Alice Through the Looking Glass
![]() | |
![]() | |
Enghraifft o: | ffilm ![]() |
---|---|
Lliw/iau | lliw ![]() |
Gwlad | Unol Daleithiau America ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 26 Mai 2016, 27 Mai 2016, 27 Mai 2016, 2 Mehefin 2016 ![]() |
Genre | ffilm ffantasi, ffilm dylwyth teg ![]() |
Cyfres | Alice in Wonderland ![]() |
Lleoliad y gwaith | Llundain ![]() |
Hyd | 113 munud ![]() |
Cyfarwyddwr | James Bobin ![]() |
Cynhyrchydd/wyr | Tim Burton, Joe Roth, Suzanne Todd, Jennifer Todd ![]() |
Cwmni cynhyrchu | Walt Disney Pictures, Roth Films, Team Todd, Tim Burton Productions ![]() |
Cyfansoddwr | Danny Elfman ![]() |
Dosbarthydd | Walt Disney Studios Motion Pictures, Netflix, Disney+ ![]() |
Iaith wreiddiol | Saesneg ![]() |
Sinematograffydd | Stuart Dryburgh ![]() |
Gwefan | https://movies.disney.com/alice-through-the-looking-glass ![]() |
![]() |
Ffilm ffantasi antur o'r Unol Daleithiau o 2016 yw Alice Through the Looking Glass a gyfarwyddwyd gan James Bobin, ysgrifennwyd gan Linda Woolverton a cynhyrchwyd gan Tim Burton, Joe Roth, Suzanne Todd a Jennifer Todd. Mae'n seiliedig ar y cymeriadau a grewyd gan Lewis Carroll ac yn ddilyniant i'r ffilm Alice in Wonderland a ryddhawyd yn 2010. Mae'r ffilm yn serennu Johnny Depp, Anne Hathaway, Mia Wasikowska, Matt Lucas, Rhys Ifans, Helena Bonham Carter a Sacha Baron Cohen ac yn cynnwys lleisiau Stephen Fry, Michael Sheen, Timothy Spall ac Alan Rickman, yn ei ran ffilm olaf.
Yn y ffilm, mae Alice yn dod o hyd i ddrych hudol sy'n ei chymryd nôl i Wlad Hud, lle mae'n canfod yr Hetiwr Gwallgof yn ymddwyn yn fwy gwallgof nac erioed ac yn eisiau darganfod y gwir am ei deulu. Mae Alice wedyn yn teithio drwy amser (gyda'r "Cronosffêr"), yn gweld ffrindiau a gelynion ar adegau gwahanol o'u bywydau, ac yn cychwyn ar ras i achub yr Hetiwr cyn i amser redeg allan.
Dangoswyd y ffilm gyntaf yn Llundain ar 10 Mai 2016 a fe'i ryddhawyd yn y sinemâu gan Walt Disney Pictures ar 27 Mai 2016. Cafodd y ffilm adolygiadau gwael gan y beirniaid ac ystyriwyd nad oedd wedi llwyddo cystal o ran gwerthiant tocynnau oherwydd y gymhariaeth gyda llwyddiant y ffilm gyntaf.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]
|