Coleg Bryn Mawr
| Math | prifysgol, sefydliad addysgol preifat nid-am-elw, women's college |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Bryn Mawr, Dolgellau |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Seven Sisters |
| Lleoliad | Bryn Mawr |
| Sir | Lower Merion Township |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 40.02639°N 75.31361°W |
| Cod post | 19010 |
| Niferoedd | 1,719, 1,676 |
![]() | |
| Sefydlwydwyd gan | M. Carey Thomas |
Coleg i ferched yn Unol Daleithiau America ydy Coleg Bryn Mawr (Saesneg: Bryn Mawr College); caiff ei ddisgrifio fel "coleg y celfyddydau rhyddfrydol". Mae wedi'i leoli ym Mryn Mawr, yn nhalaith Pennsylvania oddeutu 10 milltir i'r gorllewin o Pennsylvania yn Unol Daleithiau America.
Cymuned Bryn Mawr
[golygu | golygu cod]Yn ôl cyfrifiad yr Unol Daleithiau, mae i'r ardal hon arwynebedd o 0.6 milltir sgwâr,[1] ac roedd yno boblogaeth o 21,485 gyda chyfartaledd incwm y bobl hyn yn $110,956.[2][3] sy'n ei gwneud yn un o ardaloedd mwyaf cefnog yr Unol Daleithiau.
Sefydlu'r Coleg
[golygu | golygu cod]Daw enw'r coleg a'r dref o'r Gymraeg. Cyflwynodd William Penn y tir i Rowland Ellis yn y 1680au; enw fferm Rowland Ellis yn Nolgellau oedd "Bryn Mawr". Mae Rowland Ellis, ei deulu a'r cyfnod yn cael ei ddisgrifio gan Marion Eames yn ei nofel hanesyddol Y Stafell Ddirgel. Arferai'r coleg i arddel cysylltiad cry gyda chrefydd y sefydlwyr hyn, sef Crynwriaeth, ond erbyn 1893 roedd wedi'i sefydlu'n goleg amlgrefydd.
Coleg Bryn Mawr oedd y coleg cyntaf o'i bath i gynnig gradd uwch (gan gynnwys doethuriaeth) i ferched yn yr Unol Daleithiau.[4] Bu'r mathemategydd Almaenig Emmy Noether yma'n fyfyriwr ac yn ddarlithydd, ac yma y claddwyd ei gweddillion.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Bryn Mawr CDP, Pennsylvania (map)". Cyrchwyd 2007-04-18.[dolen farw]
- ↑ "Ithan Elementary School". Radnor Township School District. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-05-20. Cyrchwyd 2007-05-19.
- ↑ "Coopertown Elementary". Haverford Township School District. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-05-31. Cyrchwyd 2007-05-19.
- ↑ "A Brief History of Bryn Mawr College". brynmawr.edu. Cyrchwyd 2011-06-18.
