Y Geiriadur Ysgrythurawl

Geiriadur Beiblaidd Cymraeg yw Y Geiriadur Ysgrythurawl (Y Geiriadur Ysgrythurol), a ysgrifennwyd gan Thomas Charles o'r Bala (1755-1814) ac a gyhoeddwyd ganddo mewn pedair cyfrol ar ddechrau'r 19g (1805, 1808, 1810, 1811).[1]
Torrodd y geiriadur Beiblaidd hwn dir newydd yn y Gymraeg gan gyflwyno wybodaeth newydd i'r Cymry nid yn unig ym meysydd yr Ysgrythurau Cristnogol a diwinyddiaeth ond hefyd yn naearyddiaeth, byd natur a hanes yr Henfyd.[1]
Cafodd y llyfr ei ailargraffu sawl gwaith yn ystod y 19g, fel rheol fel un gyfrol, ac roedd cyfrol fawr swmpus "Geiriadur Charles" yn un o'r llyfrau mwyaf poblogaidd y cyfnod, yn enwedig ar aelwydydd Ymneilltuol. Mae'r 7fed argraffiad, a gyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam yn 1885 yn cynnwys dros 930 tudalen o faint mawr mewn colofnau dwbl.[2] [3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
- ↑ Geiriadur Ysgrythurol (Wrecsam, 1885).
- ↑ "Geiriadur Ysgrythurol" (Argraffedig ac ar werth gan R. Saunderson, 1864).