Andrea Mohr

Oddi ar Wicipedia
Andrea Mohr
Ganwyd19 Gorffennaf 1963 Edit this on Wikidata
Neustadt an der Weinstraße Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Awdures o'r Almaen yw Andrea Mohr (ganwyd 19 Gorffennaf 1963) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur.

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Andrea Mohr yn Neustadt, Gorllewin Yr Almaen. Mynychodd Mohr ysgol gynradd yn Neustadt o 1969 hyd 1973. Bu hefyd yn mynychu'r Leibniz Gymnasium a'r ysgol nos Saesneg Inlingua in Mannheim. Cafodd gyfnod o astudio economeg (rhwng 1985-86) ym Mhrifysgol Ludwig Maximillan Munich, ac yna o 1986-89 astudiodd Siapanaeg ac Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Rydd Berlin. Bu'n gweithio fel model a gwesteiwraig yn Berlin ac fel dawnswraig stri-bryfocio mewn cabaret.

Smyglo cyffuriau[golygu | golygu cod]

Cyn iddi ddechrau ysgrifennu teithlyfrau bu'n gysylltiedig gyda chylch smyglo cyffuriau rhyngwladol a rhai gweithgareddau troseddol eraill. Fe'i dedfrydwyd i garchar yn 1999 a hynny mewn carchar diogelwch uchel ar gyfer merched yn Awstralia. Plediodd yn euog i fod yn gysylltiedig gyda mewnforio cocên i Awstralia, ynghyd â'i chyn- ŵr, Werner Roberts. Yn ystod ei chyfnod yn y carchr cwblhaodd gwrs dysgu o bell gyda Phrifysgol Swinnburne University of Technology, Melbourne ym maes newyddiaduraeth ac ysgrifennu creadigol.Fe'i rhyddhawyd yn 2004 a'i halltudio; y mae bellach wedi dychwelyd i'w thref enedigol.

Gyrfa fel awdur[golygu | golygu cod]

Ers 2004 mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau - er enghraifft cyfres o lyfrau teithio yn seiliedig ar goginio i'r cyhoeddwr Umschau Buchverlag, Cyhoeddodd ei hunangofiant, Pixie yn Saesneg yn 2009 gan Hardie Grant Books (gyda dyfyniad ar y clawr gan Howard Marks) ac yna yn Almaeneg yn 2011 gan dŷ cyhoeddi Egmont. Ysgrifennodd hefyd nifer o straeon byrion gyda dwy ohonynt yn ymddangos yn antholeg Howard Marks, Tripping. Yn 2010 dechreuodd gyflwyno ei darlleniadau aml-gyfrwng o dan y teitl This is not a striptease sy'n adrodd henes ei bywyd. Mae hi'n aelod gweithredol o Amnest Rhyngwladol ac yn ymladd dros amgylchiadau gwell o fewn y system garchardai.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]