Allor Moloch
Math | safle archaeolegol, safle archeolegol cynhanesyddol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.255893°N 3.810886°W, 53.25599°N 3.811055°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | DE125 ![]() |
Mae Allor Moloch yn siambr gladdu o'r cyfnod Neolithig sydd wedi'i lleoli gerllaw Llansanffraid Glan Conwy yn Sir Conwy; cyfeiriad grid SH792747. Cyfeiria CADW ati fel "Siambr gladdu ger Hendre-Waelod" (enw fferm gerllaw).[1]
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Lleolir y siambr gladdu hon ar godiad tir isel ar lan dde Afon Conwy tua milltir i'r de-orllewin o bentref Llansanffraid Glan Conwy, mewn cae ger lein Rheilffordd Dyffryn Conwy a thua chan llath o'r afon.[2]
Ceir siambr hirsgwar beddrod o Oes Newydd y Cerrig gyda maen clo mawr a phar o feini ar eu sefyll yn ffurfio porth yng nghornel y de-orllewin. Does dim olion o'r garnedd a fyddai drosti yn aros.[3]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Gelwir y mathau hyn o siambrau yn ”garnedd gellog hir” ac fe'i cofrestrwyd fel heneb gan Cadw gyda'r rhif SAM: DE125.
Yn ôl pob tebyg, defnyddiwyd yr heneb hon gan y Celtiaid ar gyfer defodau crefyddol ac i gladdu neu gofio am y meirw.
Enw
[golygu | golygu cod]Mae Moloch yn enw Beiblaidd ar un o dduwiau'r Amoneaid sy'n gysylltiedig ag aberthu plant.[4] Mae'r enw hwn ar y siambr gladdu yn adlewyrchiad o'r gred llên gwerin leol bod y maen glo yn cael ei ddefnyddio ar gyfer aberth ddynol.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Data Cymru Gyfan, CADW
- ↑ Map OS 1:25,000 Eryri, Ardal Dyffryn Conwy
- ↑ Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber and Faber, 1978).
- ↑ Thomas Charles, Y Geiriadur Ysgrythurawl, Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1885 Moloch