Alvin Langdon Coburn

Oddi ar Wicipedia
Alvin Langdon Coburn
Ganwyd11 Mehefin 1882 Edit this on Wikidata
Boston Edit this on Wikidata
Bu farw23 Tachwedd 1966 Edit this on Wikidata
Llandrillo-yn-Rhos Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethffotograffydd Edit this on Wikidata

Bu Alvin Langdon Coburn (11 Mehefin 1882 - 23 Tachwedd 1966) yn arloeswr ffotograffiaeth gynnar a rhoddodd y gorau i'w yrfa fel un o ffotograffwyr enwocaf ei gyfnod er mwyn symud i fyw yn Harlech ac wedyn Llandrillo-yn-Rhos i ganolbwyntio ar fod yn Saer Rhydd.

Arbrofodd a thorrodd tir newydd gyda sawl techneg ac arddull. Cysylltir yn amlaf gyda Symbolism, Pictorialism a chreu delweddau Vortographs a oedd wedi'u dylanwadu gan y grŵp celfyddydol Seisnig y Vorticists.

Ganwyd yn ninas Boston, Massachusetts, Unol Daleithiau i deulu cyfoethog. Symudodd i Lundain cyn rhoi'r gorau i'w yrfa ffotograffig a symud eto i fyw yng Nghymru. Derbyniodd wahoddiad i ymuno â Gorsedd y Beirdd ym 1927.[1]

Bywyd Cynnar a Ffotograffiaeth[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Langdon Coburn dynnu lluniau yn wyth oed pan gafodd gamera Kodak 4x5 yn anrheg. Amlygodd ei ddalent am ffotograffiaeth bron yn syth a dangoswyd ei waith gyda llawr o elît byd y camera.

Yn 16 oed cyfarfu â'r ffotograffydd rhyngwladol enwog F. Holland Day a fu'n gymorth mawr iddo gael i waith mewn arddangosfa'r Royal Photograhic Society yn Llundain.

Fel canlyniad i'w luniau cael eu gweld yn Llundain fe wahoddwyd i ymuno'r grŵp ffotograffig y Linked Ring gan Fredrick H, Evans. Hefyd cyhoeddwyd Alfred Stieglitz ei luniau yng nghylchgrawn 'Camera'. Y ddau yn enwau mawr ffotograffiaeth y cyfnod a'i gynorthwyodd i ddysgu ac arddangos.

Teithiodd yn helaeth rhwng Ewrop a'r Unol Daleithiau o 1899 a 1912. Tynnodd luniau tirweddau a dinasoedd, yn enwedig yn Llundain ond roedd yn fwyaf adnabyddus am gyfres o bortreadau enwogion. Ymhlith yr enwau mawrion a dynnoedd eu lluniau mae awduron ac artistiaid fel Henri Matisse, George Bernard Shaw, Auguste Rodin, Mark Twain, Theodore Roosevelt, W.B. Yeats a H.G. Wells.

Ar ddechrau'r 20g bu ffotograffiaeth yn dal yn ddyfodiad cymharol newydd gyda byd celf y cyfnod yn araf i'w hystyried a'i harddangos ochr ac ochr a pheintio a cherfluniaeth. Roedd gwaith tirwedd Pictorialist Langdon Coburn yn gyfraniad sylweddol wrth ddatblygu a chydnabod ffotograffiaeth yn gelfyddyd yn hytrach na dim ond yn 'gynnyrch peiriant'. Ystyrir Langdon Coburn a Stieglitz yn sylfaenwyr Pictorialism.

Arbrofodd hefyd gydag Autochrome Lumière a fu'n broses ffotograffiaeth liw arloesol.

Yn 1912 fe briododd â Edith Wightman Clement yn Boston a symudodd y cwpl i Loegr gan beidio byth â dychwelyd i'r Unol Daleithiau.

Yn Llundain, (yn rhannol o dan ddylanwad ei gyfaill y bardd Ezra Pound) fe gydweithiodd gyda grŵp avant-garde newydd y Vorticists. Yn ystod y cyfnod hwn, fe newidiodd i ffotograffiaeth haniaethol (abstract), a'u alwodd yn vortographs. Defnyddiwyd drychau a gwydrau dros lens y camera i greu patrymau rhanedig yn debyg i waith peintwyr Ciwbaidd a Dyfodolwyr (Futurists) y cyfnod. Ystyrir ei vortographs yn arloesol wrth torri tir newydd yn natblygiad ffotograffiaeth gynnar.[2]

Symud i Gymru a'r Seiri Rhyddion[golygu | golygu cod]

Plac ar ei hen dŷ yn Harlech

Collodd Langdon Coburn ei ddiddordeb yn ffotograffiaeth am obsesiwn gyda mysticism, hud a lledrith, derwyddon ac yn dod yn aelod brwd o'r Seiri Rhyddion. Fel llawer o artistiaid a llenorion y cyfnod bu'n aelod o'r 'Theosophical Society' mudiad a ymddiddorodd yn hud a mysticism.

Dechreuodd gysylltiad Langdon Coburn gyda Chymru ym 1916 pan ymwelodd â Harlech ar wahoddiad George Davison (1854-1930), pennaeth Kodak yng ngwledydd Prydain. (Trowyd 'Wern Fawr', tŷ George Davison i fod yn Goleg Harlech blynyddoedd wedyn).[3] Dwy flynedd yn ddiweddarach fe brynodd Langdon Coburn darn o dir yn Harlech ac adeiladodd tŷ haf a alwodd yn 'Cae Besi'.

Wrth iddo golli pob diddordeb yn ffotograffiaeth dywedir iddo daflu dros 15,000 o blatiau gwydr a negatifau ffotograffig a wedyn symud i fyw yn barhaol Harlech.

Fel aelod selog o'r Seiri Rhyddion ddaeth yn Inspector General, Thirty-third Degree, for North Wales of The Ancient and Accepted Rite a hefyd yn Provincial Grand Master of the Mark Degree for North Wales. Hefyd ymchwiliodd mewn i hanes, seremonïau a symbolau'r Seiri Rhyddion gan deithio trwy Gymru a Lloegr i ymweld â nifer fawr o 'Lodges'.

Gwahoddwyd i ymuno â Gorsedd y Beirdd ym 1927, yn derbyn y wisg werdd yn Eisteddfod Lerpwl.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd symudodd i fyw yn Llandrillo-yn-Rhos ger Fae Colwyn ble bu'n byw tan ddiwedd ei oes ym 1966 yn Awen, Ebberstone Road East. Fe'i gladdwyd gerllaw yn Eglws Llandrillo.[4] [5][6]

Lluniau adnabyddus[golygu | golygu cod]

Portreadau enwogion[golygu | golygu cod]

Llundain 1920au[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Alvin Langdon Coburn, Alvin Langdon Coburn, Photographer, An Autobiography, Dover Publications, 1978, ISBN 0-486-23685-4

Dolenni[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mike Weaver: Alvin Langdon Coburn, Symbolist Photographer NY, 1986, s. 6,20
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2015-01-23.
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-04. Cyrchwyd 2015-01-26.
  4. http://babylonwales.blogspot.co.uk/2010/09/alvin-langdon-coburn-in-north-wales.html
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2015-01-23.
  6. http://historypoints.org/index.php?page=graves-at-llandrillo-yn-rhos-churchyard