Anna Deavere Smith
Anna Deavere Smith | |
---|---|
Ganwyd | 18 Medi 1950 Baltimore, Maryland |
Man preswyl | Baltimore, Maryland |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, ysgrifennwr, dramodydd, actor, sgriptiwr, academydd, academydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Medal y Dyniaethau Cenedlaethol, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr Drama Desk ar gyfer Sioe Un-Person Eithriadol, Gwobr Drama Desk ar gyfer Sioe Un-Person Eithriadol, Cymrodoriaeth MacArthur, Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Washington D.C. am yr Actores Gefnogol Orau, Darlith Jefferson, Gwobr George Polk, Phyllis Franklin Award, Cymrodoriaeth Guggenheim, honorary doctor of the Yale University, Gradd er anrhydedd o Goleg Spelman, Global Citizen Awards |
Actores Americanaidd yw Anna Deavere Smith (ganwyd 18 Medi 1950) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel dramodydd. Hi oedd yn actio Dr. Nancy McNally yn y ffilm The West Wing (2000–06), ac fel Gloria Akalitus yn y gyfres deledu Nurse Jackie (2009–15). Yn 2019 mae'n chwarae rol Tina Krissman yn y sioe For the People (ABC).
Fe'i ganed yn Baltimore, Maryland ar 18 Medi 1950. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Arcadia, Pennsylvania a Western High School.[1][2][3][4]
Yn 2013 enillodd Wobr Dorothy a Lillian Gish, un o brif wobrau celf yn yr Unol Daleithiau America, gwerth $300,000.
Yn 2015 cafodd ei dewis fel 'Darlithydd Jefferson' gan Waddol Cenedlaethol ar gyfer y Celfyddydau (National Endowment for the Arts). Hi yw cyfarwyddwr a sefydlydd Institute on the Arts and Civic Dialogue ym Mhrifysgol Efrog Newydd. [5][6][7][8]
Magwraeth[golygu | golygu cod]
Ganwyd Smith ym 1950 i deulu Affricanaidd-Americanaidd yn Baltimore, Maryland, yn ferch i Anna Rosalind (née Young), prifathro ysgol elfennol, a Deaver Young Smith, Jr, masnachwr coffi.
Dechreuodd fynychu'r ysgol yn fuan ar ôl i'r ddinas ddechrau integreiddio disgyblion du a gwyn o fewn ysgolion cyhoeddus, a mynychodd Anna ysgolion mwyafrif-du a mwyafrif-gwyn yn ystod ei blynyddoedd cyntaf. Mae hi'n gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd y Gorllewin, ysgol i ferched.[9][10]
Astudiodd actio yng Ngholeg Beaver (Prifysgol Arcadia erbyn hyn), lle'r oedd yn un o saith o fenywod Affricanaidd-Americanaidd yn ei dosbarth, gan raddio yn 1971. Yn ystod ei gyrfa yn y coleg, dechreuon nhw gydadnabod eu bod yn Affricanaidd. Aeth i Arfordir Gorllewinol UDA ar gyfer ei gwaith graddedig, gan dderbyn M.F.A. mewn actio gan Theatr Geidwadol Americanaidd yn San Francisco, California.[11]
Ffilm[golygu | golygu cod]
Blwyddyn | Teitl | Rôl | Notes |
---|---|---|---|
1982 | Soup for One | Deborah | |
1983 | Touched | Switch Board Operator | |
1987 | Unfinished Business | Anna | |
1993 | Dave | Mrs. Travis | |
1993 | Philadelphia | Anthea Burton | |
1995 | The American President | Robin McCall | |
2000 | Twilight: Los Angeles, 1992 | Various | Awdur a chynhyrchydd; addasiad o ddrama Smith yn 1994 |
2003 | The Human Stain | Mrs. Silk | |
2004 | The Manchurian Candidate | Political pundit | |
2005 | Cry_Wolf | Headmaster Tinsley | |
2005 | Rent | Mrs. Jefferson | |
2007 | The Kingdom | Maricella Canavesio | |
2007 | Life Support | Mrs. Wallace | |
2008 | Rachel Getting Married | Carol | |
2010 | Seizing Justice: The Greensboro 4 | Llais | |
2018 | Can You Ever Forgive Me? | Elaine |
Anrhydeddau[golygu | golygu cod]
- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal y Dyniaethau Cenedlaethol (2012), Gwobr y 'Theatre World' (1994), Gwobr Drama Desk ar gyfer Sioe Un-Person Eithriadol (1993), Gwobr Drama Desk ar gyfer Sioe Un-Person Eithriadol (1994), Cymrodoriaeth MacArthur (1996), Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Washington D.C. am yr Actores Gefnogol Orau (2003), Darlith Jefferson (2015), Gwobr George Polk (2016), Phyllis Franklin Award (2016), Cymrodoriaeth Guggenheim (2016), honorary doctor of the Yale University (2014), Gradd er anrhydedd o Goleg Spelman (2012), Global Citizen Awards (2019)[12][13][14][15] .
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb14658760h. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb14658760h. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www.nytimes.com/2009/11/10/health/10easy.html. http://www.nytimes.com/2011/11/19/nyregion/at-lincoln-center-gala-wine-was-by-the-grass-nocturnalist.html.
- ↑ Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 14 Awst 2015. "Anna Deavere Smith". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anna Deavere Smith". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: http://famousdude.com/22462-anna-deavere-smith.html. https://archive.org/details/womenplaywrights00pete/page/306.
- ↑ Galwedigaeth: https://www.nybooks.com/contributors/anna-deavere-smith/. The New York Review of Books. https://archive.org/details/womenplaywrights00pete/page/306. http://www.nndb.com/honors/321/000044189/. http://www.nndb.com/people/131/000030041/. http://ibdb.com/venue.php?id=1120.
- ↑ Anrhydeddau: https://www.neh.gov/about/awards/national-humanities-medals. dyddiad cyrchiad: 6 Awst 2017. http://www.theatreworldawards.org/past-recipients.html. https://www.spelman.edu/docs/honorary-degrees/honorary-degree-recipients---1977-present---as-of-november-2022---revised-(012023).pdf?sfvrsn=f4347e51_2. https://www.atlanticcouncil.org/events/flagship-event/global-citizen-awards/previous-gca-recipients/.
- ↑ Schechner, Richard (Fall 2018). "There’s a lot of work to do to turn this thing around: An Interview with Anna Deavere Smith" (yn en). TDR/The Drama Review (New York University - Massachusetts Institute of Technology) 62 (3): 35-50. https://doi.org/10.1162/dram_a_00771.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-17. Cyrchwyd 2019-06-22.
- ↑ "Smith, Anna Y." The Baltimore Sun. 19 Medi 2003. Cyrchwyd 3 Ionawr 2014.
- ↑ Henry Louis Gates, Jr., Finding Your Roots, Season 2: The Official Companion to the PBS Series, tt. 115-120
- ↑ Ferington, Esther. "Anna Deavere Smith". National Endowment for the Humanities. Cyrchwyd 3 Ionawr 2014.
- ↑ https://www.neh.gov/about/awards/national-humanities-medals. dyddiad cyrchiad: 6 Awst 2017.
- ↑ http://www.theatreworldawards.org/past-recipients.html.
- ↑ https://www.spelman.edu/docs/honorary-degrees/honorary-degree-recipients---1977-present---as-of-november-2022---revised-(012023).pdf?sfvrsn=f4347e51_2.
- ↑ https://www.atlanticcouncil.org/events/flagship-event/global-citizen-awards/previous-gca-recipients/.