Alice Through the Looking Glass

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Alice Through the Looking Glass
Cyfarwyddwr James Bobin
Cynhyrchydd
Awdur Linda Woolverton
Seiliwyd ar Cymeriadau greuwyd gan Lewis Carroll
Yn serennu
Cerddoriaeth gan Danny Elfman
Sinematograffi Stuart Dryburgh
Golygydd Andrew Weisblum
Stiwdio
Dosbarthwr Walt Disney Studios Motion Pictures
Rhyddhawyd
  • Mai 10, 2016 (2016-05-10) (Llundain)
  • Mai 27, 2016 (2016-05-27) (Unol Daleithiau)
Hyd y ffilm (amser) 113 munud[1]
Gwlad Unol Daleithiau America
Iaith Saesneg
Cyfalaf $170 miliwn[2]
Gwerthiant tocynnau $299.4 miliwn[1]

Ffilm ffantasi antur Americanaidd o 2016 yw Alice Through the Looking Glass a gyfarwyddwyd gan James Bobin, ysgrifennwyd gan Linda Woolverton a cynhyrchwyd gan Tim Burton, Joe Roth, Suzanne Todd a Jennifer Todd. Mae'n seiliedig ar y cymeriadau a grewyd gan Lewis Carroll ac yn ddilyniant i'r ffilm Alice in Wonderland a ryddhawyd yn 2010. Mae'r ffilm yn serennu Johnny Depp, Anne Hathaway, Mia Wasikowska, Matt Lucas, Rhys Ifans, Helena Bonham Carter a Sacha Baron Cohen ac yn cynnwys lleisiau Stephen Fry, Michael Sheen, Timothy Spall ac Alan Rickman, yn ei ran ffilm olaf.

Yn y ffilm, mae Alice yn dod o hyd i ddrych hudol sy'n ei chymryd nôl i Wlad Hud, lle mae'n canfod yr Hetiwr Gwallgof yn ymddwyn yn fwy gwallgof nac erioed ac yn eisiau darganfod y gwir am ei deulu. Mae Alice wedyn yn teithio drwy amser (gyda'r "Cronosffêr"), yn gweld ffrindiau a gelynion ar adegau gwahanol o'u bywydau, ac yn cychwyn ar ras i achub yr Hetiwr cyn i amser redeg allan.

Dangoswyd y ffilm gyntaf yn Llundain ar 10 Mai 2016 a fe'i ryddhawyd yn y sinemâu gan Walt Disney Pictures ar 27 Mai 2016. Cafodd y ffilm adolygiadau gwael gan y beirniaid ac ystyriwyd nad oedd wedi llwyddo cystal o ran gwerthiant tocynnau oherwydd y gymhariaeth gyda llwyddiant y ffilm gyntaf.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]