr 2018.
  8. Darren Selter, "Witness to Revolution: The Story of Anna Louise Strong," University of Washington, adalwyd 16 Ionawr 2018.
  9. Hughes, Heather. First President: A Life of John Dube, Founding President of the ANC. Auckland Park, South Africa: Jacana Media. t. 116. ISBN 1770098135.
  10. 10.0 10.1 Archives West, "Anna Louise Strong papers, 1885-1971," yn tarddu o'r dudalen hon Archifwyd 2018-11-16 yn y Peiriant Wayback., adalwyd 26 Ionawr 2018.
  11. China Daily, "Anna Louise Strong," 29 Medi 2010, adalwyd 26 Ionawr 2018.
  12. Anna Louise Strong, "A Consideration of Prayer from the Standpoint of Social Psychology," 1908, adalwyd 26 Ionawr 2018.
  13. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw peoplesworld